Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Prif Weinidog, mae hwn nid yn unig yn adroddiad trawiadol, ond yn banel o arbenigedd hynod drawiadol, o statws byd-eang gwirioneddol, ac fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan gyn-Arglwydd Brif Ustus, mae'r adroddiad bron ar ffurf dyfarniad miniog iawn ynglŷn â chyflwr y gyfraith yng Nghymru. Ac mae'r adroddiad, rwy'n credu, o'r fath gymhwysedd ac arbenigedd—cannoedd o dudalennau—fel ei fod wedi cymryd tua 15 munud i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder drydar eu bod wedi gwrthod ei ganfyddiadau ond y byddent yn rhoi ystyriaeth bellach iddynt, beth bynnag oedd ystyr hynny. Ac rwy'n credu bod hynny fwy na thebyg yn dweud mwy am gyflwr cyfiawnder yn y DU na dim arall.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith y bydd adroddiad llawn a manwl yn cael ei gyflwyno, ar yr adeg briodol, fel y gallwn ni drafod y pethau hyn yn iawn. Felly, dim ond eisiau gwneud sylwadau wyf i, mewn gwirionedd, ar yr un maes, ac mae'n faes yr wyf wedi'i godi dro ar ôl tro, rwy'n credu, byth ers i mi fod yn y Cynulliad, ac yn fy holl flynyddoedd, mewn gwirionedd—33 mlynedd—yn gweithio fel cyfreithiwr gweithredol, yn gweithio i undebau llafur, yn gweithio i bobl sy'n gweithio. A dyma ni: rydym ni wedi colli, ar hyd y ffordd, y ddealltwriaeth nid yn unig o bwysigrwydd cyfiawnder a rheolaeth cyfraith, ond pwysigrwydd mynediad iddo. Ac roedd hyn yn ddealltwriaeth a gawsom ni yn y Llywodraeth Lafur ar ôl 1945, pan gyflwynwyd Deddf 1949, pan roedd Viscount Simon, pan roedd ef yn cyflwyno'r Ddeddf, yn dweud mai'r hyn yr oeddem yn ei greu oedd gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer y gyfraith, oherwydd yr hyn a ddeallwyd ac a gydnabuwyd yn hanfodol mewn unrhyw gymdeithas oedd nad yw'r gyfraith yn golygu dim oni bai bod pobl gyffredin yn gallu ei defnyddio, a'u bod yn cael eu grymuso i allu defnyddio'r gyfraith honno. Felly, mae amgylchedd lle, i bob pwrpas, yn y 10 mlynedd diwethaf, y bu toriad o 27 y cant bron mewn termau real o ran ariannu materion sy'n ymwneud â chyfiawnder, yn dangos mor bell yr ydym ni wedi colli ein dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfiawnder i'r bobl. Ac mae bod yn ddeddfwrfa nawr yn golygu bod gennym ni gyfle i roi'r egwyddorion sylfaenol hynny yn ôl wrth wraidd system deddfwriaeth a chyfiawnder Cymru sy'n datblygu mewn gwirionedd.
Roedd dealltwriaeth eang ynghylch canlyniadau hyn—mynegodd yr Arglwydd Neuberger hyn droeon pan oedd yn Llywydd y Goruchaf Lys, pan ddywedodd:
Fy mhryder i yw cael gwared ar gymorth cyfreithiol i bobl gael cyngor.
Mae hynny nid yn unig yn tanseilio'r holl system gyfreithiol, mae'n arwain at bobl yn dechrau diystyru'r gyfraith a chymryd y gyfraith i'w dwylo eu huanin. Ac yn fwy diweddar, rwy'n credu bod pennaeth comisiwn y Bar yn y bôn yn cyfeirio unwaith eto, ac yn gyson, at y bygythiad enfawr i fynediad at gyfiawnder yn y wlad, ac effaith y toriadau, yn enwedig ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Y rhan y carwn gyfeirio ati ac yr hoffwn eich holi amdani mewn gwirionedd yw'r rhan ym mhennod 3, lle gwneir argymhelliad y dylai'r arian ar gyfer cymorth cyfreithiol, ac ar gyfer y trydydd sector—sy'n darparu cyngor a chymorth—gael ei ddwyn ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi'i drafod dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n gwybod fod gwaith wedi'i wneud ynghylch hyn, a'r ffaith bod symiau enfawr o arian Cymru yn mynd i wahanol agweddau wrth wneud iawn am y diffygion hyn yn y system gyfiawnder, er mwyn sicrhau bod rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn cael cymorth, boed drwy Cyngor ar Bopeth, boed drwy Cymorth i Fenywod, boed drwy gyfrwng y gwahanol gyrff yn y trydydd sector. A thybed a fyddech yn cytuno â mi bod cyfle nawr i ddechrau'r broses o greu system cymorth cyfreithiol i Gymru, gan adfer hynny i'r craidd, efallai mewn dwy ran, oherwydd, wrth gwrs, mae datganoli cyllid a chyfrifoldebau yn bwysig, ac ni ellir gwneud rhai pethau nes i hynny ddigwydd. Ond mae llawer o weinyddiaeth a biwrocratiaeth y system honno'n bodoli eisoes, a gellid eu dwyn o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru pe bai'r cyllid yn dod gyda hynny. Ac, yn amlwg, mae'r cyllid ar gyfer swyddogaethau cymorth cyfreithiol yn rhywbeth na fyddai'n gofyn am feddyliau mawr i'w drosglwyddo mewn gwirionedd, ond byddai'n creu proses dau gam efallai, gan baratoi ar gyfer hynny'n awr, ond dechrau gyda llety hanner ffordd—efallai y system gymorth led-gyfreithiol nawr—tra byddwn yn dwyn hynny ynghyd. Ac rydym ni hefyd yn cydnabod y cyfraniadau pwysig y mae cyrff fel yr undebau llafur yn eu gwneud i ddarparu cyngor cyfreithiol a chefnogaeth gyfreithiol—am flynyddoedd lawer, arianwyr llawer o'r system gyfreithiol ar gyfer pobl gyffredin sy'n gweithio. A beth oedd eu gwobr gan Lywodraethau Torïaidd yn y gorffennol? Yn y bôn, y wobr oedd deddfwriaeth gyson a oedd yn ei gwneud hi'n fwy a mwy anodd i undebau llafur weithredu ac, mewn gwirionedd, i recriwtio aelodau. Felly mae'n amlwg bod ganddyn nhw ran i'w chwarae yn hyn o beth, fel sydd gan lawer o gyrff eraill. Ond rwy'n credu y dylem ni ymrwymo, neu y dylem ni ddechrau trafod ymrwymo, i greu ffordd newydd o allu cael cyngor a chymorth cyfreithiol, ffordd Gymreig gyfansawdd a fyddai'n destun balchder i system gyfiawnder gyfreithiol yng Nghymru.