– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21. Galw ar Suzy Davies, y comisiynydd, i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn.
Cynnig NDM7182 Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, fel y pennir yn Nhabl 1 o 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2020-21', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2019 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Diolch, Lywydd, a chynigiaf gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2021, felly o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol.
Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn ceisio cyllideb o £61.411 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £36.274 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn—sef ein cyllideb weithredol—£16.172 miliwn i'w bennu gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol, £0.5 miliwn ar gyfer gwariant cyn etholiad, ac £8.465 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.
Cyn imi fanylu ymhellach ar ofyniad cyllideb y Comisiwn, hoffwn wneud sylwadau ar ddwy eitem benodol y credaf fod angen tynnu sylw atynt yn y ddadl hon. Rwyf am ddweud yn glir fod y ddwy eitem y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn. Fel y byddwch wedi gweld, mae'r gyllideb yn dangos cynnydd o gymharu â chyllideb y llynedd a'r ffigurau rhagolygol a gynigiwyd gennym yn ein dogfen gyllideb yr adeg hon y llynedd. Y rheswm cyntaf am hyn yw'r gofyniad i sefydliadau roi cyfrif am asedau ar brydles yn yr un ffordd ag y maent yn rhoi cyfrif am asedau y maent yn berchen arnynt, yn dilyn gweithredu safon adrodd ariannol rhyngwladol 16. Safon gyfrifo annibynnol yw hon a fabwysiadir yn gyffredin ar draws y byd.
Mae'n bwysig pwysleisio, o safbwynt cyllid neu arian parod, nad yw hyn yn effeithio ar faint o arian parod sydd ei angen arnom o gronfa gyfunol Cymru, ond mae'n cynyddu ffigur cyffredinol y gyllideb. Heb y newid hwn yn y rheolau cyfrifo, byddai cyfanswm y gyllideb wedi bod yn sylweddol is ar £59.575 miliwn, ac i gynorthwyo gyda thryloywder a dealltwriaeth, rydym wedi cynnwys y ffigurau cyn ac ar ôl safon adrodd ariannol rhyngwladol 16 yn nogfen y gyllideb.
Yr ail eitem i dynnu sylw'r Aelodau ati yw'r cynnydd yn y gyllideb rhwng y gyllideb ddrafft a fersiwn derfynol y gyllideb hon. Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar 24 Medi 2019 a chynhaliodd y Pwyllgor Cyllid sesiwn graffu ar y ddogfen honno ar 3 Hydref. Roedd dogfen y gyllideb ddrafft yn cynnwys amcangyfrif synhwyrol o’r cynnydd yn yr arolwg blynyddol o fynegai oriau ac enillion sy’n berthnasol i gyflogau Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad o fis Ebrill 2020. Yr amcangyfrif a ddefnyddiwyd yn y ddogfen honno oedd 2 y cant, amcangyfrif synhwyrol iawn sy’n seiliedig ar gynnydd gwirioneddol o 2.3 y cant ym mis Hydref 2017 ac 1.2 y cant ym mis Hydref 2018, ill dau o fewn yr ystod dderbyniol o amcangyfrifon y gyllideb. Fodd bynnag, ar 29 Hydref 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y data ar gyfer 2019, ac mae'r cynnydd, yn annisgwyl, yn fwy na dwbl yr amcangyfrif a ddefnyddiwyd gennym, gan alw am gynnydd o £360,000 yn fwy na’r hyn a oedd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ddrafft. Nawr, fel y byddwch yn deall, daw'r cadarnhad hwn yn hwyr iawn yn y dydd, ond rydym wedi cynnwys y swm ychwanegol yn y gyllideb derfynol ac wrth gwrs, rydym wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor Cyllid am y cynnydd hwn. Mae'r ddwy eitem wedi'u hesbonio'n llawn i'r Pwyllgor Cyllid, ond rwy'n ailadrodd eu bod y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn.
