2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2019.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg? OAQ54697
Mae arnaf i ofn nad mater i mi yw cynnal asesiad o'r fath. Comisiynydd y Gymraeg sydd yn gyfrifol am weithredu trefn safonau'r Gymraeg, gan gynnwys gosod safonau ar awdurdodau lleol. Mae e'n gorfod monitro a gorfodi safonau, a rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar sut i gydymffurfio â safonau.
Mae unedau cyfieithu yn allweddol wrth i gynghorau lleol drio cwrdd â safonau'r Gymraeg, ond, yn anffodus, mae yna broblemau'n wynebu uned gyfieithu cyngor Abertawe. Mae yna bryderon ynghylch niferoedd staff, diffyg arweiniad, diffyg buddsoddiad ac ansicrwydd am ddyfodol y gwasanaeth. Mae hyn i gyd yn cael effaith negyddol ar y gwasanaeth a'r staff. Mae'r uned yn cynorthwyo gwaith cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ond dyw hi ddim yn ymddangos bod y naill gyngor na'r llall yn malio o gwbl am sefyllfa'r cyfieithwyr presennol. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi cynnig cymorth i'r cyngor i oroesi'r argyfwng presennol, ond, hyd yn hyn, does dim ymateb ffurfiol wedi dod i'r cynnig yma. Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes yn ymwybodol o'r sefyllfa, ond a wnewch chi, fel Llywodraeth, edrych i mewn i'r sefyllfa argyfyngus yma yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot?
Diolch. Wel, dwi'n barod iawn i gael sgwrs gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r sefyllfa. Dwi'n meddwl mai un o'r pethau mae'n rhaid inni ei wneud yn y dyfodol yw edrych ar sut rŷm ni'n gallu defnyddio meddalwedd i wneud lot o'r gwaith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan gyfieithwyr. Maen nhw'n ymwybodol bod angen inni symud ymlaen gyda'r dechnoleg yma; dydyn nhw ddim yn ei weld fel unrhyw rwystr arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau bod y gefnogaeth yn ei lle fel bod rheini'n ymwybodol o sut i ddefnyddio hyn, ac, wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r sefyllfa yna yn Abertawe.