Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch. Wel, dwi'n barod iawn i gael sgwrs gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r sefyllfa. Dwi'n meddwl mai un o'r pethau mae'n rhaid inni ei wneud yn y dyfodol yw edrych ar sut rŷm ni'n gallu defnyddio meddalwedd i wneud lot o'r gwaith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan gyfieithwyr. Maen nhw'n ymwybodol bod angen inni symud ymlaen gyda'r dechnoleg yma; dydyn nhw ddim yn ei weld fel unrhyw rwystr arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau bod y gefnogaeth yn ei lle fel bod rheini'n ymwybodol o sut i ddefnyddio hyn, ac, wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r sefyllfa yna yn Abertawe.