Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 16 Hydref 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei atebion hyd yn hyn ac archwilio un neu ddau o faterion ychydig bach yn fwy manwl? Yn amlwg, mae ffatri system ceblau Hi-Lex ym Maglan wedi'i lleoli ym mharc ynni Baglan, ac efallai y dowch o hyd i un neu ddwy o swyddfeydd rhanbarthol Aelodau'r Cynulliad ym mharc ynni Baglan hefyd; mae Bethan Sayed a minnau'n rhannu swyddfa nid nepell o'r cwmni hwn.
Felly, ie, ffatri cydrannau ceir yw hi, mae'n cyflenwi Ford a Honda, mae'n gwneud ceblau, cydrannau ffenestri a drysau ar gyfer ceir, ac mae cyhoeddiad heddiw, fel y dywedoch chi, yn dweud y bydd yn cau ym Maglan pan fydd ffatri Honda yn cau yn Swindon ymhen dwy flynedd. Mae'r ffatri ym Maglan, yn amlwg, yn cau, ond ni fydd y gwaith cynhyrchu'n dod i ben; bydd cynhyrchiant yn cael ei drosglwyddo i Hwngari, sy'n dal i fod yn rhan o'r UE ar hyn o bryd. Nawr, yn amlwg, mae hwn, fel rydych wedi'i grybwyll, yn benderfyniad hynod siomedig gan Hi-Lex heddiw, ac mae'n ergyd arall, fel y dywedodd Dai Rees, i economi'r rhanbarth, mor fuan ar ôl y newyddion y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau hefyd, ac maent yn cyflenwi Ford.
Nawr, amser maith yn ôl, roedd de Cymru yn gatalydd i'r chwyldro diwydiannol ac yn weithgynhyrchwyr y byd ar un adeg. Ac yn awr rydym yn gweld corfforaeth amlwladol arall yn siomi eu gweithlu ffyddlon yng Nghymru ac yn symud cynhyrchiant i rywle arall, y tro hwn i Hwngari. Mae'n newyddion torcalonnus i'r 125 o weithwyr a'u teuluoedd ym Maglan a thu hwnt. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld swyddi'n cael eu colli yng Ngorllewin De Cymru, ac yn wir, mewn mannau eraill yng Nghymru, oherwydd bod Llywodraeth Cymru'n methu hyrwyddo arloesedd mewn diwydiannau nad oes ganddynt ddewis ond arloesi os ydynt am oroesi.
Rydym yn gwybod popeth am y newidiadau y mae angen iddynt ddigwydd ym maes cynhyrchu ceir, ond mae Llywodraethau eraill wedi rheoli newid arloesol, fel yn Ottawa yng Nghanada, lle mae Llywodraeth Ontario a Llywodraeth Canada wedi cyd-fuddsoddi mewn canolfan newydd yno, canolfan ymchwil a datblygu Ford, sy'n gweithio ar gerbydau awtonomaidd. Mae yna newid mewn cynhyrchu ceir—ceir newydd, ceir gwahanol yn y dyfodol. Nid yw'n golygu bod yn rhaid i'r diwydiannau hyn gael eu clymu wrth yr hyn y maent bob amser wedi'i wneud. Agorodd y ganolfan honno yng Nghanada yn gynharach eleni gyda mwy na 300 o swyddi.
Yn ôl i Faglan, yn ôl y cyhoeddiad, ni fydd unrhyw swyddi'n mynd am y 12 mis nesaf—honnir y bydd y ffatri'n aros ar agor tan 2021—felly, ar yr wyneb, mae yna amser i gynllunio. Clywaf yr hyn rydych yn ei ddweud am ReAct, ond fel arfer mewn amgylchiadau fel hyn cawn gyhoeddiad fod hyn a hyn o gannoedd o swyddi'n cael eu colli yn y ffatri hon a hon, a dyna ni—tri mis, ac mae popeth yn cau. Nid dyna'r sefyllfa yn yr achos arbennig hwn, felly a gaf fi archwilio'r cynlluniau'n fwy manwl gyda'r Gweinidog, efallai—? Mae gennym amser yma i gynllunio ar gyfer dyfodol y gweithwyr ym Maglan, oherwydd bydd y swyddi'n parhau am 12 mis, yn ôl y rheolwyr. Felly, sut y bwriadwn sicrhau trawsnewidiad mwy esmwyth fel ein bod yn cadw'r swyddi hynny yma yn ne Cymru, ac ehangu o bosibl ar y syniad o gael mwy o ailhyfforddi a phopeth a newid ffocws i weithwyr, ond yn amlwg hefyd, ein bod yn ceisio datblygu gweledigaeth o beth fydd ffatri fodurol yma yng Nghymru yn y dyfodol: a fyddwn yn dal i gynhyrchu cydrannau ceir, ac os felly, ar gyfer pa fath o geir? A ydym yn bwriadu arloesi neu a ydym yn bwriadu sefyll yn llonydd a gwylio ffatrïoedd ceir olynol fel hyn yn cau o un diwrnod i'r llall? Rwy'n ceisio sicrhau gweledigaeth hirdymor yma gan y Gweinidog. Diolch yn fawr.