1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar fridio cŵn a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2019? OAQ54669
Diolch. Mae grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn cynnal adolygiad brys o'r rheoliadau bridio cŵn a bydd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Cyfarfu'r prif swyddog milfeddygol ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddoe i drafod materion trwyddedu a gorfodi.
Rwy'n croesawu'r camau brys y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn y rhaglen ddogfen ar ffermio cŵn bach yng Nghymru y mis diwethaf. Ond un maes sy'n peri pryder i mi ac eraill y siaradais â hwy mewn perthynas â thrwyddedu yw'r gymhareb staff-i-gŵn yn y sefydliadau hyn. Ar hyn o bryd, un gofalwr llawn amser yn unig sy'n ofynnol ar gyfer 20 o gŵn llawndwf, ac nid yw hynny'n ystyried nifer y cŵn bach y gallai pob ci eu cael hyd yn oed. Felly, yn y pen draw, gallem gael sefyllfa lle mae gan bob ci dorraid maint cyfartalog, a fyddai'n golygu bod disgwyl i un person fod yn gyfrifol am hyd at 180 o gŵn llawndwf a chŵn bach ar unrhyw adeg. Ni allaf weld sut y gall unrhyw unigolyn roi gofal o safon ddigon da am gynifer o anifeiliaid, nodi problemau iechyd posibl yn ogystal â diwallu anghenion lles yr anifeiliaid hynny. Felly, Weinidog, rwy'n gofyn i chi ystyried adolygu'r gymhareb o staff cymwys sydd eu hangen i ofalu am gŵn a chŵn bach mewn sefydliadau bridio er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn gofal da a bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu. Rwyf hefyd yn gofyn a wnewch chi ystyried lleihau nifer y trwyddedau a roddir i bob awdurdod er mwyn ei gwneud yn bosibl cyflawni cynllun arolygu a diogelu y gellir ei reoli, rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.
Diolch. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryder, yn enwedig ynglŷn â'r gymhareb staff-i-gŵn. Yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ddoe rhwng y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion gyda 21 o awdurdodau lleol—nid oedd sir y Fflint yn bresennol, roeddent yn ymddiheuro am hynny—credaf fod hwn yn un maes sy'n uchel iawn ar y rhestr o bethau y mae angen inni edrych arnynt yn ofalus iawn.
Crybwyllaf y grŵp gorchwyl a gorffen, gydag aelodau o grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, sydd eisoes wedi dechrau. Nid wyf am achub y blaen ar yr adolygiad hwnnw, ond rwy'n credu, yn sicr, fod llawer o faterion wedi cael sylw yn y cyfarfod y bydd angen eu hystyried yn ofalus. Yn sicr, os meddyliwch am sicrhau bod y cŵn yn cael ymarfer corff er enghraifft, er fy mod yn derbyn y gallwch fynd â sawl ci allan ar unwaith, yn sicr ni allech fynd â 50 o gŵn allan ar unwaith. Os ydynt angen ymarfer corff deirgwaith y dydd, sef yr hyn y mae'r rheoliadau'n ei ddweud, rwy'n credu felly fod angen inni edrych ar hynny. Gan hynny, er nad wyf am achub y blaen ar yr adolygiad, rwy'n credu bod hwn yn amlwg yn faes y mae angen i ni edrych arno.
O ran eich cwestiwn am y trwyddedau, unwaith eto, pan welwch y tabl o awdurdodau lleol a nifer y safleoedd trwyddedig sydd ganddynt—credaf fod gan Dor-faen un, er enghraifft, mae gan sir Gaerfyrddin 80 ohonynt, felly gallwch weld bod gwahaniaeth mawr ar draws pob awdurdod lleol. Felly, unwaith eto, fel rhan o'r adolygiad, mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno, ond yn amlwg, mae gwir angen i ni wneud gwelliannau mewn perthynas â bridwyr didrwydded hefyd, a bydd yr adolygiad yn edrych yn gyfannol ar fridio cŵn yma yng Nghymru.
