– Senedd Cymru am 6:32 pm ar 16 Hydref 2019.
Sy'n dod â ni at y ddadl fer, a galwaf ar Jack Sargeant—. Os ydych chi'n mynd i adael y Siambr, a wnewch chi hynny'n gyflym, os gwelwch yn dda?
Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o arwain y ddadl fer hon, gan ganolbwyntio ar y rhwystr y mae llawer o bobl yn ei wynebu pan fyddant yn ceisio dod oddi ar y stryd a chael y cymorth y maent ei angen mor daer. I mi'n bersonol, yn enwedig os wyf wedi cael diwrnod anodd, boed hynny yn y gwaith, amgylchiadau personol neu pan fydd fy nhîm pêl-droed yn colli, nid oes llawer o bethau'n well na chael fy nghroesawu adref gan fy nghi, Joseph. Nawr, un broblem rydym yn ei hwynebu'n aml yw pwy sy'n mynd i ofalu am Joey os yw fy nheulu a minnau'n mynd i ffwrdd am y penwythnos. Yn anffodus, dyna'r realiti bob nos i rywun sy'n cysgu allan neu rywun sy'n ddigartref.
Mae un person yn cysgu allan ar ein strydoedd yn un person yn ormod. Mae cysgu ar y stryd yn broblem amlwg iawn ym mhob tref a dinas fawr gwaetha'r modd, ond yn wahanol i'r gorffennol, mae hefyd yn cynyddu ym mhob un o'n cymunedau a'n pentrefi lleol. Nid yw hyn yn dderbyniol ac yn fy marn i, nid yw'n anochel. Dylai tai gweddus fod yn hawl ddynol sylfaenol mewn gwlad gyfoethog fel ein gwlad ni. Fel y dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei datganiad yr wythnos diwethaf, dengys ystadegau'r Llywodraeth ei hun fod y galw ar wasanaethau'n cynyddu, gyda dros 10,000 o deuluoedd wedi dod i sylw'r awdurdodau lleol yn 2018-19 fel rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod ac 11,000 eisoes yn ddigartref.
Bernir gwlad yn ôl y ffordd y mae'n trin ei phobl fwyaf agored i niwed, ac mewn gormod o feysydd, mae arnaf ofn ein bod yn gwneud cam â phobl sy'n ddigartref. Dyna pam y penderfynais dreulio noson ar strydoedd Caer y llynedd, gyda'r tîm o Share Shop, ac ymunais â fy nghyd-Aelod, Bethan Sayed, ar strydoedd Caerdydd hefyd, i werthu Big Issue.
Roedd y ddau brofiad yn dangos pwysigrwydd cymuned i mi a phwysigrwydd peidio â sefyll o'r neilltu. Y rhan waethaf o'r profiadau oedd cael pobl yn cerdded heibio i chi gan edrych i lawr; roedd yr ymdeimlad o arwahanrwydd yn ofnadwy. Gwyddom hefyd fod iechyd meddwl ac unigrwydd yn arbennig o gyffredin ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw ar ein strydoedd. I lawer, bod yn berchen ar gi yw'r unig bwynt cyswllt a fydd ganddynt, a ffynhonnell o gryfder i'w cynnal drwy eu noson. Efallai mai dyna'r unig oleuni sy'n bodoli i rywun.
