Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor iechyd yn ystod yr ymchwiliad ei hun. Mi oedd hwn yn bwnc roeddwn i'n awyddus iawn i'r pwyllgor ymchwilio iddo fo pan oeddwn i yn aelod, ac roeddwn i'n croesawu'n fawr cyhoeddi'r adroddiad ar y pwnc pwysig iawn yma.
Mae cyfle gwirioneddol gennym ni yma yng Nghymru i gyrraedd y nod syml ond hynod, hynod gyffrous o ddileu hepatitis C yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i'w waredu erbyn 2030, ond mi allen ni yng Nghymru symud ar amserlen dynnach na hynny. Mae Lloegr a'r Alban eisoes wedi gosod targedau llymach iddyn nhw eu hunain, ac mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi dweud, fel dywedon nhw wrth y pwyllgor, am fod Cymru â nifer cymharol fach o bobl i ddod o hyd iddyn nhw a'u trin, mi all Cymru fod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddileu'r haint. Ond, wrth gwrs, mae angen strategaeth gref iawn er mwyn gwneud hynny, ac mae'n siomedig iawn darllen casgliad y pwyllgor nad ydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd targed dileu erbyn 2030 hyd yn oed, ar hyn o bryd.
Y gred ydy bod o bosib hanner y rheini yng Nghymru sydd â hepatitis C ddim wedi cael diagnosis eto, yn rhannol oherwydd natur asymptomatig hep C, felly mae pobl weithiau yn cael cam ddiagnosis. Efallai nad yw pobl yn ymwybodol eu bod nhw mewn categori risg—pobl, o bosib, sydd wedi defnyddio cyffuriau yn y gorffennol a heb wneud hynny ers degawdau o bosib ac yn meddwl bod y perig wedi pasio; o bosib defnyddwyr cyffuriau neu chwistrellu i wella delwedd neu berfformiad mewn chwaraeon, hyd yn oed—pobl sydd ddim yn ystyried eu bod nhw yn defnyddio chwistrelliadau mewn ffordd fudr mewn rhyw ffordd, ac felly nad ydynt â mynediad chwaith at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ac yn colli allan ar y negeseuon pwysig sy'n cael eu rhannu yn y cyd-destunau hynny.
Felly, dwi'n croesawu argymhelliad y pwyllgor am i'r strategaeth gynnwys ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu er mwyn cyrraedd pobl sydd yn wynebu risg, yn ogystal hefyd â darparu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Mi ddaeth yn glir iawn i fi dros y blynyddoedd diwethaf mai'r her fawr ydy nid i wella pobl sydd â'r haint ond i ddod o hyd i'r bobl sydd â'r haint sydd ddim yn gwybod hynny. Mae'r Llywodraeth ei hunan yn cyfaddef yn ei hymateb i argymhelliad y pwyllgor fod cleifion yn anodd iawn i'w cyrraedd. Felly, gadewch inni ddefnyddio pob modd i geisio'u cyrraedd nhw, p'un ai drwy adael i bobl wybod pwy allai fod mewn perig; defnyddio pob cyfle i brofi; gwella profion am hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru, er enghraifft, fel mae'r adroddiad yn ei argymell; hefyd efallai edrych ar gyfleoedd eraill—profi pawb wrth iddyn nhw gofrestru efo meddyg teulu, ac yn y blaen. Mae yna bob mathau o ffyrdd i estyn allan at bobl, ac mi ddylai ymgyrch ymwybyddiaeth hefyd adael i bobl wybod pa mor hawdd ydy trin—a pha mor hawdd ydy gwneud y prawf yn y lle cyntaf, ond pa mor hawdd ydy trin hefyd o ganfod hepatitis C yn ddigon cynnar.
Mae yna waith da a sylfeini cryf wedi cael eu gosod yn barod mewn llawer ffordd, a dwi'n diolch i'r rheini o fewn y gyfundrefn iechyd ag elusennau ac yn y blaen am y camau bras maen nhw wedi eu sicrhau sydd wedi digwydd yn barod o ran hyn. Ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod ymrwymiad gan y byrddau iechyd i gyd a Llywodraeth Cymru i symud tuag at ddileu, ac y dylid ystyried targedau fel isafswm hefyd, nid fel uchafswm, efo'r nod o allu trin cymaint o bobl â phosibl a chanfod cymaint o'r rhai sydd â hepatitis C â phosibl, a hynny er mwyn arbed arian, wrth gwrs, yn y pen draw. Felly, fel y dywedais i, mae yna gyfle go iawn i ni yma yng Nghymru. Plis, allwn ni wneud yn siŵr bod popeth posibl yn cael ei wneud fel nad ydym ni'n colli'r cyfle euraid yma?