6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y Pancreas

– Senedd Cymru am 3:54 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:54, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganser y pancreas, a galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig. [Torri ar draws.] A gawn ni fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Diolch. Lynne.

Cynnig NDM7191 Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding

Cefnogwyd gan Delyth Jewell, Joyce Watson, Mark Isherwood, Neil Hamilton, Neil McEvoy, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon cyflym.

2. Yn cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.

3. Yn cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.

4. Yn croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas yng Nghymru drwy:

a) triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;

b) diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; ac 

c) cymorth cyfannol, drwy gymorth deietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn well.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:54, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad ar draws—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:55, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Arhoswch funud. A gawn ni fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Mae'r ddadl hon yr un mor bwysig, rwy'n credu, â gweddill yr agenda y prynhawn yma, felly os ydych yn gadael, a allwch chi wneud hynny—? Mae Lynne angen ein sylw llawn. Diolch. Lynne.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad o bob ochr i'r Siambr sydd wedi cefnogi'r digwyddiad a gynhaliwyd heddiw i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas a'r rheini a gyflwynodd y ddadl hon ar y cyd. Rwy'n falch iawn y bydd Cadeirydd y pwyllgor iechyd, Dr Dai Lloyd, yn cloi'r ddadl heddiw. Gwn y bydd Dai yn lleisio'r pryderon sydd gan lawer ohonom am y modd y dynodir gwahanol atebion ar gyfer gwahanol ganserau yng nghyd-destun yr un llwybr canser newydd, oherwydd i'r cleifion rydym yn eu trafod heddiw, yn fwy nag unrhyw ganser arall bron, mae amser o'r pwys mwyaf.

Ym mhob ffordd bron, mae'r byd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn y 50 mlynedd diwethaf. Ym mis Tachwedd 1969 roedd y byd yn gwylio ac yn rhyfeddu at laniad llwyddiannus Apollo 12 ar y lleuad. Roedd technoleg yn newid, a hynny'n gyflym, a gofal iechyd hefyd. Ar ddechrau'r 1970au, nid oedd ond disgwyl i un o bob pedwar claf canser yn y DU oroesi eu clefyd am 10 mlynedd neu fwy. Mae'r ffigur hwnnw bellach yn ddau o bob pedwar. Yn 1969 roedd marwolaethau babanod yn y wlad hon yn 18.32 ym mhob 1,000 o enedigaethau. Mae bellach yn 3.7.

Pam y cyd-destun hwn—y cipolwg hir, 50 mlynedd hwn ar y byd a'r cynnydd yn y byd meddygol? Oherwydd, wrth edrych yn ôl o'r presennol ar y bywyd du a gwyn hwnnw, y pethau sydd heb newid sy'n peri'r ofn mwyaf i ni. Dros y cyfnod hwnnw, mae un peth nad yw wedi newid: nid yw cyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas wedi newid. Er yr holl gynnydd a wnaethom ym maes technoleg, cyfathrebu a gofal iechyd, drwy gydol oes y GIG bron, nid yw'r cyfraddau wedi newid mewn perthynas â'r canser hwn, y canser sy'n lladd gyflymaf a'r canser sydd â'r lefel isaf o oroeswyr.

Mae'r ystadegau—yr ystadegau disymud—yn niferus ac yn frawychus. Canser y pancreas yw'r degfed canser mwyaf cyffredin yn y DU, ond nid yw ond yn derbyn 1 y cant o gyllid ymchwil. Oherwydd diagnosis hwyr, ni fydd saith o bob 10 o bobl sydd â chanser y pancreas yn cael unrhyw driniaeth, ac un o bob 10 yn unig sy'n cael llawdriniaeth, sef yr unig ateb iachaol. Bydd llai na 6 y cant o'r rheini yr effeithir arnynt yng Nghymru yn goroesi am fwy na phum mlynedd—ystyriwch hynny am eiliad.

Yng nghysgod y rhifau hyn mae pobl go iawn, straeon go iawn a dioddefaint go iawn. Felly, rwyf am ddefnyddio gweddill fy sylwadau heddiw i roi llais i dair stori—perthynas sydd wedi dioddef profedigaeth, ymgyrchwyr dewr a chlinigydd blaenllaw. Tair stori sy'n cyfuno i wneud un pwynt: mae'n rhaid i ni wneud yn well.

Yn gyntaf, hoffwn adrodd hanes fy etholwr, Linda. Rwyf eisiau i chi ddychmygu sut oedd Nadolig Linda 10 mlynedd yn ôl. Ar ôl colli ei chefnder, Noel, a'i hewythr, Robert, i ganser y pancreas yn y blynyddoedd diweddar—bu farw'r ddau o fewn wythnosau i'w diagnosis, er iddynt gael blynyddoedd i fyw—roedd Linda bellach yn wynebu'r ansicrwydd ynglŷn â'i mam a oedd yn ddifrifol wael. Roedd wedi dioddef dwy flynedd o iechyd gwael, triniaethau amrywiol a diagnosis ansicr. Yna, 10 mlynedd yn ôl, dioddefodd ddirywiad cyflym dros gyfnod y Nadolig, a dywedwyd wrthi ym mis Ionawr 2010 fod ganddi hithau hefyd diwmorau ar ei phancreas, ei hafu a'i stumog. Roedd y darganfyddiad yn rhy hwyr. Nid oedd unrhyw beth y gallai'r meddygon ei wneud—yr ymadrodd dychrynllyd hwnnw: 'Byddwn yn sicrhau ei bod mor gyfforddus a phosibl.'