Mae cŵn ar y stryd yma i aros, p'un a ydych yn cytuno â hynny neu beidio. Dyna pam y mae hi mor bwysig troi at brosiect Hope, dan arweiniad y Dogs Trust, i roi cyd-destun i'r ddadl fer hon. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr llety yn y DU yn dal i weithredu polisi 'dim cŵn', sy'n golygu y caiff pobl ddigartref sy'n berchnogion cŵn eu hamddifadu o fynediad at y lloches a'r cymorth y maent ei angen mor daer. Mae'n bolisi hunandrechol, sy'n golygu nad yw darparwyr yn gallu agor eu drysau na chynnig cymorth i'r union bobl y dylent fod yn ceisio'u helpu. Mae prosiect Hope yn gweithio gyda hostelau a darparwyr tai i'w hannog i dderbyn cleientiaid gyda chŵn. Mae'r Dogs Trust yn gweithio mewn partneriaeth â Homeless UK i ddarparu cyfeirlyfr o hostelau sy'n croesawu cŵn. Ar hyn o bryd, mae llai na 10 y cant o'r hostelau yn y DU yn croesawu cŵn, sy'n golygu bod llawer o berchnogion cŵn yn cael eu hamddifadu o loches a chymorth am fod ganddynt anifail anwes.
Ar draws Cymru, dim ond wyth hostel sy'n gweithredu polisi o groesawu cŵn. Nid oes gan 18 o'n 22 awdurdod lleol unrhyw hostelau sy'n croesawu cŵn o gwbl. Rwy'n ddiolchgar iawn i The Wallich, Tŷ Tresillian, YMCA The Ambassador a Byddin yr Iachawdwriaeth, sydd i gyd yn caniatáu i gŵn anwes ddod i mewn i'w llety. Mae'r sefyllfa lawn cynddrwg dros y ffin yn Lloegr. Yn ôl prosiect Hope, dim ond un hostel sy'n gweithredu polisi o groesawu cŵn yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Mae'r darlun yng Ngogledd Iwerddon yn debyg, gyda dim ond un hostel sy'n croesawu cŵn wedi'i restru yn y wlad gyfan, yn Belfast. Ac yn yr Alban, ceir dau yn y wlad i gyd, a'r ddau yng Nghaeredin.
Nawr, bydd rhai'n dweud y dylai'r sawl sy'n chwilio am lety gael gwared ar eu ci. Nawr, ni allwn byth wneud hynny, Ddirprwy Lywydd, ac yn bendant mae hwnnw'n benderfyniad na ddylent orfod ei wneud. Mae llawer o fanteision i dderbyn cŵn i hostelau, nid yn unig i'r perchnogion a'r cŵn eu hunain, ond i staff a phreswylwyr eraill. Pan orfodir pobl ddigartref i ddewis rhwng eu ci a lle mewn hostel, bydd y rhan fwyaf, yn ddealladwy, yn dewis aros gyda'u ci, gan mai eu ci fel arfer yw eu ffrind gorau, eu cydymaith. Mae'r cwlwm rhwng unrhyw berchennog a'u ci yn un cryf, ond ni fydd byth yn fwy na'r berthynas rhwng pobl ddigartref a'u cŵn.
Drwy sicrhau ein bod yn agor hostelau i berchnogion cŵn, gallwn sicrhau ein bod yn rhoi mynediad i bobl nid yn unig i'r lloches, ond yr holl gymorth, cyngor a chefnogaeth y gall hostel ei roi iddynt, a dyna'n union y ceisiwn ei gyflawni. Byddai hyn yn golygu y gallai staff sy'n gweithio mewn hostelau sy'n croesawu cŵn helpu pobl ddigartref na fyddent fel arfer yn ymgysylltu â'r gwasanaethau hynny. Gallai siarad â rhywun sy'n ddigartref am eu ci, cymryd rhan yn y sgwrs honno, arwain at sgyrsiau eraill hefyd lle y gallai staff helpu a chefnogi mewn ffyrdd eraill. Mae staff mewn hostelau sy'n croesawu cŵn ledled y DU yn dweud bod cael cŵn yn eu hostel yn ysgafnu'r awyrgylch ac yn gwneud i'r hostel deimlo'n fwy cartrefol.
