Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 23 Hydref 2019.
Er bod agweddau cymdeithasol a'r gyfraith wedi datblygu llawer dros y degawdau diwethaf, mae llawer o bobl ifanc yn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu derbyn am bwy ydynt yn eu cymunedau eu hunain. Mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhagfarn, camdriniaeth, aflonyddu a gelyniaeth bob dydd. Sut y gallwn sicrhau pobl ifanc y byddant yn cael eu derbyn pan fyddant yn dod allan pan na allwn eu hamddiffyn rhag troseddau casineb? Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae bron i 4,000 o droseddau casineb wedi'u cofnodi yng Nghymru ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a thrawsrywedd. Dyma ffigur uchaf erioed yng Nghymru, ac mae'n golygu bod y ffigurau wedi dyblu bron dros y chwe blynedd diwethaf.
Caiff pobl LHDT sydd hefyd yn bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifol ethnig eu heffeithio gan wahaniaethu dwbl. Yn ôl Stonewall, mae hanner y bobl LHDT du, Asiaidd neu leiafrifol ethnig wedi dioddef camwahaniaethu neu driniaeth wael oherwydd eu hethnigrwydd dan law eraill yn eu cymuned LHDT leol eu hunain, ac mae'r nifer hwn yn codi i dri o bob pump o bobl dduon LHDT. Ac nid yw traean o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy'n arddel ffydd yn agored gydag unrhyw un yn eu cymuned ffydd ynglŷn â'u cyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw troseddau casineb yn bodoli mewn gwacter. Mae cymdeithas wedi mynd yn fwy pegynol ac mae trafodaeth wleidyddol wedi mynd yn fwy gwenwynig. A thra bo Prif Weinidog y DU yn galw menywod Mwslimaidd sy'n gwisgo'r bwrca yn 'flychau llythyrau', a thra gall gerdded yn rhydd heb unrhyw gerydd na chanlyniad, mae gennym waith i'w wneud.
Nid yw Cymru'n ddiogel rhag hyn na'r ystadegau diweddaraf, ac maent yn dangos nad yw ein cymdeithas yn derbyn pawb yn llwyr nac yn gwbl deg eto. Maent yn dangos bod rhagfarn yn broblem, ac maent yn dangos, er gwaethaf y llwyddiannau niferus y mae Cymru wedi'u sicrhau o ran cydraddoldeb LHDT, nad ydym cyrraedd eto. Mae'n bosibl fod agweddau cymdeithasol wedi newid llawer dros y degawdau diwethaf, ac er bod newidiadau yn y gyfraith yn golygu bod mwy o ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus yn cymryd sylw o wahaniaethu gwrth-LHDT ac yn mynd i'r afael ag ef, mae'n rhaid i ni barhau i wthio ymhellach.
O'r llu o rwystrau i gydraddoldeb sy'n rhaid i ni eu goresgyn, mae'r drafodaeth bresennol am hawliau traws yn bwysig iawn i mi. Mae pobl draws yng Nghymru a ledled y byd yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail eu hunaniaeth ryweddol. Mae 59 y cant o fenywod traws a 56 o ddynion traws yn dweud eu bod yn osgoi mynegi eu hunaniaeth ryweddol oherwydd eu bod yn ofni ymateb negyddol gan eraill. Ar gyfer ymatebwyr anneuaidd, roedd y ffigur yn llawer uwch, sef 76 y cant. Mae pobl draws hefyd yn wynebu mwy o risg o ddigartrefedd a hunanladdiad, ac wedi gorfod teithio i Lundain i gael gofal iechyd sylfaenol. Dylai fod gan bobl draws hawl ddiymwad i fyw heb ragfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth. Pam na allwn ni gael uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd o ran gofal iechyd traws o ansawdd uchel a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn unol â'u hunaniaeth ryweddol?
Mae system gyfiawnder well hefyd yn gallu arwain at newid hirdymor real. Ar hyn o bryd, mae system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn gwneud cam â'n cymunedau—nid yw'n gweithio i bobl yma. Mae angen newid arnom a phŵer a chyfrifoldeb llawn dros gyfiawnder troseddol i greu system a fydd o fudd i'n holl gymunedau, er mwyn mynd i'r afael â throseddau casineb LHDT a diogelu pobl LHDT yn briodol. Gallem adolygu deddfau troseddau casineb fel bod troseddau casineb sy'n seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth ryweddol neu anabledd a niwroamrywiaeth yn cael eu trin yn gyfartal â'r rhai sy'n seiliedig ar hil a ffydd, drwy eu gwneud yn droseddau gwaethygedig. Gallem ddarparu hyfforddiant troseddau casineb gwrth-LHDT gwell ar gyfer yr heddlu ac erlynyddion, ar-lein ac all-lein. Gallem olrhain erlyniadau'n llwyddiannus i ddatblygu arferion gorau, a darparu cymorth wedi'i dargedu i ddioddefwyr.
Mewn cyd-destun ehangach, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhagfarn gynhenid sy'n arwain at gyfraddau carcharu llawer mwy anghymesur yng Nghymru nag yn Lloegr ymhlith cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, o'u cymharu â'r boblogaeth. Os ydych yn berson croendywyll yng Nghymru, rydych yn fwy tebygol o fod wedi'ch carcharu ac o gael dedfryd hirach. Nid yw hynny'n dderbyniol.
Diolch byth, rydym yn bell o ddyddiau adran 28 a'r lobi yn erbyn priodasau cyfartal, ond mae gennym gymaint mwy i'w wneud eto cyn y gall pobl LHDT deimlo'n ddiogel ac wedi'u derbyn yn ddieithriad yng Nghymru heddiw, ac i droseddau casineb fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.