Mae Linda'n talu teyrnged i'r gofal a gafodd ei mam gan nyrsys pan ddaeth adref am ei thair wythnos olaf, ac i'w merch ei hun, a ddaliodd yn gadarn i'w nain hyd nes ei bod o'r golwg ac oddi ar y ward, pan allai dorri ei chalon yn ddiogel ym mreichiau ei mam. Mae Linda'n dal i fod yn ddig—a hynny'n briodol—fod ei mam wedi cael clywed ei diagnosis ar ei phen ei hun, am na chafodd glywed am y treialon a oedd ar gael, am nad oedd neb wedi meddwl, drwy'r misoedd allweddol hynny, am y posibilrwydd o gysylltiad teuluol, ond yn fwy na dim, am ei bod yn clywed yr un straeon heddiw. Mae Linda wedi troi ei phoen yn frwdfrydedd ymgyrchu a fyddai'n taflu unrhyw wleidydd i'r cysgod. Mae Linda a'i theulu'n haeddu clywed am fwy o gynnydd na'r hyn a wnaethom yn y pum mlynedd diwethaf, heb sôn am yr 50 mlynedd diwethaf.

Daw'r ail stori gan Bilal Al-Sarireh, yr arweinydd clinigol yng Nghymru ar ganser y pancreas, a hoffwn ddiolch iddo am weithio gyda fy swyddfa i roi diweddariad manwl am yr heriau sy'n bodoli heddiw. Dywed yr athro Al-Sarireh, ar ôl gweld cynnydd mor enfawr ers sefydlu canolfan arbenigol gyntaf Cymru ddegawd yn ôl, ei fod bellach yn poeni ei fod yn siomi cleifion am na allant gael triniaeth yn ddigon cyflym, ni waeth pa mor gyflym na pha mor ddifrifol yw eu diagnosis. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad ydym byth eisiau clywed clinigwyr yn mynegi teimladau o euogrwydd a gofid am amgylchiadau na allant eu rheoli. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych o ddifrif ar y pryderon sy'n cael eu codi gan yr athro am yr heriau sy'n wynebu canolfan genedlaethol Cymru, lle mae nifer y cleifion sy'n cael cynnig llawdriniaeth iachaol yn gostwng o tua 20 y cant i lai na 15 y cant, a lle mae llawdriniaethau dargyfeiriol lliniarol ar gynnydd erbyn hyn, sy'n adlewyrchu dwy her.

Yn gyntaf, mae'r cwestiwn sy'n ymwneud â sicrhau bod cyllid yn cyfateb i'r galw cynyddol, ac yn ail, o ran logisteg, mae Cymru ar hyn o bryd ar ei hôl hi o ran cael canolfannau annibynnol sy'n cynnig triniaeth arbenigol ar gyfer clefydau'r afu a'r pancreas. Felly, a all y Gweinidog ystyried sefydlu un ganolfan ganser hepatopancreatobiliaraidd yng Nghymru? Yn ôl arbenigwyr, bydd hyn yn helpu i recriwtio, cadw a chynnal yr arbenigwyr cywir ac yn dod â'r sgiliau cywir i Gymru i wneud cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â lleihau rhestrau aros. Mae amser yn hanfodol: dyna'r neges a glywch dro ar ôl tro gan bawb yr effeithiwyd arnynt gan ganser y pancreas.

Ac yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Nick a Wendy Horler, sy'n rheoli swyddfa bost Blaenafon yn fy etholaeth. Unwaith eto eleni, maent wedi goleuo'u hadeilad â goleuadau porffor i nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Fel nifer o ymgyrchwyr y clywn amdanynt heddiw, maent wedi gwneud hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel Linda a'i theulu, fel yr Athro Bilal Al-Sarireh a'i dîm, a chymaint o bobl eraill sydd wedi ymgynnull yma heddiw, mae Nick a Wendy Horler yn aros i weld beth fydd canlyniad blynyddoedd o ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth. Tair stori ag un pwynt: mae'n rhaid inni wneud yn well. I ddioddefwyr canser y pancreas, mae amser yn hanfodol. Mae gormod o amser wedi mynd heibio erbyn hyn a dim digon o gamau ymlaen o ran triniaeth, cyfraddau goroesi ac ymwybyddiaeth. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig heddiw i roi mwy o amser, mwy o obaith, i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd dychrynllyd hwn. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:02, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi dalu teyrnged i Lynne Neagle am yr araith honno, ond hefyd am y gwaith rydych chi wedi'i wneud yn y maes hwn? Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch i Pancreatic Cancer UK am y sesiwn wybodaeth alw heibio a drefnwyd ganddynt heddiw, a gwn fod llawer o Aelodau wedi mynychu honno ac yn teimlo bod yr wybodaeth a gafwyd yno yn arbennig o werthfawr. 

