– Senedd Cymru am 2:39 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan y Trefnydd, a dwi'n galw arni i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae yna ddau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn dilyn cyhoeddiad ddoe, bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad heddiw ynglŷn â Tata Steel. Hefyd, gohiriwyd dadl fer yfory tan 8 Ionawr. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, mae gennyf i ddau fater yr hoffwn eu cyflwyno ichi heddiw. Rwy'n sylwi, o'r datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd heddiw, ei fod ef yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach am y trefniadau llywodraethu ym mwrdd iechyd Cwm Taf ac am y gwasanaethau mamolaeth yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy'n annog y Llywodraeth wneud hon yn ddadl iawn. Nid ydym wedi cael cyfle gwirioneddol i drafod saga ddiddiwedd y materion sy'n digwydd yng Nghwm Taf. Mae hynny fel pelen chwyn : wrth iddi droelli ar hyd y gwastadedd, mae'n tyfu'n fwy ac yn fwy ac yn llyncu mwy a mwy, ac mae gan yr Aelodau Cynulliad yn y fan hon yr hawl i drafod hyn a thrafod hyn yn amser y Llywodraeth.
I roi hyn yn ei gyd-destun, a gaf i eich atgoffa chi, yn 2018, ddim ond y llynedd, ysgrifennodd bydwraig ymgynghorol ar secondiad adroddiad, ac fe anwybyddwyd yr adroddiad hwnnw. Roedd gennym adroddiad swmpus gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol a oedd yn codi pryderon enfawr ynghylch storio a defnyddio meinwe o fewn y bwrdd iechyd hwnnw. Y llynedd, cafwyd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru am drefniadau ansawdd a llywodraethu. Eleni, cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd eu hadroddiad nhw. Mae gennym hefyd, wrth gwrs, yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ac, ar ben hynny, mae pum adroddiad unigol yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ac yn cael eu dadansoddi yng Nghwm Taf, gan gynnwys un gan y panel goruchwylio gwasanaethau mamolaeth annibynnol, un gan yr uned gyflawni, un gan Gronfa Risg Cymru, a cheir safbwyntiau David Jenkins, y cynghorydd annibynnol. Byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i roi'r amser inni gael trafod hyn yn iawn, yn hytrach na'i droi'n ddatganiad ysgrifenedig yn unig, lle nad oes gennym y gallu i edrych o'r newydd ar hyn a gweld yr hyn sydd angen ei wneud ac a yw newidiadau yn cael eu gwneud mewn gwirionedd yn y bwrdd iechyd hwnnw.
Yr ail fater yr hoffwn ei godi gyda chi yw bod yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2018. Nawr, fel y byddwch chi'n cofio, rhoddwyd y sylw i hyn gan ddweud ei fod yn adolygiad seneddol ar y cyd, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymuno â Phlaid Cymru ac UKIP rwy'n credu ar y pryd, a Llafur, i roi sylw i hyn ac y byddai yna adroddiad i sôn am gyflwyniad y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hynny bron dwy flynedd yn ôl—ym mis Ionawr 2020, ddwy flynedd yn ôl. Er gwaethaf y cydweithio hwn a fu'n ddidwyll gan bawb ac er gwaethaf y weledigaeth ar gyfer iechyd a luniodd y Llywodraeth wedi hynny, nid ydym wedi gweld unrhyw adborth gwirioneddol ynglŷn â pha mor llwyddiannus y mae'r adroddiad hwnnw'n cael ei roi ar waith. Ychydig iawn o adborth a gafwyd ynghylch a yw wedi cyrraedd rhai o'r nodau a'r uchelgeisiau yr oeddem ni i gyd wedi ymrwymo iddynt. Ychydig iawn o adborth a gafwyd o ran pa mor boblogaidd oedd hynny gyda'r cyhoedd, y cleifion a'r staff, wrth gwrs. Ychydig iawn o adborth a gafwyd o ran a yw'r trawsnewidiad a addawyd yn dechrau digwydd mewn gwirionedd. Ac fe fyddwn i'n gofyn ichi hefyd, felly, gan ein bod ni i gyd â rhan yn yr adroddiad hwn, i fod mor gwrtais â rhoi caniatâd inni gael dadl gan y Llywodraeth yn y fan hon fel y gallwn ni ddeall, ar ôl dwy flynedd, beth yw canlyniadau'r adolygiad hwnnw, a pha mor llwyddiannus fu hwnnw a'r hyn y mae angen ei wneud eto, oherwydd mae arnaf i ofn ei fod yn segur ar y silff yn casglu llwch.