Rwy'n falch fod Joyce Watson wedi codi'r cwestiwn hwn, oherwydd mae gennyf nifer o bryderon difrifol iawn ynglŷn â hyn, Weinidog. Rwy'n cynrychioli ardal lle mae bridio cŵn anghyfreithlon yn rhemp. Rwyf wedi ysgrifennu at Elin Jones, pan oedd yn Weinidog, John Griffiths pan oedd yn Weinidog, Alun Davies pan oedd yn Weinidog, Rebecca Evans pan oedd yn Weinidog, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu atoch chi ar y pwnc hwn. Ychydig iawn o weithredu a welsom. Nawr, mae Joyce yn nodi pwynt da iawn am drwyddedu ac am—ond y broblem yw, hwy yw'r rhai rydym yn gwybod amdanynt. Y broblem fawr yw'r bobl na allwn eu holrhain, neu'r rhai y gwyddom eu bod ar ben draw lonydd hir, a hoffwn ddeall dau beth yn glir iawn. Un: a wnewch chi gymryd camau go iawn y tro hwn oherwydd mae hon wedi bod yn broblem ers amser hir yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? Dau: sut y byddwch yn sicrhau nad yw bridwyr da, bridwyr gonest, bridwyr cyfreithlon yn cael eu cosbi'n ormodol, fel mai mynd ar ôl y bridwyr cŵn anghyfreithlon a wnawn mewn gwirionedd?
Yn olaf, mae'n rhaid imi grybwyll cŵn sy'n cael eu cludo i mewn o Iwerddon, oherwydd rwyf wedi bod allan gyda'r heddlu, rwyf wedi gweld carafanau lle mae'r lloriau yn llythrennol wedi'u gorchuddio â chŵn bach, a chânt eu defnyddio i gelu masnachu cyffuriau a phethau eraill. Mae yna fan sy'n mynd o amgylch Penfro, Doc Penfro—yn llythrennol, rwyf wedi'i weld, ac mae wedi agor y cefn ac mae cewyll y tu mewn sydd wedi'u stwffio'n llawn dop o gŵn bach. Dyna'r bobl y mae angen inni eu dal, oherwydd mae'r bobl y mae Joyce yn sôn amdanynt—rydym yn gwybod lle maent, mae angen eu gwella, mae angen eu gwahardd neu beth bynnag, ond ni allwn gael gafael ar y lleill. Gwaith anodd, rwy'n derbyn, ond mae'n bryd i ni weithredu ar hyn.
Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, a dyna pam y dywedais ar ddiwedd fy ateb i Joyce Watson—roedd Joyce yn cyfeirio at y bridwyr y gwyddom amdanynt; rydym angen dal y bridwyr anghyfreithlon hefyd i sicrhau gwelliannau mawr mewn rhai ardaloedd, oherwydd rwy'n ymwybodol iawn o'r straeon rydych newydd eu hadrodd yma. Mae'r cydbwysedd o ran peidio â chosbi'r bridwyr cyfreithiol yn bwysig iawn, a diben y cyfarfod a gynhaliwyd ddoe gyda'r awdurdodau lleol oedd canfod yn union beth sy'n digwydd ar lawr gwlad—sut y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â gorfodi, er enghraifft. Felly, rwy'n credu iddo fod yn gyfarfod cynhyrchiol iawn. Rwyf wedi cael nodyn o'r cyfarfod. Bydd hwnnw bellach yn bwydo i mewn i adolygiad y grŵp gorchwyl a gorffen y gofynnais iddo gael ei gynnal yn syth ar ôl i'r rhaglen honno gael ei dangos. Felly, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ond roeddwn eisiau dangos, gyda'r hyn a ddywedais yn y datganiad ysgrifenedig, ein bod yn gweithredu ar unwaith. Rwy'n disgwyl cael adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, pan ddown yn ôl ym mis Ionawr, ar ôl toriad y Nadolig, rwy'n gobeithio gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau bryd hynny.