Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar am ddiweddariad y trefnydd yn y datganiad busnes ddoe mewn perthynas â'r dystiolaeth hon a gyflwynir i Lywodraeth Cymru. A allwch chi roi sicrwydd inni mewn perthynas â dau beth, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, fod y dystiolaeth a ddarparwyd gan y datblygwr o'r un ansawdd ag y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi bod. Ac yn ail, na fydd unrhyw weithgarwch masnachol yn dechrau ar safle'r llosgydd hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi ffurfio'i barn, ar sail y dystiolaeth y mae'r datblygwr wedi'i rhoi i chi.