Ddirprwy Lywydd, dros y 50 mlynedd diwethaf, mae strategaethau diagnosis a thriniaeth ar gyfer cleifion canser wedi esblygu'n gyflym, gan drawsnewid canlyniadau i gleifion. Ac eto, er gwaethaf y datblygiadau mawr a welwyd mewn meysydd oncoleg eraill, mae gwelliannau yn y canlyniadau i gleifion canser y pancreas wedi aros yn eu hunfan i raddau helaeth. Mewn cyferbyniad llwyr â'r cynnydd rhyfeddol yn y cyfraddau goroesi a welwyd mewn clefydau eraill fel canser yr ysgyfaint, y fron a'r prostad, dim ond 5 y cant yw'r gyfradd gyffredinol o gleifion sy’n goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser y pancreas, ac nid yw hynny wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd ers y 1970au. 

Yn gynharach eleni, awgrymodd dadansoddiadau yn gadarnhaol fod cyfraddau goroesi canser yn y DU yn gwella, ond mae'n dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd incwm uchel eraill, felly mae gennym ni'r rhan honno o'r broblem hefyd. Yn wir, er gwaethaf y gwelliannau a welwn, roedd y DU yn dal i berfformio'n waeth nag Awstralia, Canada, Denmarc, Iwerddon, Seland Newydd a Norwy yn yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn The Lancet. Dywed Cancer Research UK y gallai’r DU wneud yn well a galwodd am fwy o fuddsoddiad yn y GIG a’r systemau a’r datblygiadau arloesol sy’n ei gefnogi, a byddai hynny’n wirioneddol bwysig mewn perthynas â chanser y pancreas a’r rhagolygon ar gyfer gwella canlyniadau.   

Fel y clywsom, un o'r problemau yw y gall camau cynnar y clefyd fod yn gudd ac yn aml ni chaiff symptomau eu nodi, ac felly darganfyddir y clefyd yn hwyr yn ei ddatblygiad. Ac rwy'n credu hefyd fod canfyddiad ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser y pancreas yn wael at ei gilydd, ac o’i ychwanegu at y ffaith bod offer diagnostig safonol yn aml yn arwain at oedi cyn ei ganfod ac nad ydynt mor ddatblygedig â rhai meysydd eraill o driniaeth ganser—erbyn i rywun wybod bod ganddynt y clefyd, y canlyniad yw nad yw llawdriniaeth iachaol, er enghraifft, yn bosibl mwyach. 

Ond er gwaethaf yr ystadegau braidd yn frawychus hyn, gwelwyd arwyddion o welliant ac mae angen i ni adeiladu ar y cyflawniadau hyn, ac yn amlwg mae gennym sefydliadau gwych y cyfeiriais atynt yn ymgyrchu'n weithredol yn y maes hwn yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef o'r clefyd neu eu teuluoedd, a gwyddom cymaint o rym gwleidyddol pwerus a geir yn sgil pobl yn dod i dystio ynghylch eu profiad personol a phrofiad eu hanwyliaid. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn adeiladu ar hyn i gynyddu'r cyfoeth o ymchwil sefydledig sydd gennym a sicrhau bod gwelliannau cynyddrannol yn cael eu gwerthfawrogi ac yna'n cael eu gweld ar draws y maes, a'u cyfuno wedyn â datblygiadau eraill fel bod gennym ddull cyfannol ar waith. Mae yna lawer iawn o bethau sydd angen eu cywiro a'u gwella er mwyn gweld datblygiad cyffredinol yn y prognosis ac i ehangu’r opsiynau triniaeth sydd ar gael. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol allweddol i'r hyn sydd angen inni ei wneud, ond yn fwy na dim, yr ymdrech i gael diagnosis cynharach, ac mae hynny'n arwain at well triniaethau, ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd ym maes ymchwil ond hefyd ein bod yn mynd â chleifion a'r cyhoedd gyda ni fel bod eu hymwybyddiaeth yn gwella hefyd. 

Roeddwn yn falch iawn o ddarllen yn gynharach y mis hwn fod Dr Catherine Hogan yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd wedi derbyn £373,000 o gyllid gan Cancer Research UK i ddeall sut y mae celloedd canser y pancreas yn datblygu, gyda'r nod o ddatblygu offer diagnostig ar gyfer y dyfodol. Felly, mae gennym hanes da yng Nghymru ac yn ein prifysgolion a'n hysgolion meddygol, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei gyfrannu a sicrhau ein bod yn cynnal hynny i'r eithaf ac yn ei gefnogi. Ond mae'n bwysig cael y ffynonellau cyllid mawr hynny a dod â hwy i Gymru. 

Ond rwy'n gorffen, mewn gwirionedd, gyda'r apêl ein bod i gyd yn dod yn fwy ymwybodol o ganser y pancreas, o ran lle mae fel mater iechyd cyhoeddus—y degfed canser mwyaf cyffredin, fel y clywsom—ond hefyd bydd yn sicrhau ein bod yn ei wthio i fyny'r rhestr wleidyddol o flaenoriaethau fel ein bod yn gweld y datblygiadau a gyflawnwyd, yn galonogol, mewn sawl maes triniaeth canser yn digwydd mewn perthynas â chanser y pancreas hefyd. Diolch yn fawr iawn.  

