Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 23 Hydref 2019.
Ond yn y ddadl hon, ac o blith y llu o atebion, rwyf am dynnu sylw at y cyfleoedd ar gyfer atebion cydweithredol er mwyn helpu i ddiwallu'r anghenion tai yn ein cymunedau. A byddaf yn canolbwyntio ar hynny yn awr yn ail ran fy nadl. Oherwydd rwy'n ffodus o gael sefydliad o'r enw Cartrefi Cymoedd Merthyr yn fy etholaeth. A deilliodd y Gymdeithas hon o'r ddadl ynghylch trosglwyddo stoc mewn tymhorau Cynulliad cynharach, ac mae wedi dod yn gwmni cydfuddiannol mwyaf y wlad i denantiaid a chyflogeion.
Sefydlwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr ym 2009 wedi i denantiaid bleidleisio o blaid trosglwyddo eu cartrefi i sefydliad newydd dielw. Maent yn berchen ar, ac yn rheoli dros 4,200 o gartrefi ar draws bwrdeistref sirol Merthyr Tudful. Yn y pum mlynedd cyntaf, ymrwymodd Cartrefi Cymoedd Merthyr i gyflawni'r addewidion a wnaed i denantiaid ar adeg y trosglwyddiad, a chyflawni ein targedau safon ansawdd tai Cymru hefyd. Ond erbyn 2014, roeddent wedi dechrau edrych ar ddyfodol y sefydliad a sut roeddent am i'r sefydliad ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. Roedd y bwrdd am gymryd cam arall, a dewisodd ddatblygu model llywodraethu a fyddai'n grymuso tenantiaid a chyflogeion drwy ganiatáu iddynt ddod yn aelodau. Yn ei dro, byddai hyn yn rhoi gwir lais iddynt, a gallent chwarae rhan bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau a gosod eu cyfeiriad eu hunain ar gyfer Cartrefi Cymoedd Merthyr. O ganlyniad, ar 1 Mai 2016, trawsnewidiwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr yn gymdeithas dai gydfuddiannol, a dyma'r gyntaf yng Nghymru i roi cyfle i denantiaid a chyflogeion fod yn aelodau a bod yn berchen ar gyfran yn y sefydliad. Felly, mae Cartrefi Cymoedd Merthyr bellach yn gymdeithas gofrestredig, o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Eu diben yw parhau busnes er budd y gymuned, a gwnânt hynny drwy eu gweledigaeth, sef 'Yfory', ac rwy'n credu y byddwn yn gweld fersiwn wedi'i diweddaru yn fuan, sef 'Yfory 2'. [Chwerthin.]
Mae eu gwerthoedd craidd fel sefydliad cydfuddiannol bob amser wedi creu argraff arnaf yn ogystal â'u strwythur fel corff democrataidd, bwrdd ac aelodau. Maent yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd i adeiladu economi leol gylchol—er enghraifft, buddsoddi mewn busnesau a chrefftau lleol, gan ddarparu sgiliau a chyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Mae hyn yn rhoi gwerthoedd ar waith. Felly, yn y gwaith hwn i gyd, a gaf fi gydnabod cyn brif weithredwr Cartrefi Cymoedd Merthyr, Mike Owen—mae'n sicr ei fod bellach yn mwynhau ei hun yn gwylio cwpan rygbi'r byd, neu'n eistedd mewn tafarn yng Nghernyw—ei olynydd, Michelle Reid a'i thîm, ac yn enwedig Katie Howells, sydd wedi bod yn allweddol yn cefnogi'r cynnydd a wnaed gan fy enghraifft nesaf, sef Tai Cydweithredol Taf Fechan yn yr etholaeth?
O ystyried yr hanes a ddisgrifiais, efallai nad yw'n syndod fod Cartrefi Cymoedd Merthyr hefyd wedi helpu i feithrin a helpu i ddatblygu Tai Cydweithredol Taf Fechan. I'r rhai nad ydynt yn adnabod yr ardal, roedd fflatiau Taf Fechan wedi mynd yn unedau annymunol, anodd eu gosod, ymhell o fod ar eu gorau ac wedi'u fandaleiddio, ac yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Diolch byth, drwy weledigaeth Cartrefi Cymoedd Merthyr, a chymorth cyllid rhad gan yr awdurdod lleol, nodwyd yr opsiwn o gael cwmni cydweithredol yn rhan o ddyfodol mwy disglair ar gyfer y 12 fflat sydd bellach yn y cwmni cydweithredol ar ystâd Gellideg.