Nawr, er bod cŵn yn cynnig cyfeillgarwch a chwmnïaeth fawr ei hangen o'r fath, gwyddom y gall eu hiechyd gael ei effeithio gan yr amodau y maent yn byw ynddynt hefyd, a gallai hynny fod yn wir ar y stryd neu mewn lloches. Felly, dyna pam y mae'r cynllun milfeddygol hefyd yn rhan arall o'r prosiect, sy'n rhoi triniaeth filfeddygol am ddim i gŵn y mae eu perchnogion yn ddigartref neu'n wynebu argyfwng tai. Mae gan gŵn sy'n rhan o'r cynllun hawl i gael triniaethau lladd chwain a llyngyr, brechiadau a microsglodynnu am ddim a bydd y Dogs Trust hefyd yn ariannu'r rhan fwyaf o driniaethau angenrheidiol ychwanegol y gallai fod eu hangen ar gŵn. Mae'r cynllun yn weithredol mewn 113 o drefi a dinasoedd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bractisau milfeddygol lleol, yr elusennau a'r sefydliadau eraill i'r digartref sy'n gwneud y math hwn o gymorth yn bosibl.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn fod y Gweinidog, mewn datganiad yr wythnos diwethaf, wedi sôn am Tai yn Gyntaf, mater a gyflwynais i'r Siambr hon y llynedd. Mae hi'n gywir i ddweud bod cael polisi tai yn gyntaf yng Nghymru yn golygu y gall pobl sicrhau llety parhaol, diogel lle mae croeso i anifeiliaid anwes a gallant ei droi'n gartref. Ond er bod polisi tai yn gyntaf yn amlwg yn rhywbeth rydym ei eisiau, a bod gwaith gwych yn digwydd, rwy'n ymwybodol iawn hefyd fod pobl yn dal i orfod defnyddio llety dros dro lle mae polisïau 'dim cŵn' ar waith. Felly, yn fy marn i, mae angen gwneud rhywbeth yn awr i ymdrin â'r problemau hyn gyda llety dros dro ac nid dibynnu ar Tai yn Gyntaf yn unig.
Mae llety dros dro a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn aml yn deillio o'r sector rhentu preifat, ac yn aml gall 'dros dro' olygu sawl blwyddyn mewn gwirionedd. Yn allweddol, mae hyn, ynghyd â'r polisi 'dim cŵn', yn arwain at dorri'r system a'r dagfa yn y system. Os yw person digartref yn cael dod â'i gi i hostel ond nid i gam nesaf llety dros dro, bydd yn gyndyn o symud ymlaen. Os mai'r unig ddewis yw cael gwared ar eu hanifail anwes, ni fyddant yn symud ymlaen, ac maent yn debygol iawn o fynd yn ôl ar y stryd. Mae'r dagfa yng nghanol y broses dai, sydd i bob pwrpas yn cyfrannu at flocio gwelyau ar lefel hostelau, yn rhywbeth y mae angen i'r awdurdod lleol ei datrys, efallai gyda chymorth neu gymhellion gan y Llywodraeth, sydd â'r gallu i addasu'r canllawiau ar gyfer dyletswyddau tai yn y dyfodol.
Felly, gan symud ymlaen, beth y gall pawb ohonom ei wneud? Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â nifer o grwpiau a phobl sydd â diddordeb yn y mater hwn dros yr wythnosau nesaf ac archwilio beth yn union y gallaf ei wneud y tu hwnt i'r ddadl hon er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth ac eraill. Credaf hefyd fod yn rhaid i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar sicrhau'r llwybrau 'symud ymlaen' ac yn hollbwysig, sicrhau na fydd unrhyw un sy'n gwrthod llety dros dro am na fyddant yn derbyn anifeiliaid anwes yn colli eu hawliau o dan y ddyletswydd tai, am fod hynny'n eu dal mewn cylch o ddigartrefedd ac mae hefyd yn dal eu hannwyl anifail anwes yn yr un cylch.