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:08, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Mae'n glefyd nad oes digon o bobl yn ymwybodol ohono mewn manylder, ond os yw'n rhywbeth sydd wedi cyffwrdd â'ch teulu chi, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol ydyw. Gwn y bydd llawer ohonom sy'n cyfrannu at y ddadl hon yn ddyledus i sefydliadau fel Pancreatic Cancer UK am anfon ystadegau atom, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt hefyd. Wrth gwrs, mae'r ystadegau hynny'n ddamniol, yn enwedig yr ystadegau sy'n dangos sut y mae'r ods yn pentyrru yn erbyn rhywun ar ôl iddynt gael diagnosis o ganser y pancreas yn y pen draw. Fel y clywsom, ni fydd saith o bob 10 o bobl â chanser y pancreas byth yn cael unrhyw driniaeth, a dim ond un o bob 10 fydd yn cael llawdriniaeth. Ond y tu ôl i’r holl ystadegau hynny, rhaid i ni gofio mai pobl, teuluoedd ydynt a fydd yn cael eu trawmateiddio gan gyflymder y clefyd hwn. Nid oes digon o ddealltwriaeth yn ei gylch, ac erbyn y gwneir diagnosis ohono, mae'n rhy hwyr fel arfer i wneud unrhyw beth. 

Canser y pancreas yw'r canser sy'n lladd gyflymaf a'r canser gyda'r cyfraddau goroesi isaf. Mae'r ffigurau'n llwm, ond yr hyn sy'n llymach fyth yw pa mor ddisymud yw'r ffigurau hyn, a bod cyn lleied o welliant wedi bod ers degawdau yn y cyfraddau goroesi. Wrth gwrs, nid oes hierarchaeth i boen. Gall pob canser fod yn ddinistriol, a gall fod straeon sy'n ymddangos yn wyrthiol ynghlwm wrth bob math o ganser, ond ceir teimlad mai gan ganser y pancreas, y llofrudd cudd, y mae’r llais gwannaf hefyd pan ystyriwn gyllid, ymchwil a dealltwriaeth y cyhoedd.  

Rwy’n cefnogi galwad Pancreatic Cancer UK y dylid cael cynllun cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas i wella cyfraddau diagnosis, i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau ymhlith y cyhoedd a meddygon teulu, i gael buddsoddiad allweddol mewn ymchwil, fel bod modd gwella cyfraddau diagnosis a gobaith o oroesi i filoedd o bobl.

Mae elfen ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hollbwysig. Bu farw fy mam-gu o ganser y pancreas ym mis Ionawr 2005. Roedd hi wedi bod ychydig yn anhwylus adeg y Nadolig, ond fel cymaint o gleifion nad ydynt yn gwybod bod y symptomau hyn yn cuddio rhywbeth marwol, fe oedodd cyn mynd at y meddyg teulu. Pan aeth hi, ni wnaeth neb adnabod y symptomau. Nid oedd ar ei phen ei hun yn hynny o beth—mae 16 y cant o gleifion canser y pancreas yn ymweld â'u meddyg teulu saith gwaith neu ragor cyn cael diagnosis. Ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig, aeth at y meddyg teulu eto, ac nid oeddent yn gwybod yn union beth oedd yn bod ond fe wnaethant ei gyrru’n syth i'r ysbyty. Roedd hyn dros gyfnod y flwyddyn newydd, felly ni chanfuwyd y clefyd am amser rhy hir. Gadawyd fy mam-gu’n gweiddi’n orffwyll oherwydd y boen, a phan ddeallwyd y symptomau o'r diwedd, daeth y tîm gofal lliniarol gwych i ofalu amdani, ond bu farw dridiau'n ddiweddarach. Roedd hi wedi bod mewn poen dirfawr ers wythnosau. Roedd yn hynod o ofidus, i fy mam yn enwedig, oherwydd bod y clefyd yn ymddangos fel pe bai wedi dod o unman, ac eto, o fewn dyddiau, roedd yn rhaid i nyrsys dorri ei modrwy briodas yn rhydd oherwydd y boen. Dim ond ers tair wythnos y bu’n sâl mewn gwirionedd. Roedd yn greulon, roedd yn ddifäol. 

Gwn fod aelodau eraill o fy nheulu, gan fy nghynnwys i, yn wynebu mwy o risg, oherwydd bod fy mam-gu wedi marw o ganser y pancreas, a'i mam o'i blaen. Mae'n rhaid i ni wella diagnosis o'r clefyd erchyll hwn. Mae angen mwy o arian ar frys ar gyfer ymchwil yn ogystal ag ymgyrch godi ymwybyddiaeth bwrpasol am symptomau sy’n nodweddu’r clefyd. Os gwelwch yn dda, gadewch inni wneud y buddsoddiad hwn fel bod llai o bobl yn gorfod marw fel fy mam-gu.  

