Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Hydref 2019.
Ddirprwy Weinidog, mae ardaloedd fel Caerffili, fel y dywedwch, yn gyfoethog iawn o ran eu treftadaeth ddiwydiannol, a chredaf, yn yr holl rannau diwydiannol hynny o Gymru, fod treftadaeth ddiwydiannol yn aml yn nwylo grwpiau lleol, a chynghorau lleol, yn amlwg. Sylwais yn ddiweddar ar Grŵp Treftadaeth Cwm Aber a'r hyn y maent wedi'i wneud yn y gorffennol i godi ymwybyddiaeth o drychineb Senghennydd a chadw'r atgof am hynny'n fyw drwy arddangosfeydd lleol ac ati. Ond mae arddangosfeydd, cofnodion, ffotograffau, deunydd addysg, cofebion, celf gyhoeddus a llwybrau cerdded i gyd yn hanfodol wrth gadw ein cof fel rhywbeth byw o'n gorffennol. A gobeithiaf eich bod yn gweithio gyda'r cynghorau i sicrhau bod gan y grwpiau hyn o bobl sy'n dod at ei gilydd y lefel honno o arbenigedd, efallai, i gynnal gwefannau ac ati, ond hefyd arwyddion, celf gyhoeddus—mae'r pethau hyn yn agored i fenter leol, oherwydd mewn gwirionedd, maent yn cynhyrchu enghreifftiau rhagorol o sut i ofalu am ein treftadaeth.