Wrth gloi, a chyn i'r Gweinidog ateb y ddadl bwysig hon, roeddwn am chwarae fideo a gomisiynwyd gan yr elusen Dogs On The Streets, ond nid wyf yn credu y byddai'r 90 eiliad a ganiateir inni o'r pum munud wedi gwneud digon o gyfiawnder â hi. Mae DOTS, a arweinir gan Michelle, yn gweithredu'n wythnosol yn Llundain ar hyn o bryd, yn ogystal â gweithredu gwasanaethau rheolaidd mewn dinasoedd mawr eraill ledled y DU, ac mae'n ystyried ehangu ymhellach. Gyda cherbyd llawfeddygaeth filfeddygol symudol sy'n llawn o gyfarpar, i ganiatáu mynediad rhwydd at gŵn mewn angen, mae DOTS yn sicrhau y darperir yr holl eitemau a gwasanaethau hanfodol am ddim bob wythnos, o ddarparu bwyd i harneisiau a thenynnau newydd, yn ogystal â sesiynau hyfforddi a thacluso. Mae'r fideo'n adrodd hanes Damo a'i gi, Gypsy, a pham fod y mater hwn a gyflwynais i'r Siambr heddiw mor bwysig. Felly, yng ngeiriau Damo, 'Mae pawb angen cydymaith.'
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, gadewch i ni newid yr hyn rwyf fi a chynifer o bobl eraill yn ei weld fel anghyfiawnder mawr, nid yn unig i bobl ddigartref, ond i'w cŵn hefyd. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr i Jack Sargeant am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw. I lawer o bobl sy'n gorfod cysgu allan ar strydoedd ein trefi a'n dinasoedd, rwy'n cytuno'n llwyr fod eu ci neu anifail arall yn gydymaith hollbwysig i'w helpu i ymdopi â'r sefyllfa y maent ynddi. Efallai mai eu ci yw'r unig ffactor cyson a dibynadwy yn eu bywydau. Ni fydd y ci byth wedi eu siomi, maent yn ymddiried ynddo ac yn ei garu ac mae'n cynnig cysur mewn byd lle y gall ymddangos i lawer o bobl fel pe bai pawb wedi rhoi'r gorau i falio amdanynt. Fel y dywedodd Jack, gall anifeiliaid anwes wneud y gwahaniaeth hefyd rhwng llwyddo a methu pan ddoir o hyd i ateb tai, gan helpu i gynyddu'r gobaith y caiff llety ei gynnal yn y tymor hir pan gânt eu croesawu i'r llety hwnnw.
Rwy'n cytuno'n llwyr na ddylai ci person fod yn rhwystr iddynt ddod at wasanaethau ac mae'n gwbl annerbyniol mai felly y mae hi weithiau. Rwy'n ymwybodol fod llawer o'n darpariaethau argyfwng mewn hostelau ledled Cymru yn darparu fwyfwy ar gyfer anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o achosion, mae hyn hefyd, yn briodol iawn, yn cynnwys asesiad risg a gellir penderfynu yn eu cylch yn ôl disgresiwn y landlord neu'r rheolwr prosiect ar y safle. Rwy'n sylweddoli bod yr asesiad risg ynddo'i hun yn rhwystr i rai pobl sydd angen lloches a gwasanaethau. Ond mae'n rhaid ystyried hyn ac mae'n rhaid darparu hyblygrwydd er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion unigolion, boed yn rhywun sydd ag anifail anwes, cwpl sy'n chwilio am lety ar y cyd, neu rywun sy'n awyddus i osgoi dod i gysylltiad â diod neu gyffuriau.
