Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Mae bob amser yn braf cael gwybod eich bod yn iawn. Rwyf wedi dweud yn barhaus ers 2011 mai polisi gwleidyddol nid economaidd yw cyni. Rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi ymddiheuro i weithwyr y sector cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus am y mesurau cyni sydd wedi arafu'r twf economaidd ac wedi arwain at ddefnydd torfol o fanciau bwyd a'r cynnydd mewn digartrefedd. I helpu'r Ceidwadwyr, nid coeden arian hud oedd ei hangen, dim ond newid polisi Llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn cael tua £15 biliwn y flwyddyn i'w wario ar ei hamrywiol flaenoriaethau, gweithgareddau a phrosiectau, sy'n cefnogi ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Fodd bynnag, o ganlyniad i bolisi cyni parhaus Llywodraeth Dorïaidd y DU, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 na'r hyn ydoedd yn 2010-11—sy'n golygu £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Mae ein cyllideb refeniw 7 y cant yn is y pen nag yn 2010-11—sef £350 yn llai i'w wario ar wasanaethau rheng flaen ar gyfer pob person sy'n byw yng Nghymru.
Rydym bellach yn y nawfed flwyddyn o gyni, ac mae Cymru'n dioddef canlyniadau polisïau niweidiol y Torïaid. Mae parhau â chyni yn ddewis gwleidyddol. Mae'n ffaith, er gwaethaf twf araf, fod derbyniadau treth yn fwy na'r gwariant cyhoeddus cyfredol.
Beth sydd gennym i'w ddangos am ddegawd bron o doriadau'r Torïaid? Mae'r Torïaid wedi llywyddu dros yr adferiad arafaf ers y 1920au. Twf y llynedd yn ein heconomi oedd yr isaf yn y G7 a'r arafaf ers 2012. Prin fod cynhyrchiant y DU yn uwch na'r lefelau cyn y dirwasgiad, ac mae cyflogau, wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant, yn dal i fod yn is na lefelau 2010. Mae'r twf mewn derbyniadau treth wedi bod yn araf, gan leihau adnoddau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru £6 biliwn yn fwy yn 2019-20 pe bai wedi cynyddu yn unol â thwf gwariant cyhoeddus hirdymor ers 2010. Mae rhoi arian i ochr y galw yn yr economi yn arwain at dwf economaidd. Rydym yn gwybod hynny.
Rwyf i, wrth gwrs, yn cefnogi mwy o arian ar gyfer iechyd ac addysg. Rhagoriaeth addysg, sy'n darparu cyrhaeddiad addysgol ar lefel uchel, yw ein ffordd orau o sicrhau twf economaidd. Dyna yw ein polisi economaidd gorau, a dylai gael ei ystyried felly—rhoi arian tuag at addysg unigolion tra medrus. Rhywbeth nad yw'n cael ei ddweud yn aml yw, os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod i Gymru, ni fyddant o ddifrif eisiau dod. Nid oes rhaid i ardaloedd twf uchel ddarparu cymhellion ar gyfer mewnfuddsoddi; mae cwmnïau'n dod am fod y sgiliau sydd eu hangen arnynt yno. Maent yn dod o'u gwirfodd. Dyna pam rwy'n pwyso'n barhaus am gefnogaeth i'r sector prifysgolion fel y ffordd orau o greu swyddi medrus iawn ar gyflogau da.
Nid ysgolion yn unig yw addysg. Nid yw'n ymddangos bod y rôl y mae addysg bellach yn ei chwarae yn cynhyrchu gweithwyr medrus, o grefftau traddodiadol i gyfrifyddiaeth a thechnegwyr TGCh, yn cael y clod y mae'n ei haeddu. Mae'n wir mai addysg bellach yw'r perthynas tlawd yn y byd addysg.
Mae angen arian ychwanegol ar ysgolion wrth gwrs er mwyn gwrthdroi'r toriadau sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf yn meddwl y gallwch chi oramcangyfrif pwysigrwydd addysg. Dyna sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc fynd ymlaen i ennill cyflogau mawr, dyna sy'n rhoi sgiliau iddynt, dyna sy'n cynhyrchu ein meddygon, ein nyrsys, ein peirianwyr—y bobl y mae eu gwir angen arnom yn ein heconomi. Ac yn llawer rhy aml caiff addysg ei hystyried yn rhywbeth ar wahân i ddatblygu economaidd. Mae'n rhan allweddol o ddatblygu economaidd. Mae gennych bobl fedrus, mae gennych bobl â chymwysterau uchel, ac yna'n sydyn iawn daw'r cyflogwyr. Edrychwch ar Gaergrawnt. Edrychwch ar lefydd fel Sheffield. Edrychwch ar y lleoedd sydd wedi gwneud hynny: mae ganddynt y bobl fedrus, maent wedi datblygu drwy'r brifysgol, ac mae'r cwmnïau wedi dod.
Gan droi at iechyd, mae angen arian ychwanegol, ond yr hyn sydd ei angen yw gwella iechyd y cyhoedd. Pa blentyn y credwch chi sy'n fwy tebygol o fod yn sâl ac angen triniaeth ysbyty: yr un mewn tŷ oer, llaith sy'n cael bwyd gwael i'w fwyta neu'r un mewn tŷ cynnes, sych sy'n cael bwyd da?
Mae Plaid Cymru yn galw am yr holl ysgogiadau economaidd, sydd wrth gwrs yn god am annibyniaeth. Yn union fel na allant ateb y cwestiwn ynglŷn â'u safbwynt ar bŵer niwclear, ni allant ateb y canlynol: pa arian y byddech chi'n ei ddefnyddio? Beth sy'n mynd i fod yn fanc canolog neu'n fenthyciwr pan fetho popeth arall? Pwy fydd yn gosod cyfraddau llog? Sut yr ariannwch gyfran Cymru o'r ddyled genedlaethol? A ydych chi o ddifrif yn mynd i ymuno â'r ewro? A ydych yn mynd i adael i Fanc Canolog Ewrop fod yn fanc canolog i chi? Mae hynny'n rhoi llai o reolaeth i chi na'r hyn sydd gennym yn awr. Cofiwch hefyd nad gweddill yr UE yw prif bartner masnachu Cymru, o ran nwyddau a gwasanaethau, ond Lloegr.