Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch. Buaswn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Pe gallech wneud hynny, byddai hynny'n wych. Diolch yn fawr iawn. Efallai y gallech anfon ffigurau atom hefyd ar nifer y cyfleoedd i hyfforddi yn y gwaith y mae athrawon o'r tu allan i Gymru wedi manteisio arnynt.
Fe sonioch chi am hyn yn eich ymateb i fy nghwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, eich bod am i ysgolion fod yn cyflogi'r athrawon newydd a fydd yn dod drwy'r system o ganlyniad i hyn oll. Sut y byddwch yn sicrhau y gall ysgolion fforddio cyflogi mwy o'r athrawon hyn ac arafu'r ddibyniaeth ar asiantaethau cyflenwi, sydd wrth gwrs, yn arwain at broblemau eraill? Faint o'r £195 miliwn o gyllid canlyniadol i addysg sy'n dod i Gymru o ganlyniad i adolygiad gwariant y DU eleni a fydd yn mynd i ysgolion Cymru yn benodol? Diolch.