Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Mewn sawl ffordd, mae stori hepatitis C yng Nghymru yn hynod optimistaidd. Mae gennym glefyd o'n blaenau, neu gyflwr o'n blaenau, sydd bron yn gwbl welladwy, ac rydym o fewn cyrraedd—os ymrown i hyn—i allu ei ddileu. A chredaf fod unrhyw salwch neu gyflwr y gallwn ei ddileu—mae polio yn un ohonynt—yn rhywbeth y dylai pawb ohonom ei ddathlu, a gallwn wneud hyn gyda hep C os bydd pob un ohonom yn ymroi i'r dasg. Weinidog, rwy'n cydnabod yn llwyr fod camau breision wedi'u cymryd i geisio dileu hep C, neu wrthdroi hep C, mewn unigolion. Rwy'n credu bod camau da wedi'u cymryd i fynd i'r afael â rhai aelodau o'n poblogaeth, grwpiau targed penodol, grwpiau ethnig penodol, lle ceir nifer uwch o achosion. Mae camau breision wedi'u cymryd i leihau nifer y bobl sy'n defnyddio cyffuriau ac yn cael eu heintio â hepatitis C. Ond wrth gwrs, mae'n un o'r pethau hynny lle, wrth i chi dorri pen un ddraig, mae draig arall yn codi.
Un peth diddorol iawn sydd wedi deillio o'r adroddiad hwn yw sut rydym yn dechrau gweld mwy o achosion o bobl yn datblygu hepatitis C o ganlyniad i bethau mwy modern heddiw, fel llenwyr Botox, mynd i glybiau chwaraeon i gael pigiadau steroid. Ac felly, Weinidog, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gofyn cwestiwn neu ddau i chi yn gyntaf ynglŷn â beth arall y bwriadwch ei roi ar waith o ran pethau fel rhaglenni chwistrellau, clinigau steroid. Mae 270 o raglenni nodwyddau a chwistrellau ledled Cymru—a oes angen mwy, sut y byddwn yn eu hariannu? Beth am y syniad o gael clinigau steroid, er mwyn i bobl allu deall nad oes stigma i allu mynd i gael y driniaeth honno? Oherwydd, wrth gwrs, fel yr holl bethau hyn, mae'n ymwneud â dileu'r stigma. Felly mae hwnnw'n newyddion cadarnhaol iawn, ond roedd yn rhaid inni wneud yr adroddiad hwn oherwydd mai hanner y gwaith yn unig sydd wedi'i wneud. Ac roeddwn yn bryderus iawn i weld, yn yr adroddiad hwn, mai mewn egwyddor yn unig y cafodd rhai o'n hargymhellion eu derbyn. Ac rwyf wedi dod i'r casgliad, ar ôl treulio blynyddoedd yma fel Aelod Cynulliad, pan fo Llywodraeth yn dweud 'derbyn mewn egwyddor', mai ffordd arall o ddweud eu bod am wthio rhywbeth i'r naill ochr ydyw. Felly, hoffwn grybwyll rhai o'r sylwadau sydd gennych ynglŷn â 'derbyn mewn egwyddor'.
Nawr, mae Helen Mary eisoes wedi sôn am argymhelliad 3 a dderbyniwyd yn llwyr gennych, sef yr un am dderbyn targed Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer 2030. Hoffwn ddeall pam nad ydych wedi dilyn targed yr Alban, sef 2024, neu darged y DU, sef 2025. Mae'n ddiddorol iawn i mi—mae Cymru'n wlad fach, gallwn gyrraedd pobl yn gyflym, a hoffwn ddeall eich rhesymau yma. Hoffwn ddeall sut y bydd y byrddau iechyd yn cyflawni'r targedau triniaeth hep C y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno ym mis Ebrill. A allwn ni ychwanegu'r targedau hyn at ddangosfwrdd cryno'r GIG ar gyfer gweithgaredd a pherfformiad fel ffordd o fonitro'r cynnydd tuag at ddileu hepatitis c yn ffurfiol? Fe sonioch chi mewn cyfres flaenorol o gwestiynau am yr angen i gael data cadarn, a sut y teimlech fod data'n dda, ac rwy'n cytuno â chi—credaf fod data'n ein helpu i yrru ein polisi iechyd cyhoeddus. A allwn ychwanegu hwnnw at y dangosfwrdd? A wnewch chi ymrwymo i gynhyrchu cylchlythyr iechyd newydd i Gymru?
Hoffwn siarad am argymhelliad 2 hefyd, a'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu. Nawr, rwy'n gwybod o brofiad ychydig yn chwerw fod y Llywodraeth yn eithaf amharod i gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth wedi'u targedu mewn gwirionedd—rwyf wedi siarad â chi yn y gorffennol am sepsis—oherwydd eich bod yn teimlo weithiau nad yw ymgyrchoedd cenedlaethol yn cyflawni eu nodau. Ond rydym wedi wynebu'r rhwystr hwn o'r blaen, a hoffwn ddeall yn iawn pam na fyddwch yn bwrw ymlaen ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu. Mae wedi cael ei argymell gan bawb sy'n rhan o'r maes hwn—y bobl sy'n gorfod darparu'r gwasanaethau hyn ar lawr gwlad, maent yn credu bod hon yn ffordd dda ymlaen, mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn ffordd dda ymlaen, mae gweithwyr proffesiynol yn credu ei bod yn ffordd dda ymlaen, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn credu hynny. Mae angen imi ddeall hyn yn iawn a buaswn yn gwerthfawrogi esboniad ar hynny.
O ran buddsoddiad ychwanegol mewn carchardai—nawr, mae Helen Mary eisoes wedi crybwyll hyn, ond rydym wedi gwneud cryn dipyn o adroddiadau yn ddiweddar am ofal i garcharorion, am ailintegreiddio pobl i'r gymuned, am sicrhau bod gennym gyfraddau aildroseddu isel. Gadael i rywun ddod allan o'r carchar yn teimlo'n iach, gyda dyfodol da, to dros eu pennau, a llwybr ymlaen yw un o'r ffyrdd allweddol o atal aildroseddu. Ac yn syml, hoffwn ofyn ichi ailystyried eich buddsoddiad mewn carchardai, oherwydd mae angen inni wella iechyd carcharorion fel bod gwell gobaith, pan fyddant yn gadael y carchar, y byddant yn aros allan, a llai o berygl y byddant yn aildroseddu. Diolch.