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:12, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Lynne, Dai a David am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Fel y mae'r cyfranwyr eraill wedi nodi, canser y pancreas yw'r mwyaf marwol o'r holl ganserau, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl erioed wedi clywed amdano. Deuthum yn ymwybodol iawn o ganser y pancreas dros 30 mlynedd yn ôl, pan ddarganfu meddygon diwmor ar fy mhancreas. Diolch byth, yn fy achos i, roedd y tiwmor yn anfalaen, ond roedd y symptomau a gefais yn erchyll: byddwn yn cwympo, yn llewygu'n gwbl anymwybodol, oherwydd amharwyd yn llwyr ar lefel yr inswlin. Ni wyddwn beth oedd o'i le, a chymerodd ddwy flynedd i wneud diagnosis. Roeddwn yn dioddef o inswlinoma yn hytrach na chanser ond tan hynny, nid oeddwn yn ymwybodol o ganser y pancreas.

Yn anffodus, bydd 93 y cant o'r bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn marw o fewn pum mlynedd, ac mae chwarter y rhai sy'n cael diagnosis yn marw o fewn y mis. Yn anffodus, y rheswm am hyn yn bennaf yw diffyg ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau'r clefyd. Nid yw dros ddwy ran o dair o oedolion y DU yn gwybod am symptomau canser y pancreas, yn ôl Pancreatic Cancer UK. Oherwydd hyn a'r ffaith bod i'r clefyd symptomau amhenodol, mae diagnosis cynnar bron yn amhosibl, ac fel gyda phob canser arall, mae diagnosis cynnar yn allweddol i allu goroesi'n hirdymor.

Dyna pam rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig hwn heddiw ac i chwarae rhan fach yn y gwaith o hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r clefyd. Fodd bynnag, rhaid inni wneud rhagor. Mae angen ymgyrch godi ymwybyddiaeth gyhoeddus bwrpasol. Cafwyd ymgyrchoedd gwybodaeth cenedlaethol i'r cyhoedd ar ganser yr ysgyfaint, canser y fron, canser y coluddyn a chanser y bledren, ond ni chafwyd ymgyrch o'r fath ar gyfer canser y pancreas. Nid oes prawf sgrinio syml ar gyfer y clefyd ofnadwy hwn, felly mae'n rhaid i ni ddibynnu ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o unrhyw symptomau a gofyn am gymorth. Diolch.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 4:14, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw—Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding, a'r cefnogwyr Delyth Jewell, Joyce Watson, Mark Isherwood, Neil Hamilton, fi a Vikki Howells hefyd. Nid oeddwn yn sylweddoli mor ymosodol oedd canser y pancreas tan yn gynharach eleni, yn anffodus, pan fu farw hen gydweithiwr i mi, fy mhennaeth adran cyntaf erioed yn fy swydd lawn amser gyntaf, Phil Davies, yn rhy ifanc o lawer. Roedd Phil yn rheolwr gwych a dysgais lawer ganddo, ac roedd yn frawychus i bob un ohonom a oedd yn adnabod Phil, ac wrth gwrs, yn fwy brawychus i'r teulu fod y canser mor ymosodol a'i fod yn digwydd mor gyflym. Felly, roeddwn i eisiau talu teyrnged i Phil Davies.

Ar nodyn mwy optimistaidd, nodaf fod y llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr yn cael canlyniadau addawol, felly mae hynny'n wirioneddol ddymunol, ac rwy'n croesawu'r canolfannau diagnosis cynnar sy'n cael eu cyflwyno. Mae hyn yn rhywbeth y gall pawb ohonom gytuno arno am unwaith, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn esgor ar ganlyniadau cadarnhaol. Diolch am roi amser imi siarad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:16, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle ac Aelodau o bob plaid sydd wedi cefnogi'r ddadl heddiw a chodi mater sy'n bwysig a heb ei ddeall yn dda gan y cyhoedd yn ehangach. Nawr, rwy'n cydnabod yr effaith ddinistriol y gall canser y pancreas ei chael ar bobl a'u teuluoedd, yn enwedig o ystyried diagnosis gwael. I unrhyw un sydd mewn unrhyw amheuaeth, yn enwedig o glywed y modd yr agorwyd y ddadl hon, ac yn wir y cyfraniad gan Delyth Jewell, ni ddylai fod gan neb unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha mor ymosodol yw'r math hwn o ganser.

Mae'r cynnig yn cydnabod bod cyfraddau goroesi net un flwyddyn ar gyfer canser y pancreas tua 28 y cant rhwng 2012 a 2016, pan oedd y data diweddaraf ar gael, gan ei wneud yn ganser gydag un o'r cyfraddau goroesi gwaethaf. Rydym wedi gweld tua 520 o achosion newydd, ac yn anffodus, tua 480 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae cyfraddau goroesi net un flwyddyn ar gyfer canser y pancreas cam 1 yn uwch na 60 y cant yn seiliedig ar y data ar gyfer 2011-14, felly er bod amser cyn cael triniaeth yn ffactor, ymddengys mai un o'r problemau mwyaf yw bod canser y pancreas yn tueddu i ymddangos ar gam llawer mwy datblygedig pan fydd opsiynau triniaeth yn fwy cyfyngedig. Nawr, bydd y Llywodraeth yn ymatal, ond rwy'n cefnogi'r cynnig i raddau helaeth. Hoffwn gynnig ychydig o gywiriadau am y cyflawniad, ac wrth gwrs bydd gan yr holl Aelodau bleidlais rydd, y tu allan i'r Llywodraeth, ar y cynnig ei hun.