Gan ddychwelyd at ein cyllideb gyffredinol, mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gofyniad ariannol ar gyfer blwyddyn olaf y pumed Cynulliad, sy'n cynnwys darpariaeth i'r Comisiwn baratoi ar gyfer y chweched Cynulliad, a rhagolygon ar gyfer dwy flynedd gyntaf y chweched Cynulliad. Ac ynddi, fe wnaethom nodi sut y mae'r gyllideb yn cefnogi'r Comisiwn i gyflawni ei nodau strategol o ddarparu cefnogaeth seneddol ragorol, ymgysylltu â phobl Cymru, a hyrwyddo'r Cynulliad a defnyddio adnoddau'n ddoeth.
Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad, a'i Aelodau wrth gwrs. Fel y gwyddom, mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol, o ystyried y nifer gymharol fach sydd ohonom a'r materion cymhleth rydym yn mynd i'r afael â hwy yn awr, ac yn fwyaf amlwg, effaith y DU yn gadael yr UE. Mae angen cyllideb arnom sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi’r Aelodau drwy'r cyfnod hwn. Mae'r ansicrwydd hirsefydlog ynghylch amseriad ymadawiad y DU o'r UE, a thelerau unrhyw ymadawiad, wedi creu heriau o ran cynllunio sut y rhoddwn adnoddau tuag at y gwaith hwnnw fel Cynulliad, a sut y gallwn ni fel deddfwrfa gyflawni'r newidiadau hynny. Er bod telerau Brexit eto i’w penderfynu, rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer gwaith ar ôl Brexit, fel y byddech yn disgwyl inni ei wneud. Mae rheolaethau a chamau gweithredu fel cynllunio senarios a hyfforddiant yn sicrhau ein bod yn rheoli’r risgiau posibl.
Mae'r cysylltiad uniongyrchol â symudiadau ym mloc Cymru wedi'i ddileu yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd yn natganiad egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, ond mae'r gyllideb hon yn dryloyw, yn ddarbodus ac wedi'i gosod yng nghyd-destun cyllido ariannol hirdymor yma yng Nghymru. Mae'n ystyried sut y mae'r Comisiwn yn blaenoriaethu ei adnoddau i sicrhau nad yw gwasanaethau i Aelodau a'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn cael eu peryglu.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb a'i ymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch yn ein proses gyllidebu a'n tryloywder, wrth gwrs. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw ymddangos gerbron pwyllgor yn brofiad braf iawn, ond mae ein cwestiynau ni a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn help mawr i hybu gwelliant, ac rwy'n gobeithio eich bod yn teimlo eich bod yn gweld hynny.
Gwnaeth y pwyllgor chwe argymhelliad ar ôl craffu ar y gyllideb ddrafft. Roedd tri o'r argymhellion yn gofyn am ragor o wybodaeth ac eglurder ar faterion penodol: y cyntaf o'r rheini oedd y prosiect i roi meddalwedd ddeddfwriaethol newydd ar waith; manylion ynghylch cynlluniau prosiectau hirdymor y Comisiwn; ac adroddiad ar fanteision hirdymor y cynllun ymadael gwirfoddol. Unwaith eto, rwy'n gobeithio bod y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod ein dymuniad i fod yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â hyn, a byddwn yn adrodd yn ôl i chi ar brosiect y feddalwedd ddeddfwriaethol yn ystod haf 2020, pan fydd y contract wedi’i ddyfarnu, ac ar y ddau faes arall yn hydref 2020, gan adlewyrchu'r gofyniad am amcan hirdymor unwaith eto.
Roedd y pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â chymorth staffio i'r comisiynydd safonau ac yn cynnig y dylid nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwn ar wahân o fewn y gyllideb ar gyfer 2021 a’r blynyddoedd i ddod. Rydym wedi gwneud hynny, ac felly mae'r costau hynny bellach wedi'u dangos yn glir yn nhabl 4 a byddant yn parhau i gael eu dangos ar wahân yn y blynyddoedd i ddod. Fe fydd yr Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, o ymddiswyddiad y cyn-gomisiynydd safonau. Mae comisiynydd dros dro yn yr arfaeth, ond bydd y gwaith ar graffu ac adolygu'r hyn sydd ei angen ar y comisiynydd safonau o ran ei waith yn dechrau pan benodir y comisiynydd safonau parhaol a phan gawn syniad clir o'r hyn y bydd ei angen ar y sawl a benodir.
