Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Dywedwyd wrthym mai dim ond drwy atebion wedi'u teilwra a grëwyd yma yng Nghymru y gellid datrys y problemau sy'n wynebu Cymru. Fodd bynnag, er gwaethaf setliadau ariannu hael olynol gan Lywodraeth y DU, lle cafodd Cymru dros 20 y cant yn fwy o wariant nag a gafwyd yn Lloegr, mae'r problemau hyn yn parhau.
Gan Gymru y mae'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig o hyd, gyda chyflogau yng Nghymru yn dal i fod yn isaf drwy'r DU gyfan, mae GIG Cymru yn wynebu diffyg o £97 miliwn wrth iddo frwydro i gyrraedd y targedau a osodwyd ar ei gyfer, mae ein gwasanaeth addysg mewn argyfwng am fod ysgolion wedi'u hamddifadu o'r arian sydd ei angen arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio symud y bai yn gyson am ei hanes o fethiant ar gyni honedig y Torïaid. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru, ers blynyddoedd, wedi gwastraffu arian, drwy gamddefnyddio arian trethdalwyr a phrosiectau sydd wedi methu cyflawni.
Gwariwyd mwy na £9 miliwn o arian cyhoeddus ar gynllun arfaethedig Cylchffordd Cymru cyn i'r Gweinidog dynnu'r plwg. Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:
'Gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy wrth ddarparu cyllid cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn', a oedd yn cynnwys prynu cwmni beiciau modur yn swydd Buckingham. Costiodd diffygion sylfaenol yn y ffordd y cafodd cronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio ei rheoli, ei goruchwylio a'i chynghori ddegau o filiynau o bunnau i drethdalwyr Cymru. Golygodd methiant Llywodraeth Cymru i lywodraethu a darparu trosolwg fod gwerthiannau tir cyhoeddus wedi cynhyrchu llai nag y dylent fod wedi'i wneud. Yn 2017, mynegwyd pryderon am Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwerthu pren i gwmni melin lifio heb achos busnes priodol. Unwaith eto, dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos a yw'r contractau'n cynnig gwerth am arian. [Torri ar draws.] Ewch chi.