Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Daeth pethau allweddol i'r amlwg yn ein hymchwiliad. Gwyddom, wrth gwrs, fod Cymru wedi ymrwymo i strategaeth sector iechyd byd-eang Sefydliad Iechyd y byd, sy'n anelu at ddileu hepatitis C erbyn 2030. Un o'r trasiedïau, wrth gwrs, o ystyried y nifer fawr o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, yw fod modd ei wella'n llwyr bellach. Er bod hyn i'w groesawu—mae'r ymrwymiad i'w groesawu—mynegodd nifer o dystion i'n hymchwiliad bryderon ynglŷn ag a fyddwn yn cyrraedd y targedau hynny. Clywodd y pwyllgor nad yw pob bwrdd iechyd lleol yn cyrraedd y targedau, ac y bydd yn rhaid i gyfraddau diagnosis a thriniaeth gynyddu'n sylweddol yng Nghymru os ydym am gyrraedd y targed 2030. Clywsom dystiolaeth anecdotaidd fod cyfarwyddwyr cyllid byrddau iechyd lleol yn atal timau hepatoleg rhag rhagori ar y targedau triniaeth oherwydd pryderon ariannol. Ni fydd y dull hwn o weithredu ond yn arwain at fwy o gost ariannol yn y tymor hir, ac nid yw'n gydnaws â sicrhau bod Cymru'n cyrraedd y targed dileu. Mae'n hanfodol nad yw byrddau iechyd yn gosod capiau ar dargedau triniaeth lleol. Dylid ystyried targedau triniaeth cenedlaethol fel lleiafswm sylfaenol, a dylai byrddau iechyd anelu at ragori arno.
Mae'r neges gan y tystion yn glir—fod gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hepatitis C ymhlith y cyhoedd yn parhau i fod yn isel, ac adlewyrchir hynny yn y ffaith bod tua 50 y cant o gleifion heb gael diagnosis. Mewn arolwg DU gyfan a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C, nodwyd bod llai na 40 y cant o'r 80 y cant a oedd yn ymwybodol o hepatitis C yn gwybod ei fod yn effeithio ar yr afu, a bod llai na 30 y cant yn gwybod bod modd gwella'r feirws bellach.
Clywodd y pwyllgor fod gwybodaeth sydd wedi dyddio yn amlwg o hyd ymhlith grwpiau sydd mewn perygl, ac o'r herwydd, mae rhai cleifion yn ofnus ynglŷn â gofyn am ofal iechyd, oherwydd natur anodd y triniaethau blaenorol. Gall cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd am y feirws drwy ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i chefnogi gan y Llywodraeth, ac wedi'i thargedu at grwpiau penodol sydd mewn perygl, helpu i leihau'r effeithiau ar y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y feirws. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor, ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisi ffurfiol o gynnig prawf optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed i bawb sy'n cael eu derbyn i'r carchar yn 2016, fod y nifer sy'n cael eu profi wedi cynyddu o 8 y cant i 34 y cant. Mae hyn yn galonogol, ac mae wedi bod yn welliant mawr, ac ymhen amser, gobeithio, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyrraedd y targed o 100 y cant. Fodd bynnag, tynnodd y tystion sylw at ddiffyg adnoddau ar gyfer cynnal profion mewn carchardai, ac er mwyn cael gwared ar feirws hepatitis C mewn carchardai, roeddent yn dweud bod angen adnoddau a staff ychwanegol. Roedd recriwtio a chadw staff hefyd yn faterion a gafodd sylw gan dystion, gyda rhai'n nodi bod diffyg staff yn atal carcharorion rhag cael profion prydlon.
Mae gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn broblem barhaus sy'n rhaid ei datrys. Clywodd y pwyllgor fod cleifion yn cael profiadau llai cadarnhaol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, megis meddygon teulu a nyrsys anarbenigol, gyda llawer yn dweud nad oeddent wedi cael cynnig profion mewn gwirionedd. Dywedodd eraill eu bod wedi dod ar draws lefelau isel o wybodaeth am y feirws gan weithwyr iechyd proffesiynol, a'u bod yn aml yn cael gwybodaeth a chyngor a oedd yn wallus neu wedi dyddio. Mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn cydnabod bod mentrau a gyflwynwyd i ddarparu cymorth addysgol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn werthfawr, ond mae'n dweud bod angen gwneud rhagor. Galwodd tystion am amser dysgu wedi'i ddiogelu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol o'r fath, ac am fwy o godi ymwybyddiaeth. Clywsom nad oes angen i hyfforddiant o'r fath gymryd llawer o amser a bod modd cyflwyno llawer ohono ar-lein.
Y neges gan dystion oedd fod gan Gymru gyfle gwych i ddod yn wlad gyntaf y DU i gael gwared ar y clefyd hwn. Fodd bynnag, heb gamau ychwanegol ar frys i fynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n ymwneud â'r strategaeth a chyllido ar ôl 2021, ofnir y gallai'r cyfle gael ei golli.
Felly, dyma oedd ein pedwar argymhelliad—y dylai Llywodraeth Cymru greu strategaeth ddileu genedlaethol, gynhwysfawr ar gyfer hepatitis C, yn cynnwys targedau uchelgeisiol clir a chynllunio ar gyfer y gweithlu, a dylai ddarparu cyllid sylweddol hyd nes y caiff yr haint ei ddileu. Rhaid gwneud hyn yn ddiymdroi, o gofio y bydd y cynllun presennol yn dod i ben eleni, ac mai dim ond tan 2021 y mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer swyddi penodol.
Ein hail argymhelliad yw fod yn rhaid i’r strategaeth gynnwys ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu er mwyn cyrraedd cymunedau sy’n wynebu risg, ynghyd â darparu addysg a hyfforddiant ychwanegol i weithwyr iechyd proffesiynol. Ein trydydd argymhelliad yw fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at gyfarwyddwyr cyllid a phrif weithredwyr y byrddau iechyd lleol i bwysleisio bod yn rhaid ystyried y targedau triniaeth cenedlaethol ar gyfer hepatitis C fel y targedau mwyaf sylfaenol, gyda’r nod o ragori arnynt lle bynnag y bo modd. Ein pedwerydd argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru wneud buddsoddiad ychwanegol er mwyn gwella’r profion am hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru.
Rydym braidd yn siomedig mai dim ond un o'r argymhellion hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei dderbyn yn llawn. Rydym yn ddiolchgar fod yr argymhellion eraill wedi'u derbyn mewn egwyddor. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r Llywodraeth ond wedi cytuno i ysgrifennu at y cyfarwyddwyr cyllid a'r prif weithredwyr, ac mae eu hymateb yn dweud bod ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r materion y mae ein hadroddiad yn tynnu sylw atynt. Rwy'n awyddus i glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud heddiw, ond buaswn yn ei annog i edrych unwaith eto ar ein hargymhellion, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gref, ac mae'r angen am arweiniad canolog cryf ar hyn yn hanfodol.