Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Rwy'n falch o gyhoeddi'r trydydd mewn cyfres o ddiweddariadau blynyddol i'n rhaglen waith i ddiwygio cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae'n nodi'r diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i wella trethi lleol a fframwaith cyllid llywodraeth leol ehangach er mwyn sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion gwasanaethau lleol yn y dyfodol mewn cyfnod anodd.
Mae gwasanaethau lleol yn hanfodol i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, gan helpu i dynnu aelwydydd allan o dlodi, ein helpu i fyw bywydau gwyrddach a mwy cyfrifol, a sicrhau bod pobl hŷn a phobl agored i niwed yn cael gofal. Ni allai'r gwasanaethau hyn, ynghyd â llawer mwy, fodoli heb system ariannu llywodraeth leol sefydlog ac effeithiol—un sy'n bodloni ein dyheadau polisi ac yn ymdrechu i gael tegwch.
Mae ein rhaglen raddol o ddiwygio yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor yn gynhwysfawr, a bu ar waith ers dechrau 2017. Mae wedi cyflawni, ac mae'n cyfrannu at gyflawni, nifer o'r ymrwymiadau a'r nodau yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Yn 'Symud Cymru Ymlaen', gwnaeth Llywodraeth Cymru gyfres o ymrwymiadau i wneud y dreth gyngor yn decach, i gefnogi busnesau bach gyda'u biliau ardrethi annomestig a chyflawni bargeinion dinesig a thwf ar gyfer rhanbarthau ledled Cymru.
Mae'r diweddariad a gyhoeddais heddiw yn amlinellu'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wrth weithio tuag at ein nodau. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr mewn llywodraeth leol am eu cymorth parhaus i sicrhau gwelliannau sylweddol. Mae swyddogion awdurdodau lleol ac aelodau etholedig ledled Cymru wedi cymryd rhan weithredol yn y gwaith hwn ac wedi bod yn gyd-gyfrifol am lawer o'r gwelliannau a welwn heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor ar Bopeth Cymru, Money Saving Expert a gwasanaethau cynghori eraill am ddarparu mewnbwn ymarferol y mae ei ddirfawr angen ar lawr gwlad.
Mae adroddiad eleni yn egluro'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud i wneud y dreth gyngor yn decach. Ar 1 Ebrill eleni, dilëwyd y bygythiad o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor yng Nghymru, sy'n dynodi newid sylweddol yn ein dull o drin trethdalwyr lleol. Am y tro cyntaf, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi mabwysiadu protocol treth gyngor cyffredin sy'n crisialu safonau newydd ynghylch sut y bydd aelwydydd sy'n agored i niwed ac yn cael trafferthion yn cael eu trin.
Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwelliannau i'r broses o gasglu'r dreth gyngor a rheoli dyledion, ac i leihau camau gweithredu gan feilïaid. Mae lefel yr ôl-ddyledion wedi sefydlogi yng Nghymru dros y cyfnod ers yr adeg cyn cyflwyno cymorth gyda'r dreth gyngor yn lleol yn 2013-14, tra bo'r cyfanswm sy'n ddyledus yn Lloegr wedi cynyddu 36 y cant.
Mewn partneriaeth ag eraill, rydym ni hefyd wedi cynnal ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o gymorth gyda'r dreth gyngor, ac rwy'n falch o ail-lansio'r ymgyrch hon heddiw. Yn y cam nesaf bydd aelwydydd incwm isel ac aelwydydd ar gredyd cynhwysol yn cael eu targedu i sicrhau ein bod yn tynnu sylw at yr ystod lawn o gymorth a allai fod ar gael i bobl i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran y dreth gyngor. Mae ein hymgyrch hyd yn hyn wedi gweld dros 60,000 o bobl yn elwa o gael gafael ar wybodaeth ar ein gwefan.
Drwy ein cynllun gostwng y dreth gyngor, rydym ni wedi parhau i sicrhau bod gan aelwydydd sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel ledled Cymru ledled Cymru yr hawl i gael gostyngiad ar eu treth gyngor. Cyn bo hir byddwn yn cyflwyno'r rheoliadau i ddiweddaru'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf, a byddwn unwaith eto'n buddsoddi £244 miliwn yn y cynllun.
Mae un o bob pum aelwyd yng Nghymru yn cael cymorth ar gyfer eu biliau treth gyngor drwy'r cynllun hwn, ac nid yw 220,000 o aelwydydd yn talu treth gyngor o gwbl. Mae'r cynllun hwn yn gweithredu yn ychwanegol at yr ystod o ostyngiadau ac eithriadau eraill sydd ar gael. Gyda'i gilydd, maen nhw'n golygu bod ymhell dros 0.5 miliwn o aelwydydd yng Nghymru yn cael rhyw fath o ostyngiad i'w bil treth gyngor. Mae ein hymgyrch ymwybyddiaeth yn helpu i sicrhau bod pawb yn deall eu hawliau.