Yn ôl ein hystadegau yn 2015, gwelsom 531 o achosion newydd o ganser y pancreas. Mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod canlyniadau canser y pancreas wedi gwella dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn arbennig felly yn ystod y degawd diwethaf. Mae cyfraddau goroesi net un flwyddyn wedi gwella dros 7 pwynt canran a chyfraddau goroesi pum mlynedd wedi gwella dros 4 pwynt canran rhwng 2007-11 a 2012-16. Felly, mae gwelliannau gwirioneddol wedi'u gwneud gan ein GIG. Fodd bynnag, mae'r pwynt sylfaenol y mae Lynne ac eraill yn ei wneud wrth gynnig y ddadl hon yn gywir: canser yw hwn sydd â chanlyniadau gwael iawn, ac mae gwir angen gwneud cynnydd.

Mae llawdriniaeth yn opsiwn iachaol ar gyfer amrywiaeth o ganserau. Roeddwn yn falch o glywed Lynne yn sôn am hyn yn ei chyfraniad agoriadol, oherwydd yn rheolaidd, pan soniwn am wasanaethau canser, rydym yn cael dadl ynghylch cyffuriau, er ei bod yn llawer mwy tebygol mai llawdriniaeth, yn wir, yn y rhan fwyaf o achosion, yw'r dewis iachaol. Mae'n rhan o'r rheswm pam y canolbwyntir ar wella cyfraddau llawdriniaeth ar draws ystod o ganserau, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys canser y pancreas. Mae hynny'n mynd yn ôl at gael diagnosis cynharach fel bod llawdriniaeth iachaol yn ddewis go iawn.

O ran yr argymhelliad i gael canolfan benodol, rwyf wedi gwrando a byddaf yn gofyn i'r clinigwyr yn Rhwydwaith Canser Cymru ystyried hynny ymhellach, i roi cyngor imi i fynd i mewn i'n cynllun cyflawni ar gyfer canser yng Nghymru a gwaith y grŵp gweithredu er mwyn deall yr hyn y byddai hynny'n ei olygu a'r budd y gallai ei gynnig i bobl Cymru.

Ond rwyf am gydnabod hefyd y gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud yn codi ymwybyddiaeth o effaith canser y pancreas, ac wrth gwrs, maent yn cael chwarae rhan fel aelodau o'n Cynghrair Canser Cymru. Rwy'n cyfarfod â'r gynghrair ymgyrchu trydydd sector honno bob chwe mis, a chânt eu cynrychioli yn ein grŵp arweiniad cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau canser. Roedd y cynnig yn galw arnom i ddysgu o fodelau llawdriniaeth llwybr carlam mewn gwledydd eraill ac rwy'n hapus i ymrwymo i hynny ac i weld pa wersi sydd yna i Gymru. Mae'n waith rydym yn ei wneud yn rheolaidd i edrych ar rannau eraill o'r byd, gan gynnwys rhannau eraill o'r DU wrth gwrs. Mae hefyd yn galw arnom i ddysgu o gynlluniau peilot llwybr carlam y ganolfan ddiagnostig mewn dau o'n byrddau iechyd ein hunain, a gallaf yn sicr ymrwymo i wneud hynny. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i ariannu drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer canser yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at y gwerthusiad sy'n cael ei ddarparu a'i drafod gan y rhwydwaith.

Yn olaf, mae'n galw, wrth gwrs, am gymorth cyfannol i gleifion i'w paratoi ar gyfer llawdriniaeth. Rwyf wedi egluro ar sawl achlysur fy mod yn disgwyl i'r byrddau iechyd wneud hyn fel rhan arferol o lwybrau llawfeddygol, ac mae hynny'n bendant yn rhan o'r gwaith gwella sydd angen inni ei wneud er mwyn gwneud y defnydd gorau o sgiliau llawfeddygol ein staff, ond yn bwysig hefyd, er mwyn gwella canlyniadau.  Felly, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i adeiladu ar y cynnydd a wnaed. Canolbwyntio ar wella gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer yr holl ganserau yw ein dull o weithredu wedi bod yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhai sydd â'r canlyniadau gwaethaf. Credwn ei bod yn bwysig o ran cydraddoldeb, ond hefyd oherwydd bod llawer o'r pethau y bydd yn eu gwella yn y canlyniadau ar gyfer canser y pancreas yn berthnasol i wella canlyniadau ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau hefyd. Nodir ein dull gweithredu tymor canolig yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser a gaiff ei ddatblygu gan y grŵp gweithredu, a'i gefnogi gan fwy na £5 miliwn o fuddsoddiad blynyddol.

