Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad o bob ochr i'r Siambr sydd wedi cefnogi'r digwyddiad a gynhaliwyd heddiw i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas a'r rheini a gyflwynodd y ddadl hon ar y cyd. Rwy'n falch iawn y bydd Cadeirydd y pwyllgor iechyd, Dr Dai Lloyd, yn cloi'r ddadl heddiw. Gwn y bydd Dai yn lleisio'r pryderon sydd gan lawer ohonom am y modd y dynodir gwahanol atebion ar gyfer gwahanol ganserau yng nghyd-destun yr un llwybr canser newydd, oherwydd i'r cleifion rydym yn eu trafod heddiw, yn fwy nag unrhyw ganser arall bron, mae amser o'r pwys mwyaf.
Ym mhob ffordd bron, mae'r byd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn y 50 mlynedd diwethaf. Ym mis Tachwedd 1969 roedd y byd yn gwylio ac yn rhyfeddu at laniad llwyddiannus Apollo 12 ar y lleuad. Roedd technoleg yn newid, a hynny'n gyflym, a gofal iechyd hefyd. Ar ddechrau'r 1970au, nid oedd ond disgwyl i un o bob pedwar claf canser yn y DU oroesi eu clefyd am 10 mlynedd neu fwy. Mae'r ffigur hwnnw bellach yn ddau o bob pedwar. Yn 1969 roedd marwolaethau babanod yn y wlad hon yn 18.32 ym mhob 1,000 o enedigaethau. Mae bellach yn 3.7.
Pam y cyd-destun hwn—y cipolwg hir, 50 mlynedd hwn ar y byd a'r cynnydd yn y byd meddygol? Oherwydd, wrth edrych yn ôl o'r presennol ar y bywyd du a gwyn hwnnw, y pethau sydd heb newid sy'n peri'r ofn mwyaf i ni. Dros y cyfnod hwnnw, mae un peth nad yw wedi newid: nid yw cyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas wedi newid. Er yr holl gynnydd a wnaethom ym maes technoleg, cyfathrebu a gofal iechyd, drwy gydol oes y GIG bron, nid yw'r cyfraddau wedi newid mewn perthynas â'r canser hwn, y canser sy'n lladd gyflymaf a'r canser sydd â'r lefel isaf o oroeswyr.
Mae'r ystadegau—yr ystadegau disymud—yn niferus ac yn frawychus. Canser y pancreas yw'r degfed canser mwyaf cyffredin yn y DU, ond nid yw ond yn derbyn 1 y cant o gyllid ymchwil. Oherwydd diagnosis hwyr, ni fydd saith o bob 10 o bobl sydd â chanser y pancreas yn cael unrhyw driniaeth, ac un o bob 10 yn unig sy'n cael llawdriniaeth, sef yr unig ateb iachaol. Bydd llai na 6 y cant o'r rheini yr effeithir arnynt yng Nghymru yn goroesi am fwy na phum mlynedd—ystyriwch hynny am eiliad.
Yng nghysgod y rhifau hyn mae pobl go iawn, straeon go iawn a dioddefaint go iawn. Felly, rwyf am ddefnyddio gweddill fy sylwadau heddiw i roi llais i dair stori—perthynas sydd wedi dioddef profedigaeth, ymgyrchwyr dewr a chlinigydd blaenllaw. Tair stori sy'n cyfuno i wneud un pwynt: mae'n rhaid i ni wneud yn well.
Yn gyntaf, hoffwn adrodd hanes fy etholwr, Linda. Rwyf eisiau i chi ddychmygu sut oedd Nadolig Linda 10 mlynedd yn ôl. Ar ôl colli ei chefnder, Noel, a'i hewythr, Robert, i ganser y pancreas yn y blynyddoedd diweddar—bu farw'r ddau o fewn wythnosau i'w diagnosis, er iddynt gael blynyddoedd i fyw—roedd Linda bellach yn wynebu'r ansicrwydd ynglŷn â'i mam a oedd yn ddifrifol wael. Roedd wedi dioddef dwy flynedd o iechyd gwael, triniaethau amrywiol a diagnosis ansicr. Yna, 10 mlynedd yn ôl, dioddefodd ddirywiad cyflym dros gyfnod y Nadolig, a dywedwyd wrthi ym mis Ionawr 2010 fod ganddi hithau hefyd diwmorau ar ei phancreas, ei hafu a'i stumog. Roedd y darganfyddiad yn rhy hwyr. Nid oedd unrhyw beth y gallai'r meddygon ei wneud—yr ymadrodd dychrynllyd hwnnw: 'Byddwn yn sicrhau ei bod mor gyfforddus a phosibl.'
