Ymestyn yr Etholfraint

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:14, 20 Tachwedd 2019

Ydy, mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, ein bod ni'n cynnwys y bobl ifanc diddorol a hynod egnïol yna sydd gyda ni yn cynrychioli pobl ifanc Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru erbyn hyn, gyda'u syniadau nhw ynglŷn â sut y gellid ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru i gyflwyno'r ffaith, o bosib, y bydd y bleidlais ganddyn nhw ar gyfer y Cynulliad yma, y rhai 16 ac 17 oed, erbyn 2021. Mae gyda nhw arbenigedd yn hyn; does gyda ni ddim fel oedolion tipyn yn hŷn, erbyn hyn.

Yr ydym ni eisoes yn gweithio gyda rhai o'r Senedd Ieuenctid, ac, ar y pwynt rŷch chi'n ei wneud, mae eisiau inni hefyd weithio gyda'r grwpiau hynny sy'n cefnogi rhai o'r seneddwyr ifanc i sicrhau bod sut rŷn ni'n mynd ati i gysylltu â phobl ifanc yn gyfredol ac yn ddiddorol, a'u bod nhw'n gallu rhoi'r cyngor yna i ni ynglŷn â'r ffyrdd gorau yn y cyfnod yma i fod yn cysylltu â phobl ifanc. Felly, gwnaf i'n siŵr ein bod ni yn parhau ac yn cynyddu gyda'r gwaith yna a gyda defnyddio brwdfrydedd y bobl ifanc yna sydd yn Aelodau o'n Senedd Ieuenctid ni i roi cymorth inni ar y gwaith yma.