Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 16 Hydref 2019.
Roedd y ddau brofiad yn dangos pwysigrwydd cymuned i mi a phwysigrwydd peidio â sefyll o'r neilltu. Y rhan waethaf o'r profiadau oedd cael pobl yn cerdded heibio i chi gan edrych i lawr; roedd yr ymdeimlad o arwahanrwydd yn ofnadwy. Gwyddom hefyd fod iechyd meddwl ac unigrwydd yn arbennig o gyffredin ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw ar ein strydoedd. I lawer, bod yn berchen ar gi yw'r unig bwynt cyswllt a fydd ganddynt, a ffynhonnell o gryfder i'w cynnal drwy eu noson. Efallai mai dyna'r unig oleuni sy'n bodoli i rywun.
Mae cŵn ar y stryd yma i aros, p'un a ydych yn cytuno â hynny neu beidio. Dyna pam y mae hi mor bwysig troi at brosiect Hope, dan arweiniad y Dogs Trust, i roi cyd-destun i'r ddadl fer hon. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr llety yn y DU yn dal i weithredu polisi 'dim cŵn', sy'n golygu y caiff pobl ddigartref sy'n berchnogion cŵn eu hamddifadu o fynediad at y lloches a'r cymorth y maent ei angen mor daer. Mae'n bolisi hunandrechol, sy'n golygu nad yw darparwyr yn gallu agor eu drysau na chynnig cymorth i'r union bobl y dylent fod yn ceisio'u helpu. Mae prosiect Hope yn gweithio gyda hostelau a darparwyr tai i'w hannog i dderbyn cleientiaid gyda chŵn. Mae'r Dogs Trust yn gweithio mewn partneriaeth â Homeless UK i ddarparu cyfeirlyfr o hostelau sy'n croesawu cŵn. Ar hyn o bryd, mae llai na 10 y cant o'r hostelau yn y DU yn croesawu cŵn, sy'n golygu bod llawer o berchnogion cŵn yn cael eu hamddifadu o loches a chymorth am fod ganddynt anifail anwes.
Ar draws Cymru, dim ond wyth hostel sy'n gweithredu polisi o groesawu cŵn. Nid oes gan 18 o'n 22 awdurdod lleol unrhyw hostelau sy'n croesawu cŵn o gwbl. Rwy'n ddiolchgar iawn i The Wallich, Tŷ Tresillian, YMCA The Ambassador a Byddin yr Iachawdwriaeth, sydd i gyd yn caniatáu i gŵn anwes ddod i mewn i'w llety. Mae'r sefyllfa lawn cynddrwg dros y ffin yn Lloegr. Yn ôl prosiect Hope, dim ond un hostel sy'n gweithredu polisi o groesawu cŵn yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Mae'r darlun yng Ngogledd Iwerddon yn debyg, gyda dim ond un hostel sy'n croesawu cŵn wedi'i restru yn y wlad gyfan, yn Belfast. Ac yn yr Alban, ceir dau yn y wlad i gyd, a'r ddau yng Nghaeredin.
Nawr, bydd rhai'n dweud y dylai'r sawl sy'n chwilio am lety gael gwared ar eu ci. Nawr, ni allwn byth wneud hynny, Ddirprwy Lywydd, ac yn bendant mae hwnnw'n benderfyniad na ddylent orfod ei wneud. Mae llawer o fanteision i dderbyn cŵn i hostelau, nid yn unig i'r perchnogion a'r cŵn eu hunain, ond i staff a phreswylwyr eraill. Pan orfodir pobl ddigartref i ddewis rhwng eu ci a lle mewn hostel, bydd y rhan fwyaf, yn ddealladwy, yn dewis aros gyda'u ci, gan mai eu ci fel arfer yw eu ffrind gorau, eu cydymaith. Mae'r cwlwm rhwng unrhyw berchennog a'u ci yn un cryf, ond ni fydd byth yn fwy na'r berthynas rhwng pobl ddigartref a'u cŵn.
Drwy sicrhau ein bod yn agor hostelau i berchnogion cŵn, gallwn sicrhau ein bod yn rhoi mynediad i bobl nid yn unig i'r lloches, ond yr holl gymorth, cyngor a chefnogaeth y gall hostel ei roi iddynt, a dyna'n union y ceisiwn ei gyflawni. Byddai hyn yn golygu y gallai staff sy'n gweithio mewn hostelau sy'n croesawu cŵn helpu pobl ddigartref na fyddent fel arfer yn ymgysylltu â'r gwasanaethau hynny. Gallai siarad â rhywun sy'n ddigartref am eu ci, cymryd rhan yn y sgwrs honno, arwain at sgyrsiau eraill hefyd lle y gallai staff helpu a chefnogi mewn ffyrdd eraill. Mae staff mewn hostelau sy'n croesawu cŵn ledled y DU yn dweud bod cael cŵn yn eu hostel yn ysgafnu'r awyrgylch ac yn gwneud i'r hostel deimlo'n fwy cartrefol.
