Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Wel, nid yw hyn yn ymwneud ag amseroedd aros am ambiwlansys yn unig, ond amseroedd rhyddhau o ambiwlansys hefyd.
Yn ddiweddar, pasiodd eich Llywodraeth ei datganiad brys ar yr hinsawdd, ac eto mae gennym ni gleifion ac ymwelwyr yn gyrru rownd a rownd mewn cylchoedd mewn mannau parcio yn ysbytai Treforys, Singleton a Thywysoges Cymru, gan gyfrannu'n ddiangen at lygredd lleol. Mae hefyd yn atal, yn llythrennol, mynediad at ofal iechyd drwy apwyntiadau wedi ei colli i rai, ond mae o leiaf yn peryglu lles pobl eraill y mae eu hymwelwyr yn rhoi'r ffidil yn y to. Ni all hwn fod yn gwestiwn ar gyfer teithio llesol a chludiant cyhoeddus a thechnoleg yn unig. A allwch chi ddweud wrthym ni beth mae byrddau iechyd yn ei wneud i geisio datrys y broblem benodol hon?