Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 23 Hydref 2019.
Mi oeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r ymchwiliad pwysig yma, ac mae yna argymhellion pwysig iawn yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad. Mi ddylai hi fod yn gyfnod cyffrous ar gyfer addysg yn ein hysgolion yng Nghymru. Mae cyflwyno cwricwlwm newydd sy'n parchu doniau ein hathrawon yn gysyniad y mae Plaid Cymru wedi'i gefnogi ar hyd y blynyddoedd.
Ond, yn anffodus, os nad ydy'r newid anferth yma'n cael ei gefnogi gan gyllid ac adnoddau digonol, mae perig gwirioneddol inni golli'r cyfle euraidd yma, ac y bydd cyflwyno'r cwricwlwm newydd ar y gorau yn anghyson ar draws Cymru ac ar y gwaethaf yn llanast llwyr. Yng nghanol hyn oll, ein plant a'n pobl ifanc fydd yn dioddef.
Mae'r papur a gyhoeddwyd yr wythnos hon, o'r enw 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', yn tynnu sylw at yr union broblem yma, gan ddweud am y gofid am y lefel o adnoddau fydd ar gael i athrawon ddatblygu a darparu'r cwricwlwm newydd, ac mae prin yw'r arwyddion fod chwistrelliad sylweddol o adnoddau yn mynd i ddigwydd ar lefel ysgolion ac ar draws y system cyn y lansiad yn 2022.
Mae undeb yr NAHT yn dyfynnu ffigurau cyfrifiad ysgolion o Ionawr eleni o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol er mwyn darlunio'r broblem fel mae hi ar hyn o bryd, a dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ddarlunio'r argyfwng sydd angen ei sortio allan.
Felly, ddechrau eleni, roedd 1,286 yn fwy o ddisgyblion, ond 278 yn llai o athrawon a 533 yn llai o staff cymorth. Felly, o'r ffigurau yna, mae'n dod yn hollol amlwg fod y toriadau cyllidol sy'n cael eu disgrifio'n fanwl yn yr adroddiad—fod y toriadau yma'n golygu nad oes yna ddim athrawon yn cael eu penodi i lawer iawn o'r swyddi sy'n dod yn wag, fod toriadau yn golygu bod llai o athrawon yn gweithio'n llawn amser a mwy'n gweithio'n rhan amser, ac mai'r staff cymorth ydy'r cyntaf i gael eu taro drwy golli eu swyddi, gweithio llai o oriau neu wrth i ysgolion fethu adnewyddu cytundebau penodol.
Meddai un pennaeth ysgol gynradd wrthyf i, 'Rydym ni ar ein gliniau'. Mae hyn yn bryder gwirioneddol, ac mae camau wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau baich gwaith athrawon, ond mae'r diffyg mewn cyllidebau ysgolion yn ychwanegu at lwyth gwaith, ac mae hyn oll, wrth gwrs, yn cael effaith gwbl andwyol ar addysg ein plant a'n pobl ifanc ni.
Felly, dwi'n croesawu argymhelliad 2 y pwyllgor yn fwy na'r lleill—mae'r lleill yn bwysig, ond argymhelliad 2, yn fy marn i, yw'r un sydd yn mynd i gyflwyno'r newid mwyaf sydd ei angen. Mi fyddai gweithredu argymhelliad 2 yn golygu y byddai yna feintiau dosbarth rhesymol er mwyn sicrhau y gall athrawon roi sylw priodol a digonol i bob plentyn. Mi fyddai fo'n golygu niferoedd digonol o staff cymorth dysgu a digon o gapasiti yn y system anghenion dysgu ychwanegol ar bob lefel i adnabod problemau mor gynnar â phosib, a sicrhau cefnogaeth gref i faterion lles ac iechyd meddwl ledled y system addysg.
Er fy mod i yn croesawu argymhelliad 1 am yr adolygiad, dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig peidio â disgwyl am ganlyniadau'r adolygiad. Mi fyddai disgwyl am hynny yn gallu arafu'r broses, ac mae angen i arian lifo i mewn i'n hysgolion ni rŵan. Mae'n bwysig, efo'r adolygiad, i fod yn glir am y tybiaethau cychwynnol hefyd, a sicrhau bod yna ystod o fodelau ysgol a modelau cost yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Er enghraifft, mae yna wahaniaethau, onid oes, mewn modelau cost ysgolion mawr o'i gymharu efo ysgolion bach, gwledig/trefol, ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Mae yna nifer o argymhellion synhwyrol yn yr adroddiad ynglŷn â gwahanol agweddau. Dwi'n credu bod argymhelliad 15 yn un i dynnu sylw ato fo ac yn fater o flaenoriaeth uchel, sef creu setliadau cyllido tair blynedd. Rŵan, dwi'n gwybod bod yna anawsterau yn sgil dibynnu ar amserlenni San Steffan, ond mae'n rhaid, dwi'n credu, dod o hyd i ffordd o wneud hyn. Mae yna grŵp arall o argymhellion yn ymwneud â'r haen ganol, a dwi yn edrych ymlaen at weld gwaith yr Athro Dylan Jones. Mae yna broblem fan hyn. Mae yna ddiffyg ymddiriedaeth rhwng ysgolion a'r consortia rhanbarthol, a theimlad cryf fod yna symiau mawr yn cael eu gwario ar y lefel yna.
Beth sydd yn bwysig, dwi'n credu, ydy cydnabod beth sydd yn argymhelliad 2. Pe baem ni'n gwneud hynny, mi fuasai'r drafodaeth yn gallu symud yn eu blaen, a dwi'n credu bod angen inni droi rŵan, fel roedd Cadeirydd y pwyllgor yn ei ddweud. Mae angen y drafodaeth aeddfed honno ar draws y Siambr, ar draws y dyletswyddau, i feddwl yn wahanol am gyllideb Cymru, ac i feddwl am gyllideb Cymru mewn termau ataliol.