1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Hydref 2019.
3. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ54565
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Dros y 12 mis nesaf, bydd ein hyfforddiant sgiliau yn arwain at gyflwyno Cymorth Swyddi Cymru, gan symleiddio a chyfnerthu'r gyfres bresennol o raglenni cyflogadwyedd. Bydd hynny'n digwydd yng nghyd-destun yr effaith y mae Brexit wedi ei chael ar anghenion sgiliau cyflogwyr Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £120 miliwn i sefydlu wyth o sefydliadau technoleg newydd yn Lloegr. Mae hyn yn ychwanegol at y 12 o sefydliadau sydd eisoes yn weithredol yno. Partneriaeth rhwng colegau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr yw'r sefydliadau hyn, ac maen nhw'n cynnig cymwysterau technegol addysg uwch i fyfyrwyr mewn meysydd fel digidol, adeiladu, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Prif Weinidog, o gofio bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw am fwy o bwyslais ar gymwysterau galwedigaethol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i agor sefydliadau technoleg i wella'r sail sgiliau i weithwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Llywydd, mae'n braf gweld y system yn Lloegr yn dal i fyny â'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yma yng Nghymru. Nid oes angen i ni ddyfeisio canolfannau newydd yng Nghymru, gan fod gennym ni ganolfannau eisoes sy'n gwneud yr hyn y mae'r canolfannau technoleg newydd yn honni eu bod yn ei wneud dros y ffin. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn cynyddu prentisiaethau lefel uwch yn ein colegau addysg bellach. Dyma pam mae gennym ni brentisiaethau gradd, prentisiaethau lefel 6, am y tro cyntaf yn dechrau gweithio ym mis Medi eleni gyda gwerth £20 miliwn o fuddsoddiad newydd. Rydym ni o ddifrif yma yng Nghymru ynglŷn â chymwysterau galwedigaethol, a'u pwysigrwydd yn economi Cymru. Fel rwy'n dweud, maen nhw'n dal i fyny dros y ffin, ac mae'n braf eu gweld nhw'n gwneud hynny.
Mae yna lot o ffocws ar sgiliau athrawon yn y sector statudol o ran dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond does dim cymaint o ffocws ar sgiliau y rheini sy'n dysgu yn addysg bellach o ran sut maen nhw'n medru'r Gymraeg. Yn ystod y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar, daeth Comisiynydd y Gymraeg i mewn atom i ddweud bod yna ddiffyg data yn bodoli ynglŷn â faint o sgiliau sydd yn bodoli yn y sector o ran y tiwtoriaid, a bod yna ddiffyg tiwtoriaid sydd â'r capasiti i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Beth mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud i geisio newid hynny, a pha gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod y rheini sydd yn dysgu ym maes addysg bellach yn gallu meddu ar y sgiliau hynny?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Wrth gwrs, dwi'n cytuno am y gwaith rydym ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn sgiliau pobl yn y dosbarth, mae hwnnw'n hollbwysig i helpu pobl gyda'u hyder i ddefnyddio'r iaith ac i greu awyrgylch ble maen nhw'n gallu defnyddio y sgiliau sydd ganddyn nhw yn barod i helpu pobl ifanc. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi y swm mwyaf yn ein hanes ni yn y gweithlu mewn ysgolion, ac rydym ni eisiau gwneud mwy yn addysg bellach hefyd i ddefnyddio'r gwersi rydym wedi eu gweld yn y dosbarth yn ein hysgolion ni, ac i wneud mwy gyda'r colegau addysg bellach hefyd.
Mae'n rhaid i ni gydnabod yn briodol y gwaith helaeth a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wrth sefydlu'r seilwaith a fydd yn creu gweithlu mwy medrus ar gyfer y dyfodol. A gaf i ofyn, fodd bynnag, pa gynnydd sydd wedi ei wneud gan awdurdodau lleol o ran datblygu llwybrau sgiliau trwy integreiddio hyfforddiant galwedigaethol i'r system addysg ehangach?
Wel, Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyfraniad y gallan nhw ei wneud drwy eu cynrychiolaeth mewn addysg bellach, ac yn yr ysgolion y maen nhw eu hunain yn eu rhedeg, i sicrhau bod yr agenda sgiliau yn cael ei deall a'i gweithredu yno.
Mae'n un o'r pethau allweddol y mae Llywodraeth yn ei wneud, Llywydd, i fuddsoddi mewn pobl ac i roi iddyn nhw y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol. Rydym ni'n disgwyl i bob awdurdod lleol weithio gyda chyflogwyr lleol yn ogystal â gwrando ar lais y dysgwyr eu hunain. Pan gomisiynodd fy nghyd-Weinidog Ken Skates adolygiad annibynnol o bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, un o'r pethau yr oedd yr adroddiad hwnnw'n ei ddweud oedd bod angen i ni ddysgu gan y dysgwyr yn ogystal â gwrando ar lais gweithwyr proffesiynol. Oherwydd byddan nhw'n aml yn dweud pethau pwysig wrthym ni am ansawdd y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ansawdd y profiad y maen nhw'n ei gael pan fyddan nhw allan yn gweithio, a thrwy ddysgu o'u profiad, gallwn wella'r profiad i eraill sy'n dod ar eu holau.