Fodd bynnag, mae angen inni gydnabod hefyd nad cartrefi yw llety a hostelau argyfwng, fel y dywedodd Jack. Ni fyddwn yn diwallu anghenion unrhyw unigolyn hyd nes y byddwn yn dod o hyd i opsiwn tai sy'n addas iddynt yn hirdymor, waeth pa mor dda yw ein llety argyfwng. Fel y dywedais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, ac yn fy ymateb i adroddiad cyntaf y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd ddoe, rwy'n glir iawn y dylai ein dull o weithredu olygu ein bod yn mynd ati'n gyflym i ailgartrefu pobl mewn cartrefi hirdymor addas sy'n diwallu eu hanghenion. Bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod yn cyflwyno'r dull Tai yn Gyntaf yng Nghymru, fel y dywedodd Jack hefyd. Rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn eleni'n unig, i roi cymorth i dros 100 o achosion cymhleth o bobl sy'n cysgu allan. Bydd yr unigolion hyn yn cael eu cynorthwyo i gael llety hirdymor—mewn rhai achosion, eu cartref cyntaf mewn nifer sylweddol o flynyddoedd—ac yna'n cael cynnig y cymorth cofleidiol sydd ei angen arnynt i sicrhau bod y cartref newydd hwnnw'n llwyddo.
Un o egwyddorion allweddol Tai yn Gyntaf yw dewis a rheolaeth i'r unigolyn. Felly, os yw rhywun sydd ag anifail anwes y maent yn dibynnu arno fel cydymaith y gellir ymddiried ynddo wedi'i nodi fel un sydd angen cymorth o dan y rhaglen, caiff ei gynorthwyo i ddod o hyd i lety cynaliadwy sy'n derbyn ei anifail anwes.
Mae datganiad polisi strategol y Llywodraeth ar ddigartrefedd yn nodi'r egwyddorion polisi a fydd yn sail i'n gwaith trawslywodraethol ar fynd i'r afael â digartrefedd a'i atal. Felly, dyma nhw: yr atal cyntaf a'r mwyaf effeithiol; sicrhau bod mynd i'r afael â digartrefedd yn fater i'r gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na thai yn unig; cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn; deddfwriaeth ar ddigartrefedd fel amddiffyniad olaf ac nid y cyntaf; a gwasanaethau ac ymarfer a gaiff eu llywio gan gydgynhyrchu a sicrhau bod y rhai sydd â phrofiadau byw yn chwarae rhan ganolog yn y broses o lunio ein gwasanaethau.
Mae ein huchelgais yn glir: dylai atal olygu camau atal cynnar, sylfaenol ac eilaidd ac yn yr achosion prin lle na ellir atal digartrefedd, dylai fod yn fyr, gydag unigolion a theuluoedd yn cael eu cynorthwyo'n ôl i lety yn gyflym ac yn y ffordd sydd fwyaf tebygol o lwyddo. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn rhoi llety i bobl yn y cartrefi iawn, yn y cymunedau iawn, gyda'r cymorth iawn—boed yn gymorth gan gyfeillion a theulu neu gan wasanaethau cymorth mwy ffurfiol—i roi'r cyfle gorau posibl iddynt allu llwyddo. Ac wrth gwrs, mae'n ddigon posibl y bydd y cartref iawn yn golygu un lle mae croeso i'w ci neu anifail anwes arall hefyd. Fodd bynnag, gallai'r cymorth cywir gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, gofal sylfaenol, diogelwch cymunedol a thai oll yn gweithio gyda'i gilydd—timau amlddisgyblaethol yn cynorthwyo unigolion i fynd i'r afael â'u hanghenion.
Ni cheir prinder gwaith caled, ewyllys ac ymroddiad ar draws y gwasanaethau statudol, y trydydd sector ac elusennau i'r ymgyrch i roi diwedd ar gysgu ar y stryd. Fodd bynnag, yn wyneb y niferoedd a'r heriau cynyddol, rwy'n gofyn i bawb dderbyn bod angen i ni ddod o hyd i ffordd wahanol o fynd i'r afael â'r broblem a'i goresgyn unwaith ac am byth. Dyna pam y gofynnais i'r grŵp gweithredu weithio'n annibynnol a gwneud argymhellion ar bedwar cwestiwn allweddol.
