Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei hateb. Rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd yn cytuno â mi ei bod yn arbennig o bwysig ein bod yn cynnwys pobl ifanc yn y broses hon. Mynegwyd pryderon yn ystod y ddadl ynglŷn â sicrhau ein bod yn hybu cyfranogiad pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed mewn etholiadau. A gaf fi awgrymu, Lywydd, os yw'n briodol, y gellid trafod hyn gyda'r Senedd Ieuenctid a'r cyrff sy'n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y Senedd yn enwedig, oherwydd gallai fod gan y bobl ifanc eu hunain awgrymiadau ynglŷn â'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen a'r ffordd fwyaf effeithiol hefyd o'u galluogi'n ymarferol i fynd ati i bleidleisio?