2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adfer Castell Rhiw'r Perrai ger Draethen? OAQ54699
Credaf ein bod yn mynd yno'r wythnos hon, onid ydym, neu'r wythnos nesaf? [Torri ar draws.] Rwy'n credu.
Dwi wedi darparu'r ateb yna yn Gymraeg. Dwi'n gwybod dy fod di'n ddysgwr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith cadwraeth ar safleoedd hanesyddol sy’n bwysig i Gymru, fel castell Rhiw’r Perrai.
A yw hynny'n iawn? Ruperra—Rhiw'r Perrai. Wel, dyna mae fy nghynghorwyr ysgolheigaidd yn ei ddweud.
Mae Cadw wedi darparu cymorth hirdymor i’r castell dros gyfnod o flynyddoedd drwy grantiau ariannol a chyngor proffesiynol.
Roedd hynny'n brawf ar fy Nghymraeg. Os ydych am ateb yn Gymraeg yn awr, rwyf am wisgo fy nghlustffonau.
Roeddwn yn deall eich bod yn ymweld yr wythnos hon, ond yr wythnos nesaf y byddwch yn ymweld â chastell Rhiw'r Perrai. Yn eu cyflwyniad i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, cefnogodd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Castell Rhiw'r Perrai, y cyfarfûm â hwy yr wythnos diwethaf, y syniad o sefydlu llain las ar gyfer de-ddwyrain Cymru, ac awgrymasant y dylai gynnwys mynydd Caerffili, Afon Taf tua'r dwyrain hyd at Goed Craig Rhiw'r Perrai ac i'r de hyd at Gas-bach hefyd, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Oni bai fod yr holl dir hwn yn cael ei ychwanegu at y llain las bresennol, maent yn pryderu, rhwng Caerdydd a Chasnewydd, os na cheir unrhyw amddiffyniad, fod perygl gwirioneddol y bydd datblygwyr yn cymryd yr ardal honno ac yn adeiladu arni, a bydd hynny'n difetha unrhyw obaith o warchod castell Rhiw'r Perrai a'r tir o'i gwmpas.
Mae'r ymddiriedolaeth a'i chwaer sefydliad, Ymddiriedolaeth Gadwraeth Rhiw'r Perrai, hefyd wedi gwrthwynebu cynlluniau i gyflawni gwaith atgyweirio tameidiog i wahanol rannau o'r ystâd heb fantais uwchgynllun ehangach. Ac rwyf wedi mynegi fy ngwrthwynebiad wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y ddwy sail ac wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog ystyried y pryderon hyn wrth ymweld â chastell Rhiw'r Perrai, ac a wnaiff adrodd yn ôl wedyn ar sut aeth y drafodaeth yn ystod yr ymweliad? Ac a all amlinellu'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni ar yr ymweliad hwnnw, a sut y bydd yn cyfleu'r neges ynghylch y materion a nodais o bob rhan o'r Llywodraeth i'r bobl y mae'n eu cyfarfod yn Rhiw'r Perrai ar adeg y cyfarfod?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn manwl. Byddaf yn sicr yn ymrwymo i ystyried y castell yn ei gyd-destun ac fel rhan o'r dirwedd, neu'r treflun, gan nad yw adeiladau hanesyddol yn bodoli ar eu pen eu hunain. Maent bob amser yn bodoli mewn perthynas â'r amgylchedd naturiol neu'r amgylchedd adeiledig o'u cwmpas, ac felly mae cyfrifoldeb gan Cadw, ac rydym bob amser yn dweud, 'Rydym yn statudol.' Ni ddylwn ddweud 'rydym', a dweud y gwir, gan mai fi yw'r Gweinidog ar gyfer Cadw, ond mae'n un o fy hoff sefydliadau yn y byd ac roedd hynny'n wir cyn i mi gael y swydd hon hefyd. [Chwerthin.] Felly, mae Cadw yn ymateb i unrhyw ymgynghoriad statudol, a byddant yn nodi'r amddiffyniad i'r heneb os caiff ei heffeithio'n andwyol gan ddatblygiad allanol.
Ni allaf wneud sylwadau ar y materion cynllunio ehangach, sy'n fater i'r Gweinidog cynllunio, wrth gwrs, ond wrth ystyried materion cynllunio, mae'n rhaid i ni yn y Llywodraeth fabwysiadu ymagwedd integredig ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd integredig iawn, fel bod yr holl ffactorau sy'n codi o ddatblygiad arfaethedig, a sut y maent yn effeithio ar yr adeiladau sy'n bodoli'n barod, yn rhywbeth a fyddai’n cael ei ystyried. Wrth gwrs, buaswn yn disgwyl y byddai unrhyw ddatblygiad mawr mewn ardal o'r fath yn debygol o fod yn destun proses gynllunio a allai alw am ymchwiliad cyhoeddus, ac o bosibl, adroddiad gan arolygydd, ond ni allaf ddyfalu ynglŷn â hynny, a byddai hynny'n rhoi cyfle i'r cyhoedd a chithau, wrth gwrs, fel eu cynrychiolydd, wneud sylwadau grymus am y datblygiad.
Ac yn olaf, cwestiwn 7—David Rees.