1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Tachwedd 2019.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella deiliannau academaidd ar gyfer plant ysgol? OAQ54771
Llywydd, mae cyflwyno ein cwricwlwm newydd, rhoi hwb i'r grant datblygu disgyblion a bwrw ymlaen â'r buddsoddiad mwyaf yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ymhlith y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau i blant ysgol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ar y deunawfed o'r mis hwn, dywedodd Cymwysterau Cymru bod y brand TGAU yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn eang, ac na ddylid cael gwared arno yn rhan o ddiwygiadau addysg y Llywodraeth. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sydd eisiau diddymu cymwysterau TGAU. Rwy'n cytuno â Cymwysterau Cymru, ac rwy'n credu, er bod angen diweddaru TGAU efallai, nad ydym ni'n gwneud cymwynas o gwbl â'n pobl ifanc os byddan nhw'n gadael ein system addysg gyda chymwysterau nad oes neb y tu allan i Gymru wedi clywed amdanynt, yn eu cydnabod nac yn deall y lefel y maen nhw arni. Â phwy ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog—Cymwysterau Cymru neu gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol?
Wel, Llywydd, mae ymgynghoriad pwysig iawn yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, i sicrhau bod y cymwysterau yr ydym ni'n eu cynnig i'n pobl ifanc yng Nghymru yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd, ac yn cyflwyno'r math o gyfranogiad gweithredol mewn dysgu y mae'r cwricwlwm hwnnw wedi'i gynllunio i'w ddarparu. Ymgynghoriad yw hwn, a bydd barn y comisiynydd plant, wrth gwrs, yn cael ei darllen yn ofalus iawn yn rhan o hynny, ac yna byddwn yn dibynnu ar gyngor Cymwysterau Cymru, y corff arbenigol a sefydlwyd at yr union ddiben hwn.
Prif Weinidog, i wella deilliannau academaidd, wrth gwrs, mae'n rhaid i blant a phobl ifanc fod yn rhywle lle y gallan nhw ddysgu, ac os ydyn nhw'n cael eu tynnu oddi ar y gofrestr i hybu cofnod academaidd ymddangosiadol ysgol, yna nid ydyn nhw o reidrwydd yn dysgu. Gwn fod eich Gweinidog yn gwrthwynebu'n llwyr yr arfer o dynnu disgyblion oddi ar y gofrestr, yn amlwg, ond pa gamau uniongyrchol y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymchwilio i gyhuddiadau gydag ysgolion penodol, ac i gosbi unrhyw ysgolion sy'n twyllo'r system?
Wel, Llywydd, dim ond i ychwanegu fy llais at yr un mater: mae tynnu pobl ifanc oddi ar y gofrestr er mwyn gwneud iddi ymddangos, yn artiffisial, fel pe byddai canlyniadau mewn ysgol yn well nag y bydden nhw fel arall yn gwbl annerbyniol. Mae'r bobl ifanc hynny yn haeddu'r addysg orau bosibl, a'r ystyriaeth lawnaf, a gwyddom eu bod weithiau'n blant sy'n achosi heriau yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud yr hyn y mae hi wedi ei ddweud. Mae hi wedi sefydlu cyfres o fesurau ar unwaith i sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth orau yn y maes hwn, ac i newid y ffordd y caiff asesiadau eu cynnal mewn ysgolion, fel bod y cymhellion, y cymhellion gwrthnysig a allai fod wedi bod yno fel arall, ac y dywedir bod rhai ysgolion wedi manteisio'n annheg arnynt—bod y cyfleoedd hynny'n cael eu hatal yn y dyfodol.
Fe gymerodd Cymru ran ym mhrofion PISA am y tro cyntaf yn 2006, a bydd y set ddiweddaraf o ganlyniadau yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Fel rydych chi'n gwybod, roedd sgoriau Cymru yn y cylch diwethaf yn 2015 yn is na sgoriau 2006 ymhob maes, ac roedd canlyniadau Cymru yn y flwyddyn honno hefyd yn is na chanlyniadau'r tair gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, ac yn is na chyfartaledd yr OECD, a hynny yn y tri maes—darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
O edrych ar ddata sydd wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar, yn cynnwys adroddiadau blynyddol Estyn, ydych chi'n gweld arwyddion sy'n eich calonogi chi cyn cyhoeddiad yr OECD ddydd Mawrth nesaf?
Wel, mae lot o bethau, Llywydd, am beth mae plant yn ein hysgolion ni yng Nghymru yn ei wneud sy'n codi ein calon ni yma yn y Llywodraeth, a chyda rhieni ledled Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae'r ysgolion, mae'r athrawon ac mae'r plant eu hunain yn gweithio'n galed i drio gwneud eu gorau glas yn y system sydd gyda ni, ac rydym ni'n gweithio'n galed gyda'r OECD. Maen nhw'n dweud bod y pethau rydym ni'n gwneud yma yng Nghymru—ein bod ni ar y ffordd iawn. Cawn weld beth fydd y ffigurau PISA pan fyddan nhw'n dod atom ni yr wythnos nesaf.