Un o'r prif bethau y canolbwyntiwyd arnynt oedd canfod mwy o ganserau'n gynharach, ar gam lle gellid eu trin yn well. Mae hynny wedi'i ategu gan ganllawiau atgyfeirio newydd a rhaglen genedlaethol yn gweithio gyda'i gilydd gyda gofal sylfaenol a threialu'r ddwy ganolfan ddiagnostig llwybr carlam i bobl â symptomau amwys. Mae hefyd yn cynnwys optimeiddio rhaglenni sgrinio, sy'n ategiad pwysig i waith yn ein rhaglen ddiagnostig ar ddarparu mynediad mwy llyfn at archwiliadau canser. Nod hyn oll yw sicrhau bod pobl yn cael eu harchwilio'n fuan, ac yn y lleiafrif bach o bobl sydd â chanser, fod eu diagnosis yn cael ei wneud yn gyflym.

Un maes allweddol y mae'n bwysig inni ganolbwyntio arno yw cyflwyno un llwybr canser. Mae'n llawer mwy na dim ond ffordd newydd o fesur amseroedd aros ar gyfer canser. Dyma'r tro cyntaf iddo gael ei wneud yn y DU, ac mae'n golygu na fydd cleifion yn cael eu rhannu'n artiffisial mwyach yn gleifion a welir mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Byddant i gyd yn cael eu mesur yn erbyn yr un llwybr, ac yn bwysicaf oll, o'r pwynt pan geir amheuaeth o ganser, yn hytrach nag o'r adeg y ceir atgyfeiriad neu benderfyniad i roi triniaeth. Yn ogystal â bod yn ffordd gliriach o fesur amseroedd aros, mae'n golygu bod yn rhaid i archwiliad a thriniaeth pobl ddechrau'n gynt er mwyn cyflawni'r terfyn amser o 62 diwrnod. O fewn 62 diwrnod, gall clinigwyr drin cleifion yn ôl eu blaenoriaeth glinigol. Gwn fod Pancreatic Cancer UK wedi galw am darged rhwng diagnosis a thriniaeth o 20 diwrnod, ond mae un llwybr canser 62 diwrnod yn cynnwys cyfnod diagnostig a dechrau triniaeth.

Er mwyn cynorthwyo byrddau iechyd i ddarparu un llwybr canser ac i leihau amrywio ar draws Cymru, ac er mwyn darparu gofal yn unol â'r safonau proffesiynol gorau, rydym hefyd yn cyflwyno llwybrau wedi'u hoptimeiddio'n genedlaethol ar gyfer lleoliadau tiwmor. Disgrifiadau yw'r rhain ar gyfer pob lleoliad tiwmor er mwyn nodi sut y dylai byrddau iechyd gynllunio i ddarparu eu gwasanaethau. Cyhoeddwyd y cyntaf o dri o'r llwybrau hyn drwy gylchlythyr iechyd yng Nghymru ym mis Hydref eleni, ac rwy'n disgwyl i ganser y pancreas gael ei gynnwys yn y llwybr nesaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae'r llwybrau hyn yn uchelgeisiol iawn, a bydd byrddau iechyd yn gweithio tuag atynt dros amser, gyda chefnogaeth y rhaglen genedlaethol o adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer canser.

Bydd datblygiadau pellach, fel y strategaeth ymchwil canser ac adnewyddu'r system gwybodeg canser hefyd yn chwarae rhan i'n helpu i gyflawni'r canlyniadau gwell a'r gwasanaethau rhagorol y bydd pob Aelod a siaradodd ac a wrandawodd ar y ddadl hon heddiw am eu gweld. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y gallwn barhau i wneud cynnydd gwirioneddol yn y blynyddoedd i ddod.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:23, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau, yn gyntaf oll, drwy longyfarch Lynne Neagle ar ei gwaith blaenllaw yma yn dod â'r cynnig hwn ger ein bron y prynhawn yma, gan bwysleisio'r ffaith allweddol fod angen canolbwyntio'n benodol ar ganser y pancreas? Fel meddyg teulu ers 35 mlynedd yn Abertawe, gwn ei bod hi'n anodd gwneud diagnosis o ganser y pancreas ond, 'Gofynnwch bob amser am hanes y teulu', dyna rwy'n ei ddweud bob amser. Ond mae'n anodd gwneud diagnosis ohono, mae'n anodd ei drin, mae'n anodd ei ymchwilio, ac yn y pen draw, mae'n anodd ei oroesi.

Nawr, wrth agor y ddadl hon, cyflwynodd Lynne yr achos yn gydlynol ac yn wych mewn gwirionedd fod yn rhaid inni wneud yn well yma yng Nghymru. Nid yw cyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas wedi newid i raddau helaeth. Rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud am rai newidiadau canrannol, ond pan glywch y diagnosis mewn gofal sylfaenol fod gan rywun ganser y pancreas, nid yw'n achos dathlu.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:25, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Nawr, gwnaed camau breision mewn meddygaeth, fel yr amlinellodd Lynne, ac mewn canserau eraill megis lewcemia plant, clefyd Hodgkin a nifer o ganserau eraill, fel y'u hamlinellwyd, mae cyfraddau goroesi wedi cael eu trawsnewid yn ddramatig ac yn radical dros y blynyddoedd. Roedd ffocws penodol i bob un o'r cyflyrau hynny ar y pryd, er, o ran yr hyn a ddywedasom ar y pryd, 'Lewcemia plant: pam y mae plant yn marw? Gadewch i ni ganolbwyntio'n benodol ar hynny. Gadewch i ni ei ddatrys.' Roedd hynny 25 mlynedd yn ôl bellach. Ond nid yw wedi digwydd ar gyfer canser y pancreas, a dyna pam ein bod yn cael y ddadl hon heddiw.

