– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 16 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Suzy Davies.
Diolch eto, Lywydd. Mae'n debyg nad yw'n syndod clywed gennyf i am hyn, ond heddiw, 16 Hydref, yw Diwrnod Adfywio Calon. Mae sefydliadau o bob rhan o'r byd yn dod at ei gilydd i gynyddu ein hymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi i gael yr wybodaeth a'r hyder i gamu ymlaen os oes rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Cynhelir digwyddiadau hyfforddi ledled Cymru, nid yn unig heddiw ond drwy gydol gweddill yr wythnos a'r mis, a gobeithio y bydd rhai ohonoch yn ymuno â mi yma mewn sesiwn hyfforddi yfory sy'n cael ei chynnal gan Calonnau Cymru. Mae mudiadau gwirfoddol eraill hefyd yn cymryd rhan yn y mudiad byd-eang hwn yn awr.
Bydd aelodau o'r cyhoedd yn dod yfory hefyd, a gallant ddysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr, a sut i wneud adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) wrth gwrs, os bydd rhywun yn cael trawiad ar y galon. Mae'r sgiliau hyn mor hawdd i'w dysgu ac maent yn achub bywydau, a dyna pam rwy'n annog pob un ohonoch i ddod yfory, os gallwch.
Pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, mae ei obaith o oroesi yn gostwng 14 y cant am bob munud sy'n mynd heibio heb driniaeth, felly mae'r sgiliau hyn mor dyngedfennol. Mewn gwledydd lle mae achub bywyd yn rhan o'r cwricwlwm, fel yn Norwy a Denmarc, yn ogystal â rhai o daleithiau'r Unol Daleithiau, gall eich gobaith o oroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty fod mor uchel â 50 y cant, am fod gan y boblogaeth yn gyffredinol sgiliau y gallant eu defnyddio. Yma yng Nghymru, 3 y cant yn unig yw'r ffigur hwnnw. Nid wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol ac nid wyf yn credu ei fod yn ddigon da i bobl yma yng Nghymru.
Felly, p'un a ydych wedi cael hyfforddiant o'r blaen neu eich bod heb erioed gyfarfod â Resusci Annie, mae gennym oll rywbeth y gallwn ei gyfrannu mewn argyfwng. Gallai eich gweithredoedd helpu i achub bywyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu cwrs hyfforddi. Diolch.
Y dydd Gwener hwn, 18 Hydref, yw Diwrnod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth neu Ddiwrnod Gwisgwch Goch. Mae'n gyfle i bob un ohonom fyfyrio ar yr effeithiau dinistriol y gall cam-drin hiliol eu cael ar fywyd bob dydd yn ein hysgolion, ein cymunedau a hyd yn oed ar feysydd chwaraeon.
Ni all neb beidio â chael ei gyffwrdd gan y golygfeydd ofnadwy o Fwlgaria ddydd Llun diwethaf, yn cynnwys siantiau ac ystumiau hiliol tuag at dîm pêl-droed Lloegr. Roedd y golygfeydd a welsom yn frawychus, yn peri gofid ac yn anad dim, yn gwbl annerbyniol, naill ai ar y cae chwarae neu unrhyw le arall. Felly, rwy'n falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chlybiau Cymru yn cefnogi mis gweithredu'r cerdyn coch i dynnu sylw at y broblem a chefnogi ymdrechion yr ymgyrch i'n haddysgu ni i gyd nad oes gan hiliaeth unrhyw ran mewn unrhyw fywyd.
Mae'n ddyletswydd arnom i dynnu sylw ato, a dyna pam y byddaf yn cefnogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ddydd Gwener. Rydym yn genedl chwaraeon falch—mae gwisgo coch yn dod yn naturiol i ni, boed yn grys rygbi neu'n grys pêl-droed. Ond bob tro y gwisgwn y crys coch hwnnw, dylem oedi i gofio beth yw neges dydd Gwener: gwrthwynebwch hiliaeth.
Rydym yn genedl falch, yn falch o ddathlu ein diwylliant amrywiol cyfoethog, ac ymuno ag eraill i ddathlu eu diwylliant hwythau. Dyna sy'n rhoi ystyr i fywyd. A dylem wrthwynebu'r rhai sydd, drwy eu safbwyntiau cul, yn ceisio dinistrio hyn, yn enwedig yn awr wrth inni weld troseddau hil a chasineb yn cynyddu. Dyna pam y dylem ddangos y cerdyn coch i hiliaeth, nid yn unig ddydd Gwener, ond bob dydd. [Cymeradwyaeth.]