– Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Brexit ar gofrestr lobïwyr. Galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno'r cynnig hwnnw. Caroline Jones.
Cynnig NDM7205 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.
2. Yn credu y byddai cofrestr lobïwyr yn helpu i hyrwyddo didwylledd a thryloywder yng ngwleidyddiaeth Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar unwaith ar weithredu cofrestr lobïwyr ar gyfer Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y ddadl hon heddiw. Mae ein cais yn syml: rhaid inni gyflwyno cofrestr statudol o lobïwyr yng Nghymru, yr unig ran o'r DU nad oes ganddi gofrestr o weithgaredd lobïo.
Diffinnir lobïo fel unrhyw ymgais gan unigolion neu grwpiau buddiant preifat i ddylanwadu ar benderfyniadau'r Llywodraeth. Yn ei ystyr gwreiddiol, cyfeiriai at ymdrechion i ddylanwadu ar bleidleisiau deddfwyr, yn