Hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Fynwy

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:53, 16 Hydref 2019

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei fod e'n glir ein bod ni wedi gallu rhoi'r arian cyfalaf ychwanegol yna i mewn. Mae £2.5 miliwn wedi mynd mewn i gynyddu'r capasiti yn Ysgol Gymraeg y Ffin yn Caldicot. Beth sy'n glir yw, o ran refeniw, os na fydd y plant yma yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg, wedyn bydd yr arian yn cael ei wario ar y Gymraeg. Felly, o ran refeniw, dylai yna ddim bod gwahaniaeth o ran ble maen nhw a pha iaith maen nhw'n cael eu haddysg ynddi. Felly, mae fyny i'r llywodraeth leol gynllunio ar sail y ffaith eu bod nhw'n gwybod bod rhaid iddyn nhw symud ar hyd trywydd lle rŷn ni'n disgwyl bydd mwy o blant yn mynd i ysgolion Cymraeg, ac mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio eu refeniw ar sail y cynllun yna.