9. Dadl ar Ddeiseb P-05-854 — Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:06, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, mae pryderon dwfn yn dal i fodoli heddiw ynghylch anghydraddoldebau iechyd a niferoedd anghymesur o farwolaethau pobl ag anabledd dysgu y gellir bod wedi eu hosgoi. Rwy'n siŵr y gall llawer ohonom fyfyrio ar achos etholwr sy'n tynnu sylw at y pryderon hyn. Mae'n rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr, yn yr ystyr ein bod ni, yn 2019, yn dal i orfod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o'r fath a ddioddefir gan bobl ag anableddau dysgu.

Mae angen i'n system iechyd a gofal wneud llawer mwy i roi'r gofal iechyd a’r gofal cymdeithasol o ansawdd da y dylent ei ddisgwyl fel hawl i bobl ag anableddau dysgu. Gall pobl ag anabledd dysgu wynebu gorfod mynd i'r ysbyty, salwch sy'n peryglu bywyd a marwolaeth gynamserol hyd yn oed pan na allant gael mynediad at wasanaethau iechyd ar gyfer y cyflyrau neu'r anhwylderau mwyaf cyffredin hyd yn oed. Mae'n parhau i fod yn ffaith enbyd fod pobl ag anableddau dysgu yn marw 20 mlynedd yn gynt ar gyfartaledd na'r boblogaeth gyffredinol a'u bod yn parhau i ddioddef gwahaniaethau sylweddol yn ansawdd y gofal a'r gefnogaeth a gânt yn ogystal â'r canlyniadau y gallant eu disgwyl. Mae hyn yn annerbyniol yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Lywydd dros dro, fel y clywsom eisoes, un achos penodol y dylem fod yn ymwybodol ohono yw achos Paul Ridd, a oedd yn byw ym Maglan yn fy etholaeth, ac er i'w fywyd ddod i ben yn 2009, mae ei stori'n fyw o hyd ac yn allweddol i'r alwad hon am hyfforddiant gorfodol i'r holl weithwyr iechyd a gofal ym mhob lleoliad iechyd a gofal. Mae chwaer Paul yn yr oriel heddiw, a phenderfynodd hi a’i brawd weithredu yn sgil colli Paul i fynd i’r afael â’r ffaith bod diffyg hyfforddiant ac anwybodaeth ynglŷn â'i anghenion yn cael eu hystyried yn ffactorau a gyfrannodd at ei farwolaeth. Ac fel y nodwyd eisoes gan Gadeirydd y pwyllgor, fe wnaethant sefydlu Sefydliad Paul Ridd ac maent wedi ymgyrchu'n ddiflino i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff ysbytai o anghenion unigolion ag anableddau dysgu fel y gallant ddarparu lefel o ofal nad yw’n wahanol i’r hyn y bydd cleifion eraill yn ei gael. Maent wedi cynhyrchu deunydd hyfforddi, wedi creu system goleuadau traffig, logos, a ddefnyddir ar gofnodion cleifion, pasbortau ysbyty, a bwndel llwybr gofal, gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol. Nid yw'r logos hynny'n newydd—fe’u gwelsom gyda chleifion dementia: logo'r pili pala. Maent eisoes yn bodoli ar gyfer cyflyrau eraill. Nid yw hyn yn ddim byd newydd mewn gwirionedd, ond mae'n sicrhau ei fod yn ateb anghenion pobl ag anableddau dysgu

Nawr, lansiwyd y bwndel llwybr gofal yn 2016 yn Ysbyty Treforys a chefais y fraint o fynychu'r lansiad hwnnw. Mae'n nodi saith cam allweddol—camau allweddol a fydd, os cânt eu dilyn, yn sicrhau y bydd pob claf ag anableddau dysgu yn profi'r lefel o ofal rydym yn ei disgwyl i'r holl gleifion ac i'n hanwyliaid os ydynt yn mynd i'r ysbyty. Ac roeddwn yn falch fod ABMU—fel yr oedd bryd hynny, Bae Abertawe fel y mae yn awr—wedi llunio rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd dysgu ar gyfer staff nyrsio a staff clinigol allweddol, rhaglen a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth briodol i rôl teulu—ac mae hynny'n allweddol yma—gofalwyr ac eiriolwyr yn y broses o ddarparu gwybodaeth hanfodol i staff, gan helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â gofal. A bu teulu Paul yn rhan ganolog o sicrhau bod hyn wedi'i gyflwyno, a hoffwn eu llongyfarch ar eu rhan yn hyn.