Diolch i Angela Burns am godi'r ddau fater hyn heddiw. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ynglŷn â Chwm Taf, ac fe gafodd gyfle i fynd i'r afael â rhai cwestiynau yn ystod y sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma. Fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr ei fod yn cael clywed yr alwad am gyfle i drafod y materion ar y llawr. Gallaf ddwyn i gof bod datganiad wedi bod ynglŷn â Chwm Taf ar lawr y Cynulliad yn ystod y misoedd diwethaf, ond rwy'n sylweddoli mai mater hirdymor a pharhaus yw hwn ac y bydd yr Aelodau yn dymuno parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chael y drafodaeth gyda'r Gweinidog Iechyd am y mater hwn.
Ac ar yr ail fater, mae Angela Burns yn llygad ei lle i ddweud bod gwaith yr adolygiad seneddol wedi cael ei wneud yn ddidwyll, ac roedd yn ddarn o waith trawsbleidiol gwirioneddol, yn fy marn i. Rwy'n deall y diddordeb yn llwyr y diddordeb ynglŷn â sicrhau bod y darn pwysig a da hwn o waith yn dwyn ffrwyth. Bydd y Gweinidog Iechyd yn gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad ar 'Gymru Iachach' i'r graddau y mae'n ymwneud ag effaith ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Roedd hynny'n rhan o'r darn hwnnw o waith, ar 3 Rhagfyr, a gwn y bydd yn ystyried y cais i ddiweddaru rhannau eraill o'r darn pwysig hwnnw o waith maes o law hefyd.
Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion heddiw, a cheir nifer o ddigwyddiadau ar safle'r Senedd, gan gynnwys un gan fenter Men's Sheds. Mae'r prosiectau hyn yn helpu pobl i fod yn agored am eu hiechyd meddwl, sy'n lleihau'r stigma, ac mae hyn yn hanfodol pan wyddom fod cyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion yn cael eu disgrifio'n argyfwng cenedlaethol. Dywedir mai hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf o ddynion dan 45 oed. Effeithiwyd ar bron pob cymuned gan golli dynion ymhell cyn eu hamser oherwydd hunanladdiad, ac mae gennyf i brofiad personol o golli rhywun fel hyn ac fe allaf i dystio i'r chwalfa y mae'n ei achosi. Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion, rwy'n awyddus i bwysleisio pa mor hanfodol yw siarad. Os na allwch chi siarad â rhywun agos, a oes yna rai eraill, fel y Men's Sheds, y gallwch chi ddweud eich cwyn wrthyn nhw? Mae buddsoddi mewn therapïau siarad a gwasanaethau da o ran cymorth iechyd meddwl yn hanfodol hefyd, oherwydd nid oes gan bawb rywun agos i droi ato. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, neu ddadl yn amser y Llywodraeth, yn amlinellu pa therapïau siarad sydd ar gael a pha strategaethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio i wrthdroi'r ystadegau ofnadwy hyn ar gyfer hunanladdiad?
