Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghaerffili

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:42, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am hynny, David. Rwyf wedi treulio peth amser yn ymweld, yn benodol, â'r amgueddfeydd lleol, a'r hyn rwy'n annog cymdeithasau a grwpiau gwirfoddol sy'n poeni naill ai am y dreftadaeth adeiledig neu unrhyw agwedd arall ar yr amgylchedd neu ein cof diwydiannol i'w wneud yw gweithio'n agos gyda'n hamgueddfeydd lleol a hefyd gyda'r amgueddfa genedlaethol ei hun, oherwydd yn amlwg, ceir arbenigedd yno y gellir ei ddarparu bob amser i gynorthwyo cymdeithasau lleol gyda'u gweithgareddau cadwraeth. Ond os oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol yn eich rhanbarth chi, rhanbarth y gwn ei fod yn llawn treftadaeth o'r math hwn, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech dynnu ein sylw atynt, os ydych yn teimlo bod diffyg cefnogaeth yma i fentrau gwirfoddol lleol.