Mae'r pumed argymhelliad yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau tryloywder mewn perthynas â chostau ychwanegol pan gaiff polisïau newydd eu hawdurdodi gan y Cynulliad. Mae llywodraethu parhaus ar waith—mae’n rhaid i mi roi sicrwydd i’r Aelodau—mewn perthynas â darparu adnoddau, gan gynnwys i'r comisiynydd safonau, ac wrth gwrs, mae'n berthnasol iawn pan fyddwn yn gweld fersiwn derfynol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y cawn wybod ychydig amdano heddiw, o ran pa newidiadau heb eu prisio y gellid eu gwneud iddo, a'n hymrwymiad felly, fel y gwelwch yn y llythyr atoch, i’r Pwyllgor Cyllid, i ganolbwyntio ar y polisïau newydd hyn a allai ddod drwy'r Cynulliad.
Ac i orffen, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Comisiwn flaenoriaethu cyllid i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r bleidlais i rai 16 oed. Un o nodau strategol y Comisiwn, wrth gwrs, yw ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad. Felly, gallaf gadarnhau, o fewn y cyfanswm hwnnw o £500,000 a neilltuwyd ar gyfer treuliau cyn etholiad, fod £150,000 wedi'i glustnodi ar gyfer y gwaith o godi ymwybyddiaeth.
Wrth gwrs, rydym bob amser yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella ein proses gyllidebu. Byddaf yn barod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau, ond yn y cyfamser, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn, ailddatgan ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, a chyflawni’r gwerth gorau am arian ar ran pobl Cymru. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw, wrth gwrs, gan fod, fel rŷch chi wedi clywed, y Pwyllgor Cyllid wedi cael cyfle yn ein cyfarfod ar 3 Hydref i drafod cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, ac fe gyhoeddom ni wedyn yn dilyn hynny ein hadroddiad ni ar 17 Hydref. Ac ar ran aelodau'r pwyllgor, hoffwn innau ddiolch i Suzy Davies a swyddogion y Cynulliad am ymateb i gwestiynau ac argymhellion y pwyllgor.
Ym mis Mai llynedd, fe argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylid dychwelyd unrhyw danwariant o'r gyllideb ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau yn ôl i gronfa gyfunol Cymru. Roedd y mater hwn wedi bod yn destun pryder i ni ers cryn amser, felly rŷn ni yn falch bod ein hargymhelliad ni wedi'i weithredu.
Mae'r pwyllgor yn credu ei bod hi'n flaenoriaeth sicrhau bod y Cynulliad yn gwella ei ymgysylltiad â holl bobl Cymru ac roeddwn i'n synnu nad oedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys cyfeiriadau penodol at y Senedd Ieuenctid, y Cynulliad Dinasyddion na mentrau eraill. Rŷn ni'n croesawu’r ymrwymiad o £250,000 ar gyfer ymgysylltu, ond roedd yr Aelodau'n awyddus i sicrhau bod unrhyw weithgaredd ymgysylltu yn un ystyrlon ac nid yn docynistaidd.
Mae'r pwyllgor yn falch bod prosiect y feddalwedd ddeddfwriaeth, fel y clywon ni, yn cael ei ddatblygu gyda chyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rŷn ni yn pryderu ar fater arall, nad yw'r gost sy'n cael ei amcangyfrif o £4 miliwn ar gyfer prosiect newid ffenestri Tŷ Hywel wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020-21 na chyllidebau dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dyw hi ddim yn eglur sut y caiff y gwaith hwn ei symud ymlaen gan fod £345,000 wedi'i ddyrannu i'r prosiect ffenestri yn y gyllideb ar gyfer 2019-20, ond eto, bryd hynny, nid oedd unrhyw astudiaethau dichonoldeb wedi’u cynnal. Er ein bod ni'n croesawu’r ffaith bod y Comisiwn yn derbyn ein hargymhelliad i ddarparu manylion ei gynlluniau prosiect tymor hir, dyw hi ddim yn glir i ni pam na fydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, yn ôl y gofyn, ond yn hytrach erbyn 1 Hydref.