Rydym ni wedi canolbwyntio ar wneud y dreth gyngor yn decach i grwpiau agored i niwed. Ym mis Ebrill, fe wnaethom ni ddarparu eithriadau newydd ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Gan weithio gyda llywodraeth leol, rydym ni hefyd wedi lansio proses ymgeisio wedi ei safoni ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer pobl â nam meddyliol difrifol. Gall y ddau grŵp hyn bellach ddisgwyl cael eu trin yn gyson ledled Cymru, ble bynnag y maen nhw'n byw.
Yn 'Symud Cymru Ymlaen', fe wnaethom ni ymrwymo i roi cymorth i fusnesau bach gyda'u biliau ardrethi annomestig. Deddfwyd yn 2017 i wneud ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn barhaol. Ym 2018, cyflwynwyd cynllun gwell gennym sy'n rhoi rhyddhad ardrethi gwell i ddarparwyr gofal plant, gan ddangos sut rydym ni'n defnyddio ein holl ddulliau cyflawni polisi mewn ffordd gydgysylltiedig i greu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.
Rydym ni'n ymateb i drafferthion ein strydoedd mawr a chanol ein trefi drwy barhau i fuddsoddi mewn adfywio wedi'i dargedu. Rydym ni wedi cefnogi hyn drwy ymestyn ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr a manwerthu i'r drydedd flwyddyn a'i wneud yn fwy hael. Rydym ni eisiau helpu busnesau i gynnal y cyfleusterau y mae pobl eu heisiau a'u hangen, er mwyn sbarduno ffyniant, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb. Rydym ni'n darparu cyfanswm o dros £230 miliwn o ryddhad eleni i helpu busnesau gyda'u hardrethi.
Rhan allweddol o'n rhaglen yw uchelgais i archwilio diwygiadau mwy sylfaenol ar gyfer y tymor nesaf a thu hwnt. Rwy'n falch o fod wedi ymuno â sefydliadau arbenigol, gan gynnwys Prifysgol Bangor a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, i ymchwilio'n fwy trylwyr i syniadau fel trethi lleol yn seiliedig ar werth tir, treth gyngor fwy blaengar, neu drethi lleol yn seiliedig ar incwm. Bwriadaf archwilio'r rhain yn agored, ac mewn ffordd gymhwysol ac ymarferol i Gymru. Byddaf yn sicrhau bod yr holl adroddiadau ymchwil ar gael i Aelodau'r Cynulliad pan gânt eu cyhoeddi. Mae llawer o'r adroddiad yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn tynnu sylw at y newidiadau yr ydym ni wedi'u gwneud i'r trethi lleol—y dreth gyngor ac ardrethi annomestig—sy'n rhan o'm portffolio. Mae'r newidiadau hyn, er hynny wedi'u pennu o fewn cyd-destun ehangach o ddiwygio llywodraeth leol.
Cyn bo hir, bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Cynulliad hwn. Bydd yn darparu fframwaith newydd ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau, gan gydnabod y trefniadau rhanbarthol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer rhai gwasanaethau lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a chan adlewyrchu datblygiadau eraill sy'n dod i'r amlwg, megis bargeinion dinesig a thwf. Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi ymdrechu i roi'r setliad ariannol gorau i lywodraeth leol, drwy fwy na degawd o gyni Llywodraeth y DU. Rydym ni hefyd wedi gweithio i roi i lywodraeth leol yr adnoddau sydd eu hangen arni i fynd i'r afael â'r heriau sy'n codi o ofynion cynyddol a mwy cymhleth.
Rwy'n gwybod fod gan lawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon eu barn a'u syniadau eu hunain ynglŷn â sut y dylid ariannu gwasanaethau lleol yn y dyfodol. Mae pob un o'r heriau yn y rhaglen wedi bod yn, neu byddant yn, destun ymgynghoriad manwl. Rwyf yn croesawu pob cyfraniad at y meddylfryd ynghylch y mater pwysig hwn, gan unrhyw un ar unrhyw adeg. O ran dulliau amgen, nod y Llywodraeth hon o hyd yw cyhoeddi ein tystiolaeth yn nhymor yr hydref 2020 i fod yn sail i'r ddadl cyn y tymor Cynulliad nesaf.
Rhaid galluogi llywodraeth leol i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus i bawb. Mae'r rhaglen waith hon yn gwneud cyfranu at nodau strategol y Llywodraeth hon, ac rydym yn defnyddio pob dull sydd gennym ni i wneud Cymru'n gymdeithas fwy cydradd, ffyniannus a gwyrddach.