10. Dadl Fer: Gwasanaethau bysiau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 6:25, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei gydnabod hefyd yw fod lefel gyffredinol y defnydd o fysiau yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydyw yn Lloegr a'r Alban. Mae nifer y teithiau y pen o'r boblogaeth yng Nghymru yn y 30au isel, o'i gymharu â rhwng 70 a 80 yn Lloegr a'r Alban. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog—. Cyfeiriodd mewn datganiad ar ddiwedd mis Medi eleni at y perifferoldeb cyffredinol—dyna air nad wyf wedi'i glywed yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw o'r blaen—a gwasgariad poblogaethau yn rhanbarthau Cymru. Ai dyna'r rheswm y tu ôl iddo, neu a oes materion eraill hefyd, yn enwedig yn y rhan ddeheuol Cymru, yng Nghasnewydd hyd at Abertawe, Llanelli? Oni allem fod yn gwneud yn well o ran faint y mae pobl yn ei ddefnyddio ar fysiau, yn enwedig i gymudo i'r gwaith, ac a oes gwersi i'w dysgu o rannau eraill o'r DU i ni yn hynny?

Felly, mae gan y Gweinidog agenda ddeddfwriaethol sylweddol. Cyhoeddodd y Papur Gwyn ar 10 Rhagfyr y llynedd, ac mae'n braf gweld Russell George yn ei sedd o hyd, oherwydd fe wnaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—cyhoeddwyd ein hymateb i'r Papur Gwyn ym mis Mehefin 2019, rwy'n credu. Ers hynny, ar 11 Gorffennaf, rhoddodd y Gweinidog grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ar 24 Gorffennaf rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am Fil trafnidiaeth gyhoeddus (Cymru) a diwygio'r gwasanaethau bysiau yn ehangach. Yn hwnnw, cyfeiriodd at y ffaith bod asesiad effaith rheoleiddiol drafft ar gyfer y Bil ar fin cael ei gyhoeddi. Gofynnais i fy ymchwilydd ddod o hyd i'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft hwnnw, ac i weld a oedd wedi'i gyhoeddi'n fuan fel yr addawyd, ac fel y dywedais, cafwyd datganiad ar 24 Gorffennaf. Ac aeth i edrych ar yr holl bethau a gyhoeddwyd ers hynny i weld a oedd y ddogfen honno wedi ymddangos, ac ni allai ddod o hyd iddi. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd y cyhoeddiad hwnnw heb ymddangos. Yna, aethom ati i edrych ymhellach a chanfod bod yr asesiad wedi'i gyhoeddi ar 18 Gorffennaf mewn gwirionedd. Felly, pan ddywedodd y Gweinidog wrthym fod yr asesiad ar fin cael ei gyhoeddi, roedd wedi ymddangos chwe diwrnod cyn hynny, sy'n gwrthdroi'r ffordd y mae'r pethau hyn fel arfer yn digwydd i Lywodraeth.

Ar 24 Medi, cawsom adroddiad gwahanol a oedd yn canolbwyntio ar reilffyrdd: 'Yr Egwyddorion ar gyfer Cysylltiadau Trafnidiaeth Gyhoeddus'. A synnais braidd mai rheilffyrdd oedd ffocws yr adroddiad hwnnw pan oedd yn ymwneud â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Does bosibl nad oes angen inni ddod â'r ddwy broses ar gyfer trenau a bysiau at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu yn y ffordd yr ymdrinnir â hwy. Os gwnaiff y Gweinidog faddau imi am eiliad—. Felly, yn y ddogfen honno, Weinidog, roeddech yn dweud:

'Mae'r egwyddorion a nodir isod yn gysylltiedig â chysylltiadau coridor sefydlog, fel arfer drwy'r rheilffyrdd ond efallai yn y dyfodol gan gerbydau tebyg i fysiau sy'n gweithio ar seilwaith pwrpasol/ar wahân... [Amlinellais] ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol... ym mis Gorffennaf.'

A'r gwahanu hwnnw y buaswn yn ei gwestiynu. Yn nes ymlaen yn y ddogfen honno ym mis Medi rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cyfnewidfeydd rhanbarthol, ond ymddengys eu bod wedi'u diffinio'n bennaf yn nhermau rheilffyrdd, ac rydych yn cyfeirio yn ne-ddwyrain Cymru, fy rhan ranbarthol i—fe'i gwneir yn fwy eang yma—at Bontypridd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Bae Caerdydd, Heol y Frenhines Caerdydd, Parcffordd Caerdydd, nad yw gyda ni eto, fel y cyfnewidfeydd rhanbarthol. Pam nad Casnewydd? Mae gennym gyfnewidfa reilffordd o fath sy'n dod yn bwysicach yng Nghasnewydd, a buaswn yn sicr yn gobeithio y bydd yn gyfnewidfa bwysig ar gyfer bysiau, a hyderaf y bydd ffocws go iawn ar yr integreiddio hwnnw sydd ei angen arnom i hybu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol.

Fe ddywedoch chi hefyd yn y ddogfen honno ym mis Medi:

'Nid addewidion yw'r rhain. Nid ymrwymiadau yw'r rhain. Nid oes unrhyw arian wedi'i neilltuo. Ond maent yn rhoi cyfeiriad i’n gwaith ac yn rhoi gwybod i eraill am ein huchelgeisiau. Ac yn bwysicaf oll, maent yn arwydd bod Cymru ar agor i ymwelwyr a busnesau.'