Felly, wrth i ystâd Gellideg gael ei hailddatblygu, cafodd y fflatiau hyn eu cadw, eu hailwampio, ac mae'r trigolion wedi ffurfio cwmni cydweithredol i redeg y bloc o fflatiau. Rhaid i'r bobl sydd bellach yn breswylwyr yn y fflatiau fod yn aelodau o'r cwmni cydweithredol, ac felly maent yn rhannu cyfrifoldeb am redeg eu cartrefi. Caiff y fflatiau eu gosod ar brydles i Taf Fechan gan Cartrefi Cymoedd Merthyr, ac mae aelodau'r cwmni cydweithredol yn rhedeg eu cartrefi. Yn allweddol, golyga hyn fod y preswylwyr yn cymryd perchnogaeth ar eu dyfodol, gan wneud penderfyniadau cymunedol am lefelau rhent, cynnal a chadw eu heiddo, a rheoli pwy sy'n symud i mewn i'r fflatiau. Ymwelais â'r fflatiau yn ddiweddar, a gwelais drosof fy hun y balchder sydd ganddynt yn eu heiddo a'r ffordd y maent yn gweithredu ar y cyd i'w cynnal. Yn wir, roeddent yn cwblhau gwelliannau i'w gardd gymunedol, ac roeddent wedi cytuno, o fewn y cwmni cydweithredol, ar y cydbwysedd rhwng y gofod hamdden a'r aelodau oedd am gael cyfle i dyfu eu llysiau a'u planhigion eu hunain. Ond mae'r dull cydweithredol hwn hefyd wedi golygu eu bod yn datblygu mwy o glymau cymdeithasol. Felly, mae cartrefi gwell, cymuned fwy cydlynus, a chlymau cymdeithasol cryfach yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill mewn unrhyw broses adfywio—pobl yn cael mwy o reolaeth dros eu bywydau a'u cymunedau, ac yn yr achos hwn, yn cael budd o'r profiad o Cartrefi Cymoedd Merthyr ei hun.
Mae'r enghreifftiau lleol hyn, wrth gwrs, yn digwydd mewn cyd-destun ehangach o weithredu cydweithredol. Fel Aelod Cynulliad Llafur a Chydweithredol, rwy'n falch bod ein Llywodraeth yn cefnogi atebion cydfuddiannol a chydweithredol i rai o'r problemau sy'n ein hwynebu. Yn wir, roedd gweithredu o'r fath yn rhan o'r addewidion a wnaethom yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, a gobeithio y byddwn yn adeiladu ar hyn yn y dyfodol. Rwy'n gweld cysylltiadau cryf rhwng polisïau cydweithredol a chydfuddiannol, a'n polisïau i yrru'r economi sylfaenol yn ei blaen yng Nghymru. Sylwaf fod y Cydffederasiwn Tai Cydweithredol, er enghraifft, wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn ddiweddar am '1,001 o gartrefi cydweithredol a chartrefi dan arweiniad y gymuned' yn y DU, ac maent yn cyfeirio at y dystiolaeth fod pobl a chymunedau, ledled y wlad, yn creu eu hatebion tai a chymdogaeth eu hunain, yn gwneud cartrefi cynaliadwy a pharhaol, yn adeiladu cymunedau lleol gwydn a hyderus, yn datblygu sgiliau nad oeddent erioed yn gwybod eu bod ganddynt. Wel, dyna fy mhrofiad lleol innau hefyd.
Felly, rhan olaf fy nadl yw gofyn y cwestiwn: ai dyma'r ateb i bob dim o ran anghenion tai yn ein cymunedau? Wel, yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, yw 'na'. Ond rwy'n dadlau y gall cefnogi a datblygu ymagwedd gydfuddiannol a chydweithredol fod yn rhan o'r ateb—rhan bwysig oherwydd rhai o'r ffactorau a nodais yn y ddadl. Fodd bynnag, mae iddo le yn y gyfres o gamau gweithredu sy'n helpu i ddiwallu'r angen am dai yn ein cymunedau. Mae'n golygu bod pobl yn cymryd rheolaeth dros reoli eu cartrefi, heb y bwgan na'r baich o fodloni angen cyfranddalwyr am elw. Yn fy mhrofiad i, mae wedi arwain at gryfhau'r gymuned, gyda gwerthoedd cynaliadwy a gofalgar yn symud i'r canol mewn atebion tai. A dyna pam y byddaf yn cymeradwyo modelau o'r fath i Lywodraeth Cymru, i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio gweld atebion tai cydfuddiannol a chydweithredol yn cael eu cefnogi yn y degawd i ddod.