Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n siŵr beth mae'r Aelod yn ei awgrymu—pa un a yw'n awgrymu mai'r ateb yw ei gwneud hi'n haws i geir barcio mewn ysbytai. Mae ein hymdrechion ni ac ymdrechion byrddau iechyd yn canolbwyntio ar gynlluniau teithio cynaliadwy, gan wneud yn siŵr bod cludiant cyhoeddus yn cyd-fynd ag ysbytai fel y gall pobl deithio'n hawdd yn y modd hwnnw i ysbytai, a thrwy wasgaru rhai o'r amseroedd y caiff apwyntiadau eu trefnu ac y cynhelir oriau ymweld, fel nad oes gennych chi nifer fawr o bobl yn cydgyfarfod ar safle ar adeg benodol. Mae'n rhaid i ni gael cynlluniau teithio cynaliadwy, ac ni fydd dibynnu'n syml ar fwy a mwy o geir yn gallu gwneud eu ffordd i ysbytai yn darparu hynny, ac yn sicr ni fydd yn darparu unrhyw ateb i argyfwng hinsawdd.