Fodd bynnag, fel y nodwyd, nid yw hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol, ac os yw'n digwydd, rwyf wedi cael gwybod ei fod fel arfer yn ffurfio rhan o sesiwn gynefino. Yr hyn nad wyf yn ei wybod yw: ai hanner awr o hynny a gafwyd, 10 munud? Pwy â ŵyr? Mae'n hawdd iawn dweud ei fod yn rhan o'r cyfnod cynefino, ond beth y mae'r hyfforddiant yn ei gynnwys? Mae hynny'n hollbwysig. Nawr, a yw hyn yn dderbyniol? Nac ydyw. Nid yw'n dderbyniol. Dylai hyfforddiant anabledd dysgu fod yn orfodol a mwy na hynny. Dylid ei ddiweddaru, nid ar sail untro ond yn rheolaidd. Felly, mae angen i bob aelod o staff—a defnyddiaf y geiriau 'pob aelod o staff'—sy'n gweithio yn yr ysbytai gael yr hyfforddiant cywir i sicrhau profiad llyfn i gleifion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd. Rhaid iddo beidio â bod, fel y nododd fy nghyd-Aelod, yn seiliedig ar e-ddysgu neu hyd yn oed yn ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, rhaid iddo fod yn rhyngweithiol gydag unigolion a defnyddio cydweithrediad sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu yn y broses honno. Ac fel y dywedais, pob aelod o staff, o'r adeg y maent yn cychwyn yn y system gofal iechyd—boed yn dderbynnydd mewn meddygfa, yn dderbynnydd mewn ysbyty, neu'n nyrs mewn uned ddamweiniau ac achosion brys—o'r pwynt y maent yn mynd i mewn i bwy bynnag y byddant yn eu cyfarfod ar y daith drwy'r system, mae angen yr hyfforddiant hwnnw arnynt. Lefelau gwahanol o hyfforddiant, rwy'n deall hynny, ond mae angen i bawb ddeall yr hyfforddiant fel bod cleifion sy'n mynd i mewn i'n hysbytai yn cael eu trin gyda'r urddas a'r parch y byddem yn ei ddisgwyl i bawb. Ac mae'n her, ond mae'n her y mae'n rhaid i ni ei goresgyn.

Nawr, yn y Siambr hon, dylem fod yn benderfynol fod pawb sydd ag anabledd dysgu yn cael y gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion a'u disgwyliadau, ac sy'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol i'r cyfryw unigolyn. Fel llawer o rai eraill, roedd gan Paul hawl i gael ei glywed a chael ei anghenion wedi'u deall, ond yn drasig, nid oedd hyn yn digwydd bob amser. Er cof amdanynt hwy, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael eu cynorthwyo i fyw bywydau iach a hapus. Maent yn haeddu hynny, a dim llai na hynny.

Rhaid inni ddarparu system sy'n sicrhau bod cleifion a defnyddwyr gwasanaethau'n cael gofal diogel, effeithiol ac urddasol, a bod gan y rhai sy'n darparu gofal wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad i gefnogi pobl ag anableddau dysgu. Rwy'n ymwybodol fod Lloegr wedi cyhoeddi ddoe y byddant yn rhoi hyfforddiant gorfodol. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd Cymru'n dilyn eu hesiampl ac yn sicrhau bod hyfforddiant yn hyfforddiant yn hytrach nag ymarfer hanner awr i allu rhoi tic yn y blwch.