Mae pêl-rwyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, ac yn y Rhondda yn arbennig—mae 825 o fenywod a genethod yn chwarae pêl-rwyd yn rheolaidd yn Rhondda Cynon Taf, ac fe ellir dod o hyd i rai o glybiau mwyaf y wlad yno. Mae hyn yn newyddion gwych. Nid yn unig y mae'n galluogi menywod a genethod i chwarae mewn tîm, ond mae hefyd yn nodwedd bwysig yn y frwydr yn erbyn gordewdra a gwella lles meddyliol. Fodd bynnag, llwyddwyd i sicrhau'r llwyddiant hwn er gwaethaf rhwystrau sylweddol. Mae'n anodd cael mynediad ar gyfleusterau chwaraeon—yn wir, mae anghydraddoldebau difrifol rhwng y rhywiau pan ystyriwch chi fod yna 35 o gaeau rygbi, criced a phêl-droed yn y Rhondda, y mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw mewn lleoliadau y tu allan i'r ysgolion ac felly ar gael ar benwythnosau, o'u cymharu â naw cwrt pêl-rwyd, ac nid yw chwech ohonyn nhw ar gael ar benwythnosau gan eu bod nhw wedi eu lleoli ar safle ysgol. Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae. Er bod gan Bêl-rwyd Cymru bron 20 y cant yn fwy o aelodau na Phêl-rwyd yr Alban, mae'n cael llawer llai o arian na'i chwaer sefydliad. Felly, fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn rhwng y rhywiau mewn chwaraeon a helpu i ddiwallu'r galw anhygoel sydd am bêl-rwyd yng Nghwm Rhondda a thu hwnt.
Rwy'n diolch i Leanne Wood am godi'r ddau fater hynny. Y cyntaf ohonyn nhw oedd pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion a phwysigrwydd y diwrnod hwnnw o ran bod yn ganolbwynt inni atgoffa dynion ei bod hi'n iawn i siarad am broblemau iechyd meddwl, ond hefyd mae'n gyfle pwysig inni gyfeirio at bob un o'r sefydliadau hynny sydd ar gael i ddynion allu mynd atyn nhw pe byddai angen. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi a chymeradwyo popeth y mae Leanne wedi sôn amdano, yn enwedig ei brwdfrydedd ynglŷn â mudiad Men's Sheds—rwy'n credu mai enghraifft yw honno o fudiad sy'n arbennig o ddefnyddiol i ddynion ledled Cymru. Ond mae'n bwysig cydnabod hefyd na fydd pawb yn teimlo'n gyfforddus i ddweud y cyfan wrth rywun arall, a dyna pam mae'r gwasanaethau therapiwtig hynny y cyfeiriodd Leanne Wood atyn nhw mor bwysig, a dyna pam mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yn adfywio'r cynllun cyflawni iechyd meddwl. A gwn ei fod yn bwriadu cyflwyno datganiad am y cynllun hwnnw maes o law, a bydd hwnnw'n gyfle i drafod pwysigrwydd therapïau siarad yng nghyd-destun y Siambr.
Unwaith eto, rwy'n rhannu brwdfrydedd Leanne am bêl-rwyd ac rwyf innau wedi cwrdd â rhai o ferched pêl-rwyd y Rhondda, ac maen nhw'n fenywod ifanc ysbrydoledig. Credaf fod y ffaith bod y gamp yn tyfu mor gyflym yn wirioneddol gyffrous. Ond mae'r pwynt am gyfleusterau yn un da, a gofynnaf i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon gysylltu â Chwaraeon Cymru i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i fuddsoddi mewn cyfleusterau ledled Cymru.
Gweinidog, rwy'n awyddus i ddychwelyd at fater yr ydym ni wedi ei godi droeon yn y Siambr hon, a llun Banksy yw hwnnw. Cyn bo hir bydd blwyddyn gron wedi mynd heibio ers i Banksy gynhyrchu ei waith celf diweddaraf, Cyfarchion y Tymor, ym Mhort Talbot. Diolch i Lywodraeth Cymru, cafodd hwnnw ei warchod dros gyfnod y Nadolig, ac fe ariannodd Llywodraeth Cymru y gwaith o'i symud i leoliad llawer mwy diogel hefyd. Er hynny, mae'r lleoliad hwnnw ar gau i'r cyhoedd erbyn hyn. Dim ond trwy ffenestr y gall y cyhoedd weld y llun, ac ni allant syllu arno a bod yn rhan o'r gelfyddyd a theimlo ei hegni'n llawn.
