Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch i'r Aelod. Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb parhaus yn y maes hwn ers amser. Yn amlwg, mae'r wybodaeth y bydd y datblygwr yn ei chyflwyno mewn perthynas â'r datganiad amgylcheddol yn cyd-fynd â'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl. Yn amlwg, caiff ei ddadansoddi gan yr ymgynghorydd annibynnol i edrych ar unrhyw fylchau ac unrhyw beth y mae angen inni fwrw ymlaen ag ef, a byddwn yn ystyried popeth yn ofalus, a chyda diwydrwydd dyladwy, fel y byddai'r Aelod yn ei ragweld ac yn ei ddisgwyl.