Mae'r astudiaethau achos trallodus a glywsom gan Lynne, gan Delyth, gan Neil McEvoy ac eraill yn galw arnom i weithredu a rhoi ffocws ar ganser y pancreas. A thrwy fynnu ffocws, yr hyn a olygwn yw fod 'ffocws' yn golygu mwy o gyllid ar gyfer y canser penodol hwn, ac mae'n golygu ystyriaeth ddifrifol mewn gwirionedd, a buaswn yn ymgyrchu i sefydlu'r ganolfan lawfeddygol drydyddol arbenigol hon. Credaf mai dyna'r elfen drawsnewidiol y mae angen iddi ddigwydd. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae llawdriniaeth yn iachaol, felly gadewch i ni alluogi'r llawdriniaeth orau un i dargedu'r canser hynod falaen hwn. Mae angen i'r un ganolfan lawfeddygaeth hepatobiliari bancreatig honno ddigwydd. Y camau trawsnewidiol; y llawdriniaeth llwybr carlam; y diagnosis cynnar; mae angen i hynny ddigwydd.

Oherwydd mae'n anodd iawn gwneud diagnosis o'r clefyd hwn. Mae gan bobl symptomau amwys iawn a allai fod yn unrhyw beth neu'n ddim byd, fel y dywedodd Delyth yn ei hanes gofidus am ei mam-gu. Mae'n hynod o anodd nodi'r arwyddion, oherwydd fel meddygon teulu ni allwn atgyfeirio pawb sy'n dod atom gydag ychydig o boen bol ac sy'n teimlo'n anhwylus, fel arall byddai ein hysbytai'n llawn— [Torri ar draws.] Maent yn llawn. Ac mae profion ymchwil i wella diagnosteg wedi gweithio ar gyfer cyflyrau eraill nad oeddem erioed wedi meddwl y byddai prawf diagnostig ar eu cyfer. Dyna pam y mae'r pwyslais ar ymchwil yma i ddod o hyd i'r prawf hwnnw.

Felly, rwy'n ddiolchgar i David Melding hefyd am dalu teyrnged i Pancreatic Cancer UK, teyrnged i'w gwaith gwych. Mae llawer o waith ymchwil yn mynd rhagddo ac mae'n ymchwil a fydd yn trawsnewid y maes. Mae pobl yn dweud, 'Rydych chi bob amser yn siarad am ymchwil, mae ychydig yn ddiflas', ond dyna lle mae'r holl ddatblygiadau meddygol hyn wedi digwydd. Mae ymchwil aruthrol yn galluogi technoleg feddygol, triniaethau meddygol, a datblygiadau meddygol i ddigwydd go iawn. Cancer Research UK, Ymchwil Canser Cymru—mae pawb yn gwneud llawer iawn o ymchwil arloesol. Ac fe'n hatgoffwyd gan Delyth fod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac eto, drwy bwysleisio trawma'r diagnosis, a'r angen am gynllun cenedlaethol, fel rydym yn ei ddweud yn barod—y ffocws cenedlaethol hwn yn benodol ar ganser y pancreas.  

Rwy'n ddiolchgar hefyd i Caroline Jones am ei phrofiad personol a'i chefnogaeth i'r cynnig hwn, ac am eiriau Neil McEvoy ar lawdriniaeth llwybr carlam, a'i brofiad personol. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd, cyn cloi, am gydnabod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan ein staff rhagorol yn y GIG ar hyn o bryd wrth gwrs. Mae gwelliannau'n digwydd, ond yn unigryw yn achos canser y pancreas, nid ydym wedi gweld newid mawr yn y cyfraddau goroesi o hyd. Felly, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ariannu, ar sefydlu un ganolfan lawfeddygaeth hepatobiliari bancreatig; edrychaf ymlaen at y diwrnod—gallai'r Gweinidog ei hagor hyd yn oed. Mae angen ffocws arnom. Clywaf y geiriau am un llwybr canser—hollol wych—ond o fewn hynny, mae angen pwyslais arbennig ar yr hyn y gallwn ei wneud am y lladdwr tawel, a heb fod mor dawel, canser y pancreas.

Felly, mae canser y pancreas—i gloi, Ddirprwy Lywydd—yn galw am ffocws penodol. Mae wedi cael ffocws penodol yma yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr holl Aelodau. Gallwn, fe allwn ddysgu gan wledydd eraill, canolfannau eraill, gallwn ddysgu o'r cynlluniau peilot diagnosis cyflym. Mae angen inni ystyried hynny i gyd a gweithio hefyd ac ymateb i'r her a chefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:30, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.