Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Wel, diolch am eich ateb. Roedd rhywfaint ohono'n ddiddorol iawn, ond ni sonioch chi mewn gwirionedd am y pwynt ynghylch faint o ymgeiswyr newydd ar gyfer y cyrsiau penodol hyn a gafwyd eleni na sut y cyrhaeddwyd y targedau hyn. Efallai y gallaf ofyn i chi a ydych yn mynd i gael gwared â'r targedau hyn. Dychmygaf mai oddeutu nawr y byddech yn anfon llythyr cylch gwaith at Gyngor y Gweithlu Addysg, felly efallai y gallwch ymateb i'r cwestiwn hwnnw pan ofynnaf yr un nesaf i chi. Oherwydd mae Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd yn nodi, a dyfynnaf:
'Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn addysgu yng Nghymru, o fis Medi 2019'— sef eleni—
'bydd angen i chi gael statws addysgu cymwysedig (SAC) trwy astudio ar raglen AGA, wedi'i achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), trwy ei Fwrdd Achredu AGA.'
Nawr, yn draddodiadol, mae statws athro cymwysedig o Loegr yn cael ei dderbyn yma'n awtomatig, ond rwy'n cydnabod bod y newidiadau i'n cwricwlwm, ein cymwysterau, a'r dull asesu y mae SAC bellach yn mynd drwyddo yn Lloegr yn dra gwahanol i Gymru. Serch hynny, rydych wedi dweud o'r blaen nad ydych am atal athrawon talentog o'r tu allan i Gymru rhag dod â'u talent i'n hysgolion, ond ni allaf ddod o hyd i unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y gall yr athrawon hynny hyfforddi'n gyflym i addysgu yn ein hysgolion, a gwneud hynny wrth ei gwaith, yn ddelfrydol. Yn ôl pob tebyg, byddai angen iddynt gael eu hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o hyd. Mae mis Medi wedi bod ac wedi mynd—am ba mor hir y bwriadwch atal athrawon newydd gymhwyso o'r tu allan i Gymru rhag dod i'n hysgolion yng Nghymru?