Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 16 Hydref 2019.
Mewn unrhyw ddadl ynglŷn â defnyddio plastig, rhaid i ni ofalu nad ydym yn taflu'r babi allan gyda dŵr y bath. Mae i blastig lawer math o ddefnydd dilys costeffeithiol a synhwyrol. Felly, os ydym am fod yn effeithiol yn ein brwydr yn erbyn llygredd plastig, rhaid inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y defnydd ohono y gellir ei osgoi'n llwyr, neu'r mathau o ddefnydd y mae modd eu hymestyn. Dylem geisio lleihau'r defnydd o eitemau plastig untro yn helaeth, neu'n well byth, ei ddileu'n llwyr. Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno bod defnyddio eitemau plastig untro bellach ar lefelau epidemig. Nid oes amheuaeth ychwaith fod eitemau plastig untro yn cyfrannu'n helaeth at lefelau llygredd y Ddaear. Y prif droseddwr yw'r botel blastig dafladwy, wrth gwrs. Mae'r ystadegau'n erchyll. Mae'r hil ddynol yn prynu 1 filiwn o boteli plastig bob munud. Dim ond 23 y cant sy'n cael eu hailgylchu, sy'n golygu bod dros dri chwarter yn cael eu gadael ar ôl i lygru'r blaned. Gwelwyd cynnydd eithriadol yn y defnydd o boteli plastig dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i brynu dŵr potel, rhywbeth nad oedd nemor ddim sôn amdano yn y DU tan y 1980au, ac yn gyfyngedig yn bennaf i boteli gwydr ar y cyfandir a gweddill y byd datblygedig. Mae'r diwydiant diodydd meddal yn ei gyfanrwydd yn ffactor pwysig yn y ffigurau ar gyfer plastig untro.
Felly, gwyddom beth yw'r broblem—a oes yna ateb hirdymor, cynaliadwy? Rwy'n credu y dylem i gyd gytuno nad oes un ateb syml. Fe'i ceir mewn nifer o ymyriadau, a gallwn ni yng Nghymru weithredu rhai ohonynt yn unochrog, ac eraill a fydd yn galw am gydweithrediad a gweithredu ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Mae'r opsiynau ar gyfer ymyriadau unochrog i Gymru yn gyfyngedig. Trafodwyd y posibilrwydd o gyflwyno system dychwelyd ernes yn y Cyfarfod Llawn o'r blaen. Rwy'n gredwr mawr yn yr ateb hwn, ar yr amod fod yn rhaid i'r ernes fod ar lefel a fydd yn annog pobl i ailgylchu o ddifrif. Gallem edrych ar y posibilrwydd o annog cynhyrchwyr ac archfarchnadoedd i leihau eu defnydd o ddeunydd pacio plastig, a gallwn sefydlu banciau ailgylchu i hwyluso'r broses o ailgylchu poteli.
Ni, wrth gwrs, oedd y wlad gyntaf i gyflwyno tâl am fagiau plastig, ond o gofio bod 4 triliwn o fagiau plastig yn cael eu dosbarthu bob blwyddyn yn fyd-eang, gyda dim ond 1 y cant yn cael eu hailgylchu, efallai y gallem ystyried gwahardd bagiau plastig yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac fel gyda'r tâl, efallai y dôi pob un o lywodraethau'r DU i'n hefelychu.
Diolch i'r Aelod dros Ogwr am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr. Rhaid inni beidio â gadael hyn i fod yn drafodaeth ddiddorol yn unig. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i helpu i liniaru'r drychineb amgylcheddol hon, ac rydym yn falch o gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn.