Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Nid ydym yn dod at ein gilydd i ymwrthod â'r gofrestr. Yr hyn a ddywedwn yw y dylid caniatáu y gwaith roedd eich Aelod—a gafodd ei ddyfynnu wrth i'r Gweinidog grynhoi—David Rowlands, yn rhan ohono yn y pwyllgor hwnnw, fel ein bod yn cael y canlyniad gorau posibl ac nad ydym yn rhoi rhywbeth ar waith nad yw'n addas i'r diben. Does bosibl na allwch gefnogi hynny, a dyna'r ffordd y dylem symud y pwynt hwn yn ei flaen.