Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Wel, mae'r Aelod yn ymwybodol iawn o fwriad y Llywodraeth i gyhoeddi ei chyllideb yng nghanol mis Rhagfyr, bellach—mae wedi'i gohirio, rwy'n ymwybodol o hynny. A bydd yn amlwg i'r Aelodau sut y mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella nid yn unig y gyllideb addysg—ond hefyd, yn hanfodol, mae'r mwyafrif helaeth o gyllid ysgolion yn mynd i ysgolion nid drwy fy nghyllideb i, ond drwy'r Gweinidog llywodraeth leol a'r grant cymorth refeniw. A bydd yn rhaid i'r Aelod aros ychydig wythnosau eto cyn y bydd y manylion hynny ar gael i'r holl Aelodau.