1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Tachwedd 2019.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf? OAQ54638
Llywydd, diolch. Mae adroddiad y comisiwn yn garreg filltir bwysig, sy'n haeddu ystyriaeth o ddifrif a gofalus. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar yr adroddiad yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Diolch am yr ateb yna. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod toriadau'r Torïaid i gymorth cyfreithiol wedi taro Cymru yn anghymesur o galed—eu geiriau nhw, nid fy rhai i. Ers y gostyngiad sylweddol i'r gyllideb yn 2013, mae nifer y cwmnïau sy'n darparu cymorth cyfreithiol yng Nghymru wedi gostwng gan bron i draean, gan greu'r hyn y mae'r adroddiad yn ei alw'n 'ardaloedd dim cyngor' mewn sawl rhan o'r wlad. Felly, mewn ymateb i adroddiad y comisiwn, sut y gwnaiff eich Llywodraeth hyrwyddo mynediad teg at gyfiawnder wrth i system gyfreithiol neilltuol i Gymru ddod i'r amlwg yn y blynyddoedd i ddod?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna. Mae hi yn llygad ei lle, wrth gwrs—mae'r adroddiad yn nodi, er bod y toriadau i gymorth cyfreithiol yn Lloegr wedi cyrraedd y ffigur syfrdanol o 28 y cant mewn termau real, mae'r toriad wedi bod yn 37 y cant yng Nghymru ac mae hynny wedi gadael cymaint o bobl agored i niwed heb fynediad at y cyngor sydd ei angen arnyn nhw wrth ddibynnu ar y system gyfiawnder. Ac yn union fel y bu toriadau i gymorth cyfreithiol, felly hefyd toriadau eraill yn y system. Cau llysoedd yng Nghymru—50 o lysoedd yn 2010, 28 o lysoedd ar ôl heddiw, a disgwyl i bobl deithio 20, 30 milltir i fynd i wrandawiad llys. Gwelaf yn yr adroddiad, Llywydd, bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder o'r farn ei bod yn rhesymol, os ydych chi'n ymgyfreithiwr neu'n dyst, y byddech chi'n gadael eich cartref erbyn 7 o'r gloch y bore ac na fyddech chi'n dychwelyd yno tan 7.30 yr hwyr a bod hwnnw'n ddisgwyliad rhesymol gan rywun a allai fod yn gwneud hynny ddau neu dri diwrnod yn olynol i fynd i wrandawiad. Nid ydym ni'n credu bod hynny'n dderbyniol yma yng Nghymru, ac nid oedd yr Arglwydd Ustus Thomas yn credu hynny yn ei adroddiad ychwaith.
Llywydd, mae'r adroddiad yn amlinellu'r ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ein cyllideb i wneud iawn am y diffygion a grëwyd gan doriadau a orfodwyd arnom ni gan Lywodraeth y DU—un gronfa gyngor â thros £8 miliwn o arian grant ar gael i wasanaethau gwybodaeth a chyngor ar gyfer 2020. Mae hyn yn llenwi bylchau na ddylen nhw fod yno, ac mae'n arian a fyddai fel arall yn cael ei ddyrannu i wasanaethau y mae'r Cynulliad hwn yn gyfrifol amdanynt. Ond rydym ni'n ei wneud oherwydd maint yr her sy'n bodoli yn hynny o beth—maint her y mae'r adroddiad hwn yn ei amlygu.
Mae manteision datganoli'r system cyfiawnder troseddol wedi bod yn eglur ers tro i Blaid Cymru. Dyna oedd sail papur polisi a ysgrifennais i yn ôl yn 2008, o'r enw 'Gwneud Ein Cymunedau'n Fwy Diogel'. Felly, roedd hi'n galonogol gweld canfyddiadau'r comisiwn ar gyfiawnder yn cefnogi'r safbwynt hwn pan gyhoeddwyd yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan y comisiwn annibynnol hwn yn fforensig ac yn ddigamsyniol. Rwy'n cytuno â chi pan ddywedwch fod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol. Gyda hynny mewn golwg, a fydd datganoli'r system cyfiawnder troseddol, ac yn benodol argymhellion adroddiad Thomas, yn rhan o faniffesto Llafur y DU?
Wel, Llywydd, mae nifer ohonom ni yn y Siambr sydd â hanesion maith o ddadlau dros ddatganoli agweddau ar y system cyfiawnder troseddol. Rhoddais dystiolaeth ar y pwnc hwn gyntaf yn 1985, pan roddais dystiolaeth i gomisiwn y Blaid Lafur, pryd y dadleuais y dylai'r gwasanaeth prawf fod ymhlith yr eitemau cyntaf i fod yn rhan o'r datganoli yr oedd y Blaid Lafur yn ei gynllunio bryd hynny. Nid yw adroddiad y comisiwn ar gyfiawnder yn bythefnos oed eto, ac mae'n haeddu ystyriaeth ofalus. Bydd yn cael hynny gan fy mhlaid i, yn sicr, ac edrychaf ymlaen at gael Llywodraeth Lafur ar ben arall yr M4, pryd y gallwn ni gael y sgyrsiau aeddfed hynny.