3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2019.
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau ar gyfer ymestyn yr etholfraint cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2021? OAQ54729
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ein hymgyrchoedd addysg a chodi ymwybyddiaeth yn cael eu cydgysylltu, gan wneud y defnydd gorau o adnoddau a defnyddio arbenigedd pob sefydliad i ymgysylltu â phobl ifanc.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei hateb. Rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd yn cytuno â mi ei bod yn arbennig o bwysig ein bod yn cynnwys pobl ifanc yn y broses hon. Mynegwyd pryderon yn ystod y ddadl ynglŷn â sicrhau ein bod yn hybu cyfranogiad pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed mewn etholiadau. A gaf fi awgrymu, Lywydd, os yw'n briodol, y gellid trafod hyn gyda'r Senedd Ieuenctid a'r cyrff sy'n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y Senedd yn enwedig, oherwydd gallai fod gan y bobl ifanc eu hunain awgrymiadau ynglŷn â'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen a'r ffordd fwyaf effeithiol hefyd o'u galluogi'n ymarferol i fynd ati i bleidleisio?
Ydy, mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, ein bod ni'n cynnwys y bobl ifanc diddorol a hynod egnïol yna sydd gyda ni yn cynrychioli pobl ifanc Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru erbyn hyn, gyda'u syniadau nhw ynglŷn â sut y gellid ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru i gyflwyno'r ffaith, o bosib, y bydd y bleidlais ganddyn nhw ar gyfer y Cynulliad yma, y rhai 16 ac 17 oed, erbyn 2021. Mae gyda nhw arbenigedd yn hyn; does gyda ni ddim fel oedolion tipyn yn hŷn, erbyn hyn.
Yr ydym ni eisoes yn gweithio gyda rhai o'r Senedd Ieuenctid, ac, ar y pwynt rŷch chi'n ei wneud, mae eisiau inni hefyd weithio gyda'r grwpiau hynny sy'n cefnogi rhai o'r seneddwyr ifanc i sicrhau bod sut rŷn ni'n mynd ati i gysylltu â phobl ifanc yn gyfredol ac yn ddiddorol, a'u bod nhw'n gallu rhoi'r cyngor yna i ni ynglŷn â'r ffyrdd gorau yn y cyfnod yma i fod yn cysylltu â phobl ifanc. Felly, gwnaf i'n siŵr ein bod ni yn parhau ac yn cynyddu gyda'r gwaith yna a gyda defnyddio brwdfrydedd y bobl ifanc yna sydd yn Aelodau o'n Senedd Ieuenctid ni i roi cymorth inni ar y gwaith yma.
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Lywydd.