Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Dwi hefyd yn diolch yn fawr iawn am yr adroddiad yma gan y comisiynydd ar y gwaith sydd wedi'i gwblhau rhwng 2018 a 2019—cyfnod sydd, fel rydyn ni wedi sôn yn barod, yn pontio cyfnod dau gomisiynydd, sef Meri Huws, sydd wedi gorffen ei thymor erbyn hyn, ac Aled Roberts, y comisiynydd hyd 2026. A hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r ddau ohonyn nhw am fod mor barod i gyfarfod yn rheolaidd ac i fy niweddaru'n gyson am waith swyddfa'r comisiynydd ar draws ei hamryfal gyfrifoldebau.
Mae'n wir i ddweud bod y cyfnod sydd dan sylw'r adroddiad yma wedi bod yn gyfnod o gryn ansicrwydd i waith y comisiynydd. Yn ystod haf 2017, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynigion a fyddai wedi arwain at ddileu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n anodd credu hynny erbyn hyn, oherwydd, diolch byth, 18 mis ers i'r cynigion yna gael eu cyhoeddi, fe gafwyd tro pedol ac fe roddwyd y gorau i'r cynllun i gyflwyno Bil y Gymraeg, yn wyneb gwrthwynebiad gan wahanol sefydliadau, mudiadau, ymgyrchwyr ac arbenigwyr, a hefyd, wrth gwrs, yn wyneb tystiolaeth gadarn gafodd ei gyflwyno gan bron bob tyst fu gerbron y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg. Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru hefyd yn gwrthwynebu'r bwriad, oherwydd mi fyddai o wedi arwain at wanio sylweddol ar hawliau siaradwyr Cymraeg.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y tro pedol yma a ddigwyddodd ac yn dweud bod bellach, a dwi'n dyfynnu, sicrwydd iddyn nhw barhau â'u gwaith. Mae angen y sicrwydd hynny. Un pryder sydd gen i ydy bod yna leihad sylweddol wedi bod yn lefelau staffio swyddfa'r comisiynydd dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf swyddogaeth bwysig y comisiynydd fel rheoleiddiwr annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg a lles cyffredinol yr iaith.
Mi fyddai ariannu swyddfa'r comisiynydd yn uniongyrchol gan y Cynulliad yn gam pwysig y gellid ei ystyried, ac yn gam pwysig ymlaen, dwi'n credu, o safbwynt rhoi sicrwydd ariannol, ond hefyd er mwyn cryfhau annibyniaeth y comisiynydd. Mae'r adroddiad yn dweud hyn am dro pedol y Llywodraeth a'r penderfyniad i barhau efo'r swydd:
'Mae’n golygu hefyd bod modd i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i gyflwyno mwy o reoliadau safonau fydd yn ein galluogi ni i osod safonau ar sefydliadau eraill maes o law.'
Ac mae'r adroddiad hefyd yn dweud:
'Rydyn ni eisoes wedi cyflawni’r cam cyntaf o gyflwyno safonau, sef cynnal ymchwiliad safonau i’r sectorau dŵr, ynni, trafnidiaeth a thai cymdeithasol…bu’r broses…ar stop.'
Dwi wedi codi hwn nifer o weithiau, a dwi ddim yn ymddiheuro am ei godi fo eto. Yn anffodus, mae'n amlwg nad oes gan y Llywodraeth lawer o fwriad, nag yn wir ewyllys, i symud y gwaith pwysig yma ymlaen, er gwaethaf beth sydd yn y ddeddfwriaeth. Dwi wedi sôn droeon fod angen i'r Llywodraeth gyhoeddi a gweithredu amserlen i ganiatáu i'r comisiynydd osod safonau ar yr holl sectorau sy'n weddill ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a hyn er mwyn cryfhau hawliau siaradwyr, er mwyn creu mannau gwaith cyfrwng Cymraeg, ac er mwyn sicrhau cysondeb yn y fframwaith deddfwriaethol y mae cyrff yn gweithio oddi mewn iddo o ran defnyddio'r Gymraeg. A hyn oll er mwyn cynnal momentwm y gyfundrefn safonau mewn cyfnod lle rydyn ni i gyd yn deisyfu cyrraedd at y nod o filiwn o siaradwyr.
Felly, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto i gyhoeddi'r amserlen, ond dwi ddim yn hyderus y caf i ateb. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi a gweithredu amserlen ar gyfer ehangu hawliau ieithyddol, yn oes Brexit a'r holl fygythiadau sydd yn wynebu'r Gymraeg, yn fater siomedig tu hwnt.
Un maes sy'n wan iawn o ran darparu gwasanaethau Cymraeg sylfaenol ydy'r gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru. A tybed a fedrwn ni gael eglurdeb y prynhawn yma ynglŷn â dyletswyddau iaith KeolisAmey a Thrafnidiaeth Cymru a pha drafodaethau sydd yn digwydd efo'r cyrff hynny.
Ac yn olaf dwi'n troi at faes sy'n rhan o gyfrifoldebau'r comisiynydd. Rydyn ni wedi sôn amdano fo'n fras yn barod, sef cynnal ymchwiliadau statudol i gwynion. Rŵan, dwi'n sylwi bod yna gwymp sylweddol wedi bod mewn ymchwiliadau, ac rydych chi wedi esbonio rhywfaint ar hynny. Ond dydy'r Cynulliad yma ddim wedi cytuno i unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth sydd yn ymwneud â'r gyfundrefn gwynion statudol. A dwi newydd dderbyn copi o lythyr yr anfonodd y Gweinidog at Gomisiynydd y Gymraeg, ar 4 Medi eleni, yn ei longyfarch o ar lwyddo i ostwng nifer yr ymchwiliadau. Rŵan, dwi'n mawr obeithio nad ydy hynny ddim yn golygu bod yna gysylltiad rhwng y gostyngiad yn yr ymchwiliadau a newidiadau i gyllideb y comisiynydd. Hefyd, fedrwch chi esbonio sut mae hi'n briodol i Lywodraeth wneud ymdrech benodol i ddylanwadu ar reoleiddiwr annibynnol yn y fath fodd? Diolch.