Mae eu hadroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd ddoe, yn edrych yn benodol ar gysgu ar y stryd. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gweithredu ar unwaith ac eraill ar gyfer y tymor hwy. Roeddwn yn glir yn fy ymateb ddoe fy mod yn derbyn pob un ohonynt mewn egwyddor. Roeddwn hefyd yn awyddus iawn i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gweithredu yr un mor gyflym ac ymrwymedig â'r grŵp gweithredu. Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau'n cytuno bod y camau a nodwyd gennym mewn ymateb i'r adroddiad cyntaf yn dangos yn glir ein hymrwymiad i weithio'n wahanol, i wrando ar arbenigwyr a gweithredu'n gyflym ac yn bendant.
Mae'r adroddiad a'n hymateb wedi'u llywio gan ymchwil a phrofiad byw. Bydd allgymorth grymusol yn ganolog i'n hymateb yn ogystal â chydweithredu go iawn ar draws yr holl sefydliadau sy'n gweithio yn y sector, boed yn gyrff statudol, trydydd sector neu elusennol a grwpiau eglwysig. Bydd y ffocws ar ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau canlyniadau tai cynaliadwy hirdymor i unigolion.
Byddwn yn buddsoddi yn ein rhwydwaith cenedlaethol o weithwyr allgymorth i sicrhau eu bod yn cael eu grymuso a'u cefnogi i fod yn bendant, yn hyblyg ac yn arloesol wrth chwilio am atebion hirdymor i broblemau tai ar gyfer y bobl y maent yn ymwneud â hwy. I'w cynorthwyo, rydym hefyd yn benderfynol o hwyluso a chynyddu rhwydweithiau amlasiantaethol lleol. Rydym yn bwriadu archwilio sut y gallai dull o gyllidebu personol helpu i ddiwallu anghenion unigolion yn well a galluogi gweithwyr rheng flaen i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg.
Byddwn yn sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i'r awdurdodau lleol sydd â'r lefelau uchaf o bobl yn cysgu ar y stryd i'w cynorthwyo i gyflawni argymhellion y grŵp gweithredu. Bydd cyllid ar gael hefyd i sicrhau bod darpariaethau argyfwng o ansawdd ac amrywiaeth addas i ddiwallu gwahanol anghenion pobl sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys mater anifeiliaid anwes. Ond nid cynyddu nifer y gwelyau argyfwng sydd ar gael a'r hyn sydd ei angen yw'r diben, ond yn hytrach, sicrhau bod gwelyau argyfwng yn diwallu anghenion y rhai sy'n dod atynt. Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddod â darparwyr tai ynghyd yn yr un ardaloedd er mwyn nodi a gwneud y mwyaf o'r holl dai dros dro a hirdymor sydd ar gael. Rhaid i bob darparwr tai ddeall a chroesawu'r rôl y mae angen iddynt ei chwarae i'n helpu i fynd i'r afael â digartrefedd a'i atal.
Eisteddwn yma ar drothwy'r hyn a all fod yn gyfnod diffiniol yn hanes y wlad hon, ac mae'n bosibl mai canlyniad hynny fydd argyfwng economaidd a allai wthio rhannau sylweddol o'n cymdeithas hyd yn oed yn nes at fod yn ddigartref. Rhaid inni wneud cefnogi ein haelodau mwyf bregus o gymdeithas yn flaenoriaeth nid yn unig mewn geiriau, ond mewn gweithredoedd. Rhaid inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar atebion hirdymor i'r rheini sydd heb gartref, ac ar atal ar yr un pryd y llif o deuluoedd ac unigolion sydd, am ba reswm bynnag, yn methu cynnal y cartref hwnnw. Mae llety argyfwng a hostelau'n bwysig, ond yn gyffredinol mae arnom angen polisïau ac arferion sy'n ein harwain at ddyfodol lle nad oes mo'u hangen a lle mae gan bob unigolyn a'i anifail anwes y cartref sydd ei angen arnynt yn hirdymor. Diolch.
Diolch.