Mae trefniadau staffio’r Comisiwn hefyd wedi bod yn broblem i'r pwyllgor dros y blynyddoedd. Er bod camau wedi'u cymryd i wella tryloywder penderfyniadau staffio, mae'r pwyllgor yn pryderu nad oedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys amcangyfrif mwy cywir o gostau staff am y flwyddyn, heb fod angen amcangyfrif trosiant, neu churn, o safbwynt staffio. O'r herwydd, rŷn ni wedi gofyn am ddiweddariad ar y ddarpariaeth churn neu drosiant staffio.
Roedd diffyg tryloywder ynghylch nifer y staff yn bryder arbennig i'r pwyllgor yng ngoleuni'r cynllun ymadael gwirfoddol diweddar. Rŷn ni'n credu y dylai cynllun sy'n rhyddhau 24 aelod o staff ac sy'n cynnwys taliadau diswyddo gwirfoddol sylweddol, fel y ddau dros £100,000, ddim ond gael ei ddefnyddio pan gellir dangos tystiolaeth o ailstrwythuro neu newid sylweddol. Dyw'r pwyllgor ddim wedi gweld digon o dystiolaeth o newid o’r fath eto, ac mae'n siomedig na fydd y cynllun yn arwain at arbedion, yn enwedig o ran nifer y staff. Mae ein hadroddiad ni, felly, yn argymell bod adroddiad blynyddol ar fuddion ariannol tymor hir y cynllun ymadael gwirfoddol yn cael ei ddarparu i'r pwyllgor. Mae'r Comisiwn wedi dweud y bydd y Pwyllgor Cyllid yn cael adroddiad ar hyn erbyn mis Medi 2020, ond aeth ymateb y Comisiwn ddim mor bell â derbyn ein hargymhelliad.
Rŷn ni wedi argymell o'r blaen y dylai'r Comisiwn gadw cap ar lefelau staffio, ac fe gadwyd at y cap hwnnw. Ond, fe gynyddodd y Comisiwn y cap hwn yn ddiweddar o 491 i 497, ac fe glywsom ni dystiolaeth y gallai nifer y swyddi gynyddu i 501, plws, wrth gwrs, mae yna ddwy swydd ychwanegol i gefnogi'r comisiynydd safonau. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gofyniad i'r Comisiwn ddarparu adnoddau i gefnogi'r comisiynydd safonau, wrth gwrs, ond fe godwyd pryderon ynghylch y dull creadigol o gyfri wrth greu’r ddwy swydd ychwanegol yma yn ychwanegol at y cap.
Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y manylion a ddarperir gan y Comisiwn ynghylch y trefniadau staffio a'r cynllun ymadael gwirfoddol. Fodd bynnag, mae'n anodd deall sut y gall sefydliad sector cyhoeddus, mewn cyfnod o gynni, ryddhau 24 aelod o staff ond dal i gynyddu cyfanswm nifer y swyddi. Rŷn ni'n credu hefyd fod angen mwy o dryloywder o ran sut mae'r comisiynydd safonau yn cael ei ariannu, ac rydyn ni'n croesawu'r datganiad y bydd hyn yn cael ei nodi'n glir yn y gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn hon a'r blynyddoedd i ddod.
O ystyried y gwaith ychwanegol sydd wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, roedd y pwyllgor yn synnu nad yw'r gyllideb ar gyfer gwariant etholiadau yn uwch na'r gwariant ar gyfer etholiadau blaenorol. Rŷn ni'n awyddus bod y Comisiwn yn blaenoriaethu cyllid yn y maes hwn ac yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth ledled Cymru.
Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd ar y gwaith cynllunio senarios a wnaed gan y Comisiwn i baratoi ar gyfer gwahanol ganlyniadau posibl Brexit. Ac yn olaf, hoffai’r pwyllgor gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan staff y Comisiwn dros y 12 mis diwethaf wrth baratoi, wrth gwrs, ar gyfer y posibilrwydd bod Brexit yn digwydd.
A gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch am y cyfle i gyfleu safbwyntiau’r Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad?