Nawr, er bod cŵn yn cynnig cyfeillgarwch a chwmnïaeth fawr ei hangen o'r fath, gwyddom y gall eu hiechyd gael ei effeithio gan yr amodau y maent yn byw ynddynt hefyd, a gallai hynny fod yn wir ar y stryd neu mewn lloches. Felly, dyna pam y mae'r cynllun milfeddygol hefyd yn rhan arall o'r prosiect, sy'n rhoi triniaeth filfeddygol am ddim i gŵn y mae eu perchnogion yn ddigartref neu'n wynebu argyfwng tai. Mae gan gŵn sy'n rhan o'r cynllun hawl i gael triniaethau lladd chwain a llyngyr, brechiadau a microsglodynnu am ddim a bydd y Dogs Trust hefyd yn ariannu'r rhan fwyaf o driniaethau angenrheidiol ychwanegol y gallai fod eu hangen ar gŵn. Mae'r cynllun yn weithredol mewn 113 o drefi a dinasoedd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bractisau milfeddygol lleol, yr elusennau a'r sefydliadau eraill i'r digartref sy'n gwneud y math hwn o gymorth yn bosibl.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn fod y Gweinidog, mewn datganiad yr wythnos diwethaf, wedi sôn am Tai yn Gyntaf, mater a gyflwynais i'r Siambr hon y llynedd. Mae hi'n gywir i ddweud bod cael polisi tai yn gyntaf yng Nghymru yn golygu y gall pobl sicrhau llety parhaol, diogel lle mae croeso i anifeiliaid anwes a gallant ei droi'n gartref. Ond er bod polisi tai yn gyntaf yn amlwg yn rhywbeth rydym ei eisiau, a bod gwaith gwych yn digwydd, rwy'n ymwybodol iawn hefyd fod pobl yn dal i orfod defnyddio llety dros dro lle mae polisïau 'dim cŵn' ar waith. Felly, yn fy marn i, mae angen gwneud rhywbeth yn awr i ymdrin â'r problemau hyn gyda llety dros dro ac nid dibynnu ar Tai yn Gyntaf yn unig.
Mae llety dros dro a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn aml yn deillio o'r sector rhentu preifat, ac yn aml gall 'dros dro' olygu sawl blwyddyn mewn gwirionedd. Yn allweddol, mae hyn, ynghyd â'r polisi 'dim cŵn', yn arwain at dorri'r system a'r dagfa yn y system. Os yw person digartref yn cael dod â'i gi i hostel ond nid i gam nesaf llety dros dro, bydd yn gyndyn o symud ymlaen. Os mai'r unig ddewis yw cael gwared ar eu hanifail anwes, ni fyddant yn symud ymlaen, ac maent yn debygol iawn o fynd yn ôl ar y stryd. Mae'r dagfa yng nghanol y broses dai, sydd i bob pwrpas yn cyfrannu at flocio gwelyau ar lefel hostelau, yn rhywbeth y mae angen i'r awdurdod lleol ei datrys, efallai gyda chymorth neu gymhellion gan y Llywodraeth, sydd â'r gallu i addasu'r canllawiau ar gyfer dyletswyddau tai yn y dyfodol.
Felly, gan symud ymlaen, beth y gall pawb ohonom ei wneud? Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â nifer o grwpiau a phobl sydd â diddordeb yn y mater hwn dros yr wythnosau nesaf ac archwilio beth yn union y gallaf ei wneud y tu hwnt i'r ddadl hon er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth ac eraill. Credaf hefyd fod yn rhaid i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar sicrhau'r llwybrau 'symud ymlaen' ac yn hollbwysig, sicrhau na fydd unrhyw un sy'n gwrthod llety dros dro am na fyddant yn derbyn anifeiliaid anwes yn colli eu hawliau o dan y ddyletswydd tai, am fod hynny'n eu dal mewn cylch o ddigartrefedd ac mae hefyd yn dal eu hannwyl anifail anwes yn yr un cylch.
Wrth gloi, a chyn i'r Gweinidog ateb y ddadl bwysig hon, roeddwn am chwarae fideo a gomisiynwyd gan yr elusen Dogs On The Streets, ond nid wyf yn credu y byddai'r 90 eiliad a ganiateir inni o'r pum munud wedi gwneud digon o gyfiawnder â hi. Mae DOTS, a arweinir gan Michelle, yn gweithredu'n wythnosol yn Llundain ar hyn o bryd, yn ogystal â gweithredu gwasanaethau rheolaidd mewn dinasoedd mawr eraill ledled y DU, ac mae'n ystyried ehangu ymhellach. Gyda cherbyd llawfeddygaeth filfeddygol symudol sy'n llawn o gyfarpar, i ganiatáu mynediad rhwydd at gŵn mewn angen, mae DOTS yn sicrhau y darperir yr holl eitemau a gwasanaethau hanfodol am ddim bob wythnos, o ddarparu bwyd i harneisiau a thenynnau newydd, yn ogystal â sesiynau hyfforddi a thacluso. Mae'r fideo'n adrodd hanes Damo a'i gi, Gypsy, a pham fod y mater hwn a gyflwynais i'r Siambr heddiw mor bwysig. Felly, yng ngeiriau Damo, 'Mae pawb angen cydymaith.'
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, gadewch i ni newid yr hyn rwyf fi a chynifer o bobl eraill yn ei weld fel anghyfiawnder mawr, nid yn unig i bobl ddigartref, ond i'w cŵn hefyd. Diolch yn fawr.