Nawr, rwy'n gwybod ein bod ni wedi codi'r mater droeon gyda'r Dirprwy Weinidog o ran yr amgueddfa gelf gyfoes y mae Llywodraeth Cymru yn siarad amdani. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi mynd yn dawedog braidd ynglŷn â hynny ar hyn o bryd. Hoffwn i gael datganiad, o bosibl gan y Llywodraeth cyn toriad y Nadolig, ynglŷn â'n sefyllfa ni gyda'r broses honno ar hyn o bryd a sut y gallwn fwrw ymlaen, oherwydd mae'n bwysig bod gweithiau celf fel y gwelsom ni ym Mhort Talbot—. Fe gafodd ei gadw, mae yno, ac fe ddylai fod yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Mae angen sicrhau y gallwn ddarparu hynny a'i wneud yn hygyrch i'r cyhoedd cyn gynted â phosib, ac mae deall ein sefyllfa gyfredol o ran sefydlu amgueddfa o'r fath ledled Cymru yn ddefnyddiol yn yr agenda honno.
Wel, fel y dywed David Rees, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o allu cefnogi cost diogelwch a symud y darn o gelfyddyd gan Banksy i'w leoliad presennol. Mae dyfodol y gwaith celf hwn ym Mhort Talbot yn fater i'r perchennog a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot ei drafod yn y lle cyntaf, ond gallaf i gadarnhau bod gwaith ar y gweill i fwrw ymlaen ag argymhellion astudiaeth ddichonoldeb yr oriel gelfyddyd gyfoes. Mae grŵp llywio o Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried y model dosbarthu ac fe fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad pellach maes o law.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sefyllfa bresennol y Llywodraeth o ran y prosiect dad-ddofi tir yng nghanolbarth Cymru, sef O'r Mynydd i'r Môr, o gofio bod y prosiectau bondigrybwyll eraill i ddad-ddofi tir wedi arwain yn aml at ddifrod i ardaloedd yr ucheldir? Fe all cael gwared ar dda byw oddi ar fryniau Cymru, sy'n hanfodol meddir yn y broses hon o ddad-ddofi, gael effeithiau mor niweidiol â phla o hislau, eithin yn gordyfu, a thwf anferthol mewn rhedyn—yr olaf yn arwain at lygru dŵr ein nentydd a'n hafonydd, gan fod y dŵr sy'n llifo o'r rhedyn yn wenwynig.
Mae tynnu da byw o'r ucheldir yn achosi tanbori ac mae hynny wedi arwain hefyd at heigiad enfawr o laswelltau annymunol, fel Molinia a Nardus, sy'n mygu pob rhywogaeth bwysig arall o laswellt. Mae cael gwared ar y cynefin sy'n ganlyniad arferion ffermio sydd wedi bod yn weithredol ers cannoedd os nad miloedd o flynyddoedd yn colli un o'n hasedau mwyaf, sef rhostir y grug—cynefin hanfodol ar gyfer adar sy'n gaeafu yno.
Mae'r gwrthwynebiad lleol i'r prosiect hwn yn tyfu, gyda llawer o ffermwyr bellach wrthi'n protestio yn ei erbyn. A oes modd i'r Llywodraeth roi datganiad pendant ynghylch a yw'n cefnogi'r prosiectau dad-ddofi hyn mewn egwyddor? Ac os felly, a yw'n rhoi cefnogaeth ariannol i brosiectau o'r fath, o ystyried, mae'n debyg, bod llawer o brosiectau o'r fath yn cael eu hyrwyddo gan grwpiau o bobl sy'n byw mewn trefi yn Lloegr?
Wel, roedd cyfle i David Rowlands gyflwyno ei bryderon am y prosiect arbennig hwnnw ar gofnod heddiw, ond fe fyddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd a materion gwledig eto am y pryderon hynny, er mwyn iddi hi allu nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y gofynnodd ef.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ba ganllawiau a roddir i awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch codi tâl am barcio ceir? Mae mwy na 300 o lythyrau wedi cael eu hanfon at Gyngor Dinas Casnewydd yn gwrthwynebu'r taliadau newydd am barcio ym Mharc Tredegar, nad oedd hynny'n costio dim o'r blaen. Mae gyrwyr yn wynebu tâl dyddiol o rhwng £1 a £5, yn dibynnu ar hyd eu harhosiad, sy'n arwain at gost sylweddol i'r rhai sy'n defnyddio'r parc yn rheolaidd, fel y rhai sy'n mynd â'u cŵn am dro. A fyddai modd inni gael datganiad ar ba gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol ynghylch gweithredu ac effaith taliadau parcio ceir yng Nghymru?