Diolch. A gaf fi alw ar Suzy Davies i ymateb?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Llyr. Diolch am eich sylwadau. Rydym yn ailadrodd yr hyn a wnaethom yn y Pwyllgor Cyllid, a dweud y gwir.
Fe ddechreuoch chi drwy sôn am hyn bron fel gwahanu pwerau rhwng y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol a chyllideb weithredol y Comisiwn, sy'n gam a gymerodd y Comisiwn i raddau helaeth ar sail awgrymiadau a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid, ac ymddengys ei fod yn gweithio'n dda. Un o'r pethau rydych yn amlwg yn sylweddoli o ganlyniad i hynny, wrth gwrs, yw os oes unrhyw feysydd gwariant annisgwyl, naill ai gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol neu'n weithredol i'r Comisiwn, nid ydym bellach mewn sefyllfa i fynd ag arian o un o linellau’r gyllideb a'i roi yn y llall, sy'n iawn, gan y gallwn ddatrys unrhyw broblemau, mewn gwirionedd, drwy gyllidebau atodol—naill ai dychwelyd arian i floc Cymru neu ofyn am fwy gan y Cynulliad hwn er mwyn mynd i’r afael â materion nad ydym wedi'u rhagweld, er enghraifft.
O ran y prosiect ffenestri, gwn fod hyn wedi peri syndod, efallai, i rai o Aelodau'r Cynulliad, ond nid oedd hynny byth am fod yn rhad. Rydym wedi cyrraedd sefyllfa bellach lle mae angen gosod rhai ffenestri newydd yn yr adeilad hwn. Ond ni chredaf fod ceisio gosod pob un ohonynt o fewn blwyddyn yn dderbyniol yn ariannol, os mynnwch, i unrhyw Aelodau Cynulliad yma. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi gweld bod swm wedi’i neilltuo yn y gyllideb er mwyn cynllunio—mae'n swm cynllunio, fel y gallwn osod y ffenestri newydd sydd eu hangen yn yr adeilad hwn yn y ffordd fwyaf synhwyrol a chosteffeithiol.
O ran y cynllun ymadael gwirfoddol, pwrpas craidd y cynllun ymadael gwirfoddol oedd sicrhau bod gennym staff comisiwn sy’n gallu cyflawni tair blaenoriaeth y Cynulliad, a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf didrafferth ond hefyd yn y ffordd fwyaf realistig sy'n bosibl. Roedd gwneud hyn yn dipyn o orchwyl, fel y gwyddoch. Ond nid arbed arian oedd prif ddiben hynny o reidrwydd—ond fe wnaethom arbed rhywfaint o arian, fel mae'n digwydd. Yr hyn na wnaethom lwyddo i'w wneud oedd creu digon o le yn y broses ailstrwythuro honno i gyflawni ein hymrwymiadau i Aelodau'r Cynulliad i ddarparu gwasanaeth rhagorol iddynt, gan ddefnyddio adnoddau'n ddoeth, ac ymgysylltu â phobl yng Nghymru, yn y ffordd y byddem wedi dymuno ei wneud—gan gofio'r cyd-destun y buom ynddo ers ychydig flynyddoedd bellach o ran Brexit, a diwygio'r Cynulliad o bosibl.
O ran y gyllideb blwyddyn etholiad, wrth gwrs, bydd honno ychydig yn fwy eleni. Tybiaf y bydd Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn mynd drwodd yn nes ymlaen heddiw. Mae goblygiadau iddo ran cost, sy'n cynnwys codi ymwybyddiaeth, a chodi ymwybyddiaeth pobl nad oeddem wedi'u hystyried pan osodwyd y Bil drafft o bosibl, ac yn wir, pan osodwyd y gyllideb ddrafft hon. Felly, fel y byddech yn ei ddisgwyl, er mwyn gwneud y Cynulliad hwn yn rhywle y bydd pobl yn awyddus i ddod iddo, ac y bydd pobl yn awyddus i bleidleisio ynddo, mae lefel y gwaith codi ymwybyddiaeth a wnawn, ac ansawdd y gwaith hwnnw, yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod y ddeddf ei hun yn werth ei gwneud. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.