Byddai'n dda gennyf pe baech wedi gweithredu yn yr un modd gyda ffordd liniaru'r M4. Ond yn hytrach nag oedi gyda hynny, hoffwn nodi'n unig eich bod yn dweud wedyn mai cynllun 20 mlynedd yw hwn. Yn y gorffennol, rydych wedi'i ddisgrifio fel 'egwyddorion', ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall beth yw hyn. Wrth gwrs, ni allwch wneud addewidion pan nad yw'r cyllid gennych. Mae gennych Trafnidiaeth Cymru; rwy'n credu bod yna addewid posibl gyda'r dull rydych yn ei fabwysiadu. Rwy'n awyddus i fod mor gefnogol â phosibl, ond rwy'n credu bod gwir angen eglurder ynglŷn â beth sy'n amcan, beth sy'n gynllun, beth sy'n uchelgais a beth sy'n ddyhead. Ac yn amlwg, nid ydych eisiau addo pethau nad ydych yn eu cyflawni wedyn, ond yn yr un modd, rwy'n credu bod angen eglurder ynglŷn â beth sy'n ddogfen gynllunio a beth nad yw'n ddogfen o'r fath.

Rydych yn rhoi cryn bwyslais—. Yn y Papur Gwyn, rydych yn cyfeirio at ostyngiad cyffredinol yn nifer y teithwyr, sy'n gostwng yn raddol am flynyddoedd lawer ar y rhan fwyaf o lwybrau ac unwaith eto, hoffwn bwysleisio nad yw hynny wedi bod yn wir ers 2014-15, ac mae'n rhaid inni edrych ar beth sydd wedi achosi'r newid hwnnw a sut y gallwn adeiladu ar hynny. Rydych hefyd yn rhoi cryn bwyslais yn y Papur Gwyn ar Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn dadreoleiddio gwasanaethau bysiau lleol yn y DU y tu allan i Lundain. Wrth gwrs, roedd hwnnw'n ddigwyddiad pwysig, ond rydym wedi symud ymlaen 34 o flynyddoedd, a hoffwn rybuddio yn erbyn disgwyl i bopeth fod yn wahanol am fod gennym gymhwysedd datganoledig a'n bod yn mynd i ddeddfu mewn ffordd wahanol a rhoi opsiynau eraill i awdurdodau lleol a rywsut, fod hynny'n mynd i newid tirwedd y ddarpariaeth fysiau. Yn amlwg, roedd dadreoleiddio'n bwysig, ond ni fydd dileu'r gofyniad deddfwriaethol amdano'n mynd â ni'n ôl o reidrwydd i system wedi'i rheoleiddio neu system fasnachfreinio yn y ffordd a welsom o'r blaen. Mae Llundain hefyd yn wahanol iawn i weddill y DU, ac mae cymdeithas wedi newid yn sylweddol iawn dros y 34 mlynedd.

Rwy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud yn y Papur Gwyn a'r tri dewis sydd gennych. Rwy'n credu bod rhoi mwy o opsiynau i awdurdodau lleol yn syniad da a'u galluogi i ddatblygu'r opsiynau hynny a dangos arferion da, a gall eraill ddysgu oddi wrthynt. Er hynny, tybed faint o wahaniaeth a welwn gyda'r partneriaethau ansawdd estynedig hyn. Efallai y byddant yn symud y cydbwysedd rywfaint o'r cwmni bysiau i'r awdurdod lleol, ond a fydd hynny'n arwain at wella gwasanaethau? Cawn weld. Yn yr un modd gyda masnachfreinio bysiau, nid wyf yn glir a yw'r Gweinidog yn disgwyl i rai awdurdodau lleol fasnachfreinio dros yr ardal gyfan a chael masnachfraint i'r system i gymryd lle'r system bresennol, neu a yw'n fwy tebygol y bydd hyn yn digwydd mewn ardaloedd penodol lle byddai hynny o fudd penodol? Rwy'n gofyn hefyd, a oes gan awdurdodau lleol y gallu, y bobl, y systemau, ar gyfer cynnal cystadleuaeth fasnachfreinio mor fawr ac mor bwysig? Os symudwn i system fasnachfraint mewn awdurdod lleol llawn, oni fyddai perygl go iawn y bydd symud o un system i'r llall, yn creu problemau cychwynnol o leiaf i'r bobl a fyddai'n ymwneud â hi?

O ran eich trydydd opsiwn, sef gwasanaethau bysiau awdurdod lleol, nid oes gennyf broblem gydag ambell awdurdod lleol yn rhedeg ambell fws. A bu rhai cwynion am ardaloedd nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael ceisiadau da gan ddarparwyr preifat i redeg gwasanaethau, a gallai'r posibilrwydd y gallai'r awdurdod lleol ei wneud gynnig rhywfaint o gystadleuaeth na fyddai yno fel arall. Fodd bynnag, unwaith eto, rwy'n dweud hyn: a oes gan yr awdurdodau lleol y lefel honno o allu, a ydynt wedi eu sefydlu i wneud hynny, a pha mor eang y cred y Gweinidog y bydd hynny'n digwydd?

Yn olaf, mae'n cyfeirio at gydbwyllgorau statudol o'r Bil llywodraeth leol. A gaf fi ofyn ai dyna'r hyn a alwem yn gyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol o'r blaen? Ac a oes gan y Gweinidog unrhyw syniadau pellach ynglŷn ag a oes angen y cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol, gan fod rhywfaint o bryder mai corff a fyddai'n dyblygu fyddai hwnnw, un yn fwy nag y byddem ei angen? Edrychaf ymlaen at ei ymateb.