Nid yw Llywodraeth Cymru ei hunan yn cyhoeddi canllawiau penodol i awdurdodau lleol ar daliadau parcio ceir, ond os oes gan Mohammad Asghar bryderon penodol am y penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod lleol yn ei ardal ef ynghylch taliadau am barcio, yna, fe fyddwn i'n ei annog i godi'r pryderon hynny gyda'r awdurdod lleol ei hun.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar addasiadau tai a diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hyn o beth. Rwy'n gofyn hynny gan fod gennyf i etholwraig sy'n dioddef o salwch difrifol iawn sydd wedi ei gadael mewn cadair olwyn. Mae hi yn ei 30au cynnar. Yn ddiweddar, bu'n rhaid iddi aros mewn Holiday Inn—mae gwestai eraill ar gael—ond fe dalwyd am hynny gan yr awdurdod lleol oherwydd nad oes ganddo le ar gael sy'n addas iddi fyw ynddo. Mae'r unig le sydd wedi cael ei addasu eisoes yn gartref i rywun arall.
Mae hi wedi mynd at dair gwahanol gymdeithas dai. Mae un ohonyn nhw wedi dweud yn garedig iawn y byddan nhw'n adeiladu tŷ newydd iddi hi, ond fe fydd hi'n gryn amser cyn i hynny fynd trwy'r system gynllunio. Yn y cyfamser, mae hi'n agored i niwed—mae'n aros mewn llety dros dro ac nid yw'r addasiadau cywir yno. Felly, a fyddai modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog tai, y gwn ei bod hi'n bresennol yma hefyd yn gwrando, i ddeall beth sy'n mynd i gael ei wneud o ran y problemau sydd gan bobl yn lleol pan nad yw'r tai ar gael iddyn nhw, naill ai gan y cyngor neu'r gymdeithas dai dan sylw?
Gyda'r ail gais sydd gennyf i, mae'n Groundhog Day unwaith eto, yn fy marn i, o ran anhwylderau bwyta—dyna fydd fy ngwaddol i, rwy'n siŵr. Ddydd Gwener diwethaf oedd y dyddiad cau a roddwyd i'r byrddau iechyd anfon eu syniadau a'u rhaglenni ar gyfer gwaith yn y dyfodol mewn cysylltiad â'r adolygiad anhwylderau bwyta. Hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar ynglŷn â hyn—fe gawsom ni ddatganiad ysgrifenedig ar yr adolygiad ei hun, ac roeddwn i'n siomedig yn ei gylch—er mwyn deall sawl bwrdd iechyd sydd wedi cyflwyno cynlluniau, sut rai ydyn nhw ac a oes darlun cenedlaethol yn dod i'r amlwg, ac a yw'r byrddau iechyd yn mynd i fod yn gweithio mwy gyda'i gilydd o ganlyniad i'r adolygiad anhwylderau bwyta. Mae angen inni weld cynnydd yn digwydd, o ystyried bod gennym ni'r fath ymrwymiad cadarnhaol gan gleifion a gofalwyr. A gawn ni ddatganiad llafar, os gwelwch chi'n dda?
Diolch yn fawr iawn ichi am y materion a godwyd gennych. Fel yr ydych chi'n dweud, roedd y Gweinidog tai yn bresennol i glywed eich pryderon ynglŷn ag addasu tai yn benodol. Mae hi wedi gofyn imi eich gwahodd chi i ysgrifennu ati gyda manylion yr unigolyn yr ydych wedi sôn amdano y prynhawn yma, oherwydd, yn amlwg, nid yw ei sefyllfa'n dderbyniol o ran lle i fyw, yn sicr yn yr hirdymor, pan gaiff cartref mwy addas ei ddiogelu i'r unigolyn hwnnw. Felly, cofiwch godi'r achos hwnnw gyda'r Gweinidog.