Mae Linda'n talu teyrnged i'r gofal a gafodd ei mam gan nyrsys pan ddaeth adref am ei thair wythnos olaf, ac i'w merch ei hun, a ddaliodd yn gadarn i'w nain hyd nes ei bod o'r golwg ac oddi ar y ward, pan allai dorri ei chalon yn ddiogel ym mreichiau ei mam. Mae Linda'n dal i fod yn ddig—a hynny'n briodol—fod ei mam wedi cael clywed ei diagnosis ar ei phen ei hun, am na chafodd glywed am y treialon a oedd ar gael, am nad oedd neb wedi meddwl, drwy'r misoedd allweddol hynny, am y posibilrwydd o gysylltiad teuluol, ond yn fwy na dim, am ei bod yn clywed yr un straeon heddiw. Mae Linda wedi troi ei phoen yn frwdfrydedd ymgyrchu a fyddai'n taflu unrhyw wleidydd i'r cysgod. Mae Linda a'i theulu'n haeddu clywed am fwy o gynnydd na'r hyn a wnaethom yn y pum mlynedd diwethaf, heb sôn am yr 50 mlynedd diwethaf.
Daw'r ail stori gan Bilal Al-Sarireh, yr arweinydd clinigol yng Nghymru ar ganser y pancreas, a hoffwn ddiolch iddo am weithio gyda fy swyddfa i roi diweddariad manwl am yr heriau sy'n bodoli heddiw. Dywed yr athro Al-Sarireh, ar ôl gweld cynnydd mor enfawr ers sefydlu canolfan arbenigol gyntaf Cymru ddegawd yn ôl, ei fod bellach yn poeni ei fod yn siomi cleifion am na allant gael triniaeth yn ddigon cyflym, ni waeth pa mor gyflym na pha mor ddifrifol yw eu diagnosis. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad ydym byth eisiau clywed clinigwyr yn mynegi teimladau o euogrwydd a gofid am amgylchiadau na allant eu rheoli. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych o ddifrif ar y pryderon sy'n cael eu codi gan yr athro am yr heriau sy'n wynebu canolfan genedlaethol Cymru, lle mae nifer y cleifion sy'n cael cynnig llawdriniaeth iachaol yn gostwng o tua 20 y cant i lai na 15 y cant, a lle mae llawdriniaethau dargyfeiriol lliniarol ar gynnydd erbyn hyn, sy'n adlewyrchu dwy her.
Yn gyntaf, mae'r cwestiwn sy'n ymwneud â sicrhau bod cyllid yn cyfateb i'r galw cynyddol, ac yn ail, o ran logisteg, mae Cymru ar hyn o bryd ar ei hôl hi o ran cael canolfannau annibynnol sy'n cynnig triniaeth arbenigol ar gyfer clefydau'r afu a'r pancreas. Felly, a all y Gweinidog ystyried sefydlu un ganolfan ganser hepatopancreatobiliaraidd yng Nghymru? Yn ôl arbenigwyr, bydd hyn yn helpu i recriwtio, cadw a chynnal yr arbenigwyr cywir ac yn dod â'r sgiliau cywir i Gymru i wneud cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â lleihau rhestrau aros. Mae amser yn hanfodol: dyna'r neges a glywch dro ar ôl tro gan bawb yr effeithiwyd arnynt gan ganser y pancreas.
Ac yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Nick a Wendy Horler, sy'n rheoli swyddfa bost Blaenafon yn fy etholaeth. Unwaith eto eleni, maent wedi goleuo'u hadeilad â goleuadau porffor i nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Fel nifer o ymgyrchwyr y clywn amdanynt heddiw, maent wedi gwneud hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel Linda a'i theulu, fel yr Athro Bilal Al-Sarireh a'i dîm, a chymaint o bobl eraill sydd wedi ymgynnull yma heddiw, mae Nick a Wendy Horler yn aros i weld beth fydd canlyniad blynyddoedd o ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth. Tair stori ag un pwynt: mae'n rhaid inni wneud yn well. I ddioddefwyr canser y pancreas, mae amser yn hanfodol. Mae gormod o amser wedi mynd heibio erbyn hyn a dim digon o gamau ymlaen o ran triniaeth, cyfraddau goroesi ac ymwybyddiaeth. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig heddiw i roi mwy o amser, mwy o obaith, i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd dychrynllyd hwn. Diolch.