Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Wrth gwrs, roeddwn i'n siomedig iawn i weld beth sydd wedi bod yn digwydd yn y ffatri yma yn Rhydaman. Dwi'n meddwl nad yw hi jest yn ymwneud â'r iaith Gymraeg; mae'n ymwneud â'r iaith Bwyleg hefyd. Ond dwi yn meddwl y dylem ni fod yn parchu hawliau pobl i siarad iaith, yn arbennig pan mai honno yw'r iaith frodorol yn ein gwlad. Wrth gwrs, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod hawliau gan bobl yn y wlad yma. Ddylem ni ddim bod yn ymyrryd â hawl pobl i siarad yn y gweithle, ac wrth gwrs byddaf i'n cael trafodion ymhellach gyda'r comisiynydd ynglŷn â beth ymhellach y gall ei wneud i godi ymwybyddiaeth, yn arbennig ym maes busnesau preifat, lle mae peth o'r problemau yma'n digwydd.