Fe fyddaf—unwaith eto, yn siarad â'r Gweinidog iechyd ynglŷn â'ch cais chi am ddatganiad llafar ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag anhwylderau bwyta. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater yr ydych chi wedi bod yn ymddiddori'n fawr ynddo ers amser maith. Mae'n bwysig deall nawr beth yw statws ymatebion y byrddau iechyd a pha fath o ddarlun sy'n dod i'r amlwg o ran sut yr ydym am fwrw ymlaen â phethau. Felly, byddaf yn rhoi gwybod iddo am y cais hwnnw.
Trefnydd, rwy'n croesawu eich sylwadau chi'n gynharach ynghylch iechyd meddwl ac iechyd meddwl dynion ac atal hunanladdiad, ac rwy'n croesawu gwaith y Llywodraeth yn hyn o beth. Nid oes un dull sy'n addas i bawb ar gyfer datrys hyn, ond rydym i gyd yn y Siambr hon a'r sefydliad hwn wedi colli rhywun ddwy flynedd yn ôl yn y modd hwn. Felly, hoffwn i atgoffa pawb fel unigolion, yn ogystal â'r Llywodraeth, y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i atal hunanladdiad fel bodau dynol. Yn wahanol i'r hyn y gallai rhai ei ddweud, ni ddylem byth—byth—roi'r gorau i geisio helpu pobl eraill, yn enwedig pan allai hynny achub bywydau.
Trefnydd, fe basiodd Senedd Seland Newydd, o dan arweiniad y Llywodraeth Lafur flaengar, Fil carbon sero gyda'r nod o leihau allyriadau carbon i ddim erbyn 2050. Nawr, mae'r nod uchelgeisiol hwn yn cydnabod y cyflwr enbydus yr ydym ni ynddo. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ynghylch sut y gall Cymru gyrraedd nod cyffelyb ar gyfer strategaeth radical o ran yr hinsawdd sy'n seiliedig ar fargen newydd werdd? Nawr, mae hwn yn gynnig polisi a gyflwynwyd mor fedrus gan ymgyrchwyr ifanc a chenedlaethau'r dyfodol ledled y byd, sy'n mynnu bod gweithredu'n digwydd nawr—cynnig sy'n cael ei hyrwyddo bellach gan Blaid Lafur y DU mewn etholiad a fydd, efallai, yn gyfle olaf inni weithredu ar newid hinsawdd cyn y bydd hi'n rhy hwyr. A wnaiff y Trefnydd ddefnyddio ei holl ddylanwad i annog Llywodraeth Cymru a'i chyd-Weinidogion i gyfarfod â Llywodraeth Seland Newydd i ddeall sut y maen nhw'n bwriadu cyrraedd y nod hwn a sut allwn ninnau drosglwyddo hyn i Gymru?
Diolch i Jack Sargeant, yn enwedig am ei sylwadau agoriadol o ran ein hatgoffa ni, mewn gwirionedd, bod hwn yn fater y gallwn ni i gyd fod â rhan ynddo fel unigolion. Hyd yn oed pe byddai hynny mor syml â gofyn i rywun a yw'n iawn, a dim ond rhoi clust i wrando a dangos i rywun ein bod ni'n meddwl amdanyn nhw, fe all hynny wneud gwahaniaeth mawr ar adeg pan fo angen mawr ar rywun i glywed rhywbeth o'r fath.
O ran y pwynt am Seland Newydd a'r ymrwymiad a wnaed yno i chwarae ei rhan i gadw cynhesu byd-eang o dan 1.5 gradd a helpu i ymateb i'r hyn sy'n argyfwng hinsawdd byd-eang, rydym ni'n croesawu'r gwaith y mae Seland Newydd yn ei wneud yn fawr iawn. A gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Seland Newydd yn cael deialog dda ar draws ystod eang o faterion. Rwy'n gwybod hynny fy hunan o ran pennu cyllidebau o fewn cyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, er enghraifft. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor diweddaraf gan ein cynghorwyr statudol, sef Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ac mae hynny'n awgrymu y gall Cymru gael gostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050.
Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a materion gwledig wedi ymrwymo i'r targed hwnnw ac yn ei roi mewn deddfwriaeth y flwyddyn nesaf, yn dilyn cyngor pellach ar sut y byddai ein targed diwygiedig yn effeithio wedyn ar ein targedau interim. Rwyf i o'r farn fod honno'n ffordd briodol iawn i Gymru ymateb, ond rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn bwysicach dangos uchelgais, ac mae'r Gweinidog wedi gwneud hynny drwy ofyn i'r pwyllgor fynd yn ôl a rhoi rhywfaint o gyngor pellach inni ynglŷn â sut y gallem gyflawni'r nod o sero net. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny gan edrych i'r dyfodol, ond heb golli golwg ar yr holl bethau y gallwn ni eu gwneud ar hyn o bryd drwy ein cynllun cyflawni carbon, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ac sy'n cynnwys rhestrau fesul sector o bethau y gallwn ni i gyd fod yn rhan ohonyn nhw ar unwaith.
A gaf i alw am ddatganiad llafar unigol gan Lywodraeth Cymru ar y fframwaith i wella Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Fe gawsom ni ddatganiad ysgrifenedig ddydd Iau diwethaf ynglŷn â hyn, gan gyfeirio at nifer o faterion sy'n haeddu archwiliad llawn a chynhwysfawr yn y Siambr hon, os nad mewn dadl lawn. Mae hwn yn nodi, er enghraifft, bod meddygon teulu y tu allan i oriau arferol wedi cael eu tynnu i lawr o fesurau arbennig, ac y byddai'n dda gan y Gweinidog glywed barn y cyfarfod teirochrog nesaf ar y cynnydd o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl cynaliadwy o ansawdd. Mae'n cyfeirio at ddatblygu'r strategaeth gwasanaethau clinigol, ac fe ddywed hefyd bod cynnydd wedi cael ei wneud oddi ar i'r cyfarwyddwr adfer ddechrau yn ei swydd, er gwaethaf y tro pedol gan y bwrdd iechyd, yn ôl yr honiad ar yr argymhelliad ganddo ef, ynghylch rotâu nyrsys yr wythnos diwethaf.
Yn ystod yr haf, ynghyd ag etholwr, fe wnes i gyfarfod ag athro yn adran seiciatreg y bwrdd iechyd. Fe ddywedodd ef wrthyf, 'O'r blaen, nid oedd gennym byth gleifion y tu allan i'r ardal ac roedd gennym y defnydd isaf o welyau yn y DU. Bellach, mae gennym ni wardiau yn llawn o gleifion yn Lloegr—a hynny ar gost enfawr. Mae pob ymgynghorydd parhaol wedi ymadael ac mae'r gwasanaeth yn cael ei staffio gan feddygon locwm, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol, gyda llawer iawn o dystiolaeth ei bod yn well gan y rheolwyr y meddygon locwm gan fod modd eu diswyddo pe bydden nhw'n siarad yn amhriodol am y sefyllfa. Mae nifer o'm cleifion i wedi marw, yn rhannol oherwydd anawsterau gyda diffyg mewnbwn clinigol. Mae'r pydredd yn ymestyn hyd yr hanfodion. Sawl blwyddyn yn ôl, byddai meddyg a oedd wedi atgyfeirio neu glaf a oedd wedi fy ngweld i mewn clinig yn cael copïau o lythyr gennyf i o fewn 48 awr am y pryderon a gafodd eu trin. Nawr, maen nhw annhebygol o gael copi o'r llythyr 48 diwrnod yn ddiweddarach ac mae cleifion yn colli apwyntiadau dilynol o ganlyniad i hynny.'
Fe ofynnodd meddyg ymgynghorol yn un o'r tri ysbyty cyffredinol am gael cyfarfod â mi. Roedd hi wedi ymddiswyddo wedi i'r bwrdd iechyd fethu â chydymffurfio â'i weithdrefnau ei hun, fe honnir, yn dilyn cwynion blinderus a bwlio yn ei herbyn hi ac ymgynghorydd arall.
