Safonau'r Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:17, 20 Tachwedd 2019

Mae unedau cyfieithu yn allweddol wrth i gynghorau lleol drio cwrdd â safonau'r Gymraeg, ond, yn anffodus, mae yna broblemau'n wynebu uned gyfieithu cyngor Abertawe. Mae yna bryderon ynghylch niferoedd staff, diffyg arweiniad, diffyg buddsoddiad ac ansicrwydd am ddyfodol y gwasanaeth. Mae hyn i gyd yn cael effaith negyddol ar y gwasanaeth a'r staff. Mae'r uned yn cynorthwyo gwaith cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ond dyw hi ddim yn ymddangos bod y naill gyngor na'r llall yn malio o gwbl am sefyllfa'r cyfieithwyr presennol. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi cynnig cymorth i'r cyngor i oroesi'r argyfwng presennol, ond, hyd yn hyn, does dim ymateb ffurfiol wedi dod i'r cynnig yma. Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes yn ymwybodol o'r sefyllfa, ond a wnewch chi, fel Llywodraeth, edrych i mewn i'r sefyllfa argyfyngus yma yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot?