Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Gwych. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n falch bod yna gonsensws ar y mater yma a dwi wir yn gobeithio y bydd y mater yn cael ei ddatrys yn gadarnhaol. Dwi yn dymuno'n dda i'r myfyrwyr, y rheini sydd yn ceisio gwthio'r maen i'r wal efo hyn.
Dwi am droi at faes arall rŵan. Nos Lun, fe gyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad yn dyfarnu bod gweithwyr mewn ffatri yn Rhydaman wedi'u hatal rhag siarad Cymraeg yn y gwaith. Mae'n peri loes calon imi glywed am weithwyr yn eu dagrau wrth iddyn nhw gael eu rhwystro rhag siarad eu mamiaith, pa bynnag iaith fo honno. Yng ngeiriau Aled Roberts:
'Mae'n siomedig na all cwmni rhyngwladol yn yr unfed ganrif ar hugain weld rhinweddau gweithlu amrywiol ei iaith lle caiff yr iaith Gymraeg ei defnyddio yn gwbl naturiol.'
Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y comisiynydd, mae'r achos hwn yn rhan o duedd ehangach o gynnydd yn nifer yr achosion am honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion yng Nghymru i gyfathrebu â’i gilydd yn y Gymraeg. Pa gamau penodol fyddwch chi'n eu cymryd i ymateb i'r cynnydd cwbl annerbyniol yma mewn achosion tebyg i'r un sydd wedi codi yn Rhydaman?