Fe gefais gopi o lythyr gan feddyg teulu uwch, yn nodi ei bryderon ynghylch y gwasanaeth y tu allan i oriau arferol, a oedd yn dweud, 'Prin y byddwn i'n ystyried y sefyllfa yr wyf i wedi bod yn dyst iddi dros benwythnosau'r haf yn foddhaol, heb sôn am fod yn ddiogel i gleifion.' Fe wnaethon nhw benderfynu nad oedden nhw'n dymuno imi wneud y llythyr hwnnw'n gyhoeddus, ond maen nhw wedi cael ymateb gan y bwrdd iechyd eu bod nhw'n hapus i fynd yn gyhoeddus gan nad oedd yn gyfrinachol, a dywedasant, 'Yn yr ymateb hwn fe fyddwch chi'n gweld bod yr amseroedd a roddir ar gyfer amseroedd aros yn y gogledd yn gwbl warthus. Er bod yr ymateb yn ddymunol, ni allaf weld y bydd unrhyw newid gwirioneddol yn digwydd.'
Dyna dair enghraifft ddiweddar iawn gan uwch glinigwyr o fewn y Bwrdd Iechyd hwn, sy'n gwrth-ddweud y datganiad ac yn gofyn am graffu mwy trylwyr yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol y tro hwn.
Mae Mark Isherwood wedi manteisio ar y cyfle i roi ymateb tri chlinigwr ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar gofnod, ac fe fyddaf i'n siŵr o sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'r pryderon hynny yr ydych chi wedi eu nodi'r prynhawn yma. Fe fyddaf i'n rhoi gwybod iddo ef hefyd am yr alwad am ddatganiad llafar o ran y fframwaith i wella Betsi Cadwaladr.
Gaf i wneud cais am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod yr argyfwng gwirioneddol sydd yna o ran amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, a'r pryder bod yr argyfwng yna wedi troi yn rhywbeth llawer gwaeth na hynny? Mis Mai oedd y tro diwethaf i mi ofyn am ffigyrau aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna 2,200 o bobl yn aros bryd hynny am 110 o wythnosau. Erbyn i fi gael yr ateb diwethaf gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn yr wythnosau diwethaf, mae'r ffigwr hwnnw wedi codi i 2,900 o bobl ac amser aros o 115 o wythnosau.
Does dim angen i fi ddweud bod hynny'n annerbyniol. Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro yn ei lythyr diweddar i fi ac yn derbyn bod hyn yn annerbyniol, ond nid ymddiheuriad rydyn ni'n chwilio amdano fo ond trefn sydd yn galluogi cleifion yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos i gael triniaeth mewn amser teg. Mae yna ddau o lawfeddygon yn mynd i gael eu penodi o fis Ionawr, fel rydw i'n deall. Y gwir amdani ydy bod hyn yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr, ac maen nhw'n delio rŵan efo amser aros o 700 yn fwy o bobl na pe bai'r penderfyniad wedi cael ei wneud chwe mis yn ôl neu fwy i benodi pan oedd gwir angen. Felly, a gawn ni ddadl frys ar hyn oherwydd, fel dwi'n dweud, mi oedd gennym ni argyfwng yn flaenorol, ond mae wedi mynd tu hwnt i hynny erbyn hyn hyd yn oed?
Wel, unwaith eto, mi wnaf i roi gwybod i'r Gweinidog iechyd am y pryderon y soniodd Rhun ap Iorwerth amdanyn nhw y prynhawn yma o ran amseroedd aros ar gyfer orthopedeg yn Ysbyty Gwynedd. Mae'n amlwg nad yr amseroedd aros a ddisgrifiwyd ganddo yw'r math o amseroedd aros yr ydym ni eisiau eu gweld. Felly, byddaf yn siŵr o gael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog iechyd. Rwy'n gwybod ei fod yn bwriadu cyflwyno datganiad ar 3 Rhagfyr, sy'n ymwneud ag effeithiau'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' ac rwy'n siŵr bod rhan dda o'r broblem sy'n wynebu Ysbyty Gwynedd yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, a gallai hynny fod yn rhan o'r cyfraniad yr hoffech chi ei wneud o bosib yn y datganiad y bydd y Gweinidog iechyd yn ei gyflwyno ar y mater hwnnw'n fuan.
Diolch i'r Trefnydd.