1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ffermio yng nghanolbarth Cymru? OAQ54668
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn ac i sicrhau ei bod yn cael ei rheoli'n broffesiynol. Mae dros 5,000 o unigolion a 2,000 o fusnesau yn y rhanbarth wedi ymuno â Cyswllt Ffermio, sy'n elfen hanfodol o'n cymorth i'r gymuned ffermio.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Fel y gallwch ddychmygu, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag undebau'r ffermwyr yn sir Drefaldwyn. Y mater a godwyd gyda mi yn y cyfarfod diwethaf, fel na fyddech yn synnu o gwbl, yw'r ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Maent wedi gofyn nifer o gwestiynau ynglŷn â sut y byddai'r cynllun yn gweithio'n ymarferol, a sut y byddai cefnu ar y mecanwaith sefydlogrwydd sy'n diogelu ffermwyr rhag yr anwadalrwydd yn y farchnad yn gweithio'n ymarferol, a sut y byddai'n effeithio ar fusnesau.
Nawr, o ystyried eich bod wedi pwysleisio wrthyf fi ac eraill fod hwn yn ymgynghoriad go iawn yn hytrach na rhywbeth sydd eisoes wedi'i gytuno, a gaf fi ofyn sut y bydd y Llywodraeth yn ystyried y pryderon y maent wedi'u dwyn i fy sylw, a'r angen i fynd i'r afael â hwy wrth lunio unrhyw gynlluniau yn y dyfodol? A sut y byddai'r gefnogaeth bwrpasol i bob fferm yn gweithio'n ymarferol—'ymarferol' yw'r gair allweddol yn y fan hon; sut y byddai'n gweithio'n ymarferol—ac a wnewch chi gadarnhau na fydd y cynigion yn arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol i ffermwyr, nac i Lywodraeth Cymru wrth gwrs?
Gan ddechrau gyda'r fiwrocratiaeth ychwanegol, rwyf wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, os byddwn yn cyflwyno biwrocratiaeth ychwanegol i gynllun—credaf y bydd llawer o ffermwyr yn dweud wrthych mai un o'r rhesymau pam y pleidleisiodd llawer ohonynt dros adael yr UE yn yr etholiadau Ewropeaidd oedd oherwydd y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth bolisi amaethyddol cyffredin—yna byddwn wedi methu. Mae'n dra phwysig nad ydym yn cynyddu biwrocratiaeth ychwanegol, i'r ffermwyr yn sicr, nac i ni ein hunain.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Hydref. Cawsom ymhell dros 3,000 o ymatebion, gyda llawer ohonynt yn ymatebion gan unigolion. Bydd yn cymryd peth amser i weithio drwyddynt, ond rwyf hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r undebau ffermio. Yr wythnos diwethaf, siaradais yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac wrth gwrs, cafodd cwestiynau ynghylch 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' eu codi gyda mi.
Fe ddefnyddioch chi'r gair 'sefydlogrwydd' mewn perthynas â'r PAC a'r cynllun taliadau sylfaenol. Rwy'n anghytuno â chi—nid wyf yn credu bod y PAC wedi rhoi sefydlogrwydd i'n ffermwyr. Os meddyliwch am y llynedd, pan gawsom sychder, cynhaliwyd uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru—roeddent yn chwilio am gymorth gan Lywodraeth Cymru oherwydd nad oeddent yn gallu ymdopi â'r sychder. Nid yw'r PAC wedi gwneud ein sector amaethyddol yn sefydlog yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno. Dyna y ceisiwn ei wneud yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'.
Rydym wedi cyflwyno syniad y cynllun, a chredaf ei fod wedi cael croeso cyffredinol. Yn sicr, mae'r ymatebion rwyf wedi'u gweld—ac mae'n debyg fy mod wedi darllen tua 200 o'r ymatebion bellach—yn croesawu'r newid ffocws yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn fawr o'r hyn a oedd wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol yn 'Brexit a'n Tir'. Felly, rydym yn awr yn gweithio drwy'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym yn gweithio ar gydgynllunio'r cynllun.
Wrth gwrs, bydd y cymorth pwrpasol hwnnw'n bwysig iawn—yr asesiad pwrpasol hwnnw. Nid oes dwy fferm yr un fath, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ymweld â phob fferm. Ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Pan fydd cynghorydd yn ymweld â fferm, bydd llawer o ddata ar gael yno eisoes—rheoli maethynnau, er enghraifft. Felly, gobeithio y bydd cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth.
Gwyddom fod y nwyddau a gynhyrchir gan ffermwyr canolbarth Cymru yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cynnyrch bwyd rhagorol y maent yn ei gynhyrchu ar eu tir. Hefyd, mae rheoli bryniau Pumlumon yn cael effaith uniongyrchol, boed hynny'n dda neu'n ddrwg, ar lifogydd i lawr yr afon, mewn rhannau o Gymru a rhannau o Loegr. Teimlaf yn gryf iawn y dylid eu gwobrwyo am reoli'r tir yn dda ac yn effeithiol.
Hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud eu bod yn adnodd, nid yn unig ar gyfer ymwelwyr o'r tu mewn i Gymru, ond hefyd ar gyfer twristiaid o bell i ffwrdd. Yn ddiweddar, gyda Cicerone, y cyhoeddwr, fe wnaethom lansio—ac rwy'n datgan buddiant fel un o is-lywyddion y Cerddwyr—Walking the Cambrian Way, cyhoeddiad swyddogol Cicerone i bobl fel fi sy'n hoffi llwybrau hir ac aros mewn llety gwely a brecwast, a phryd bwyd da mewn bwyty gyda'r nos ac yn y blaen wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae menter mynyddoedd y Cambria—prosiect Dyfodol Cambrian Futures—wedi lansio 11 o lwybrau cymunedol, ac rwy'n credu, gan fod cerddwyr yn dweud yn yr ymgynghoriad y dylem fod yn ystyried a yw rhai o'r nwyddau cyhoeddus a gynhyrchir drwy'r mynediad hwnnw—dylem allu gwobrwyo ffermwyr yn benodol am gynnal y llwybrau hynny. Felly, a wnaiff hi gadarnhau, wrth fwrw ymlaen â hyn, y bydd yn ymgysylltu'n bendant â ffermwyr a rheolwyr tir, ond hefyd ag aelodau eraill o'r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru sy'n gweld y nwyddau cyhoeddus a ddarperir drwy reoli tir yn effeithiol ac yn dda?
Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies. Mae'n bwysig iawn fod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am y canlyniadau amgylcheddol nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdanynt ar hyn o bryd. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon fod pobl yn dod i Gymru i weld y tirweddau prydferth. Maent yno oherwydd ein ffermwyr a'n sector amaethyddol, ac mae'n gwbl briodol eu bod yn cael eu gwobrwyo amdanynt. Roedd y fferm y lansiais yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' arni—roedd y broses o ddal carbon ar ei fferm yn anhygoel. Y tunelli o garbon a ddaliai—nid yw'n cael ei wobrwyo am hynny ar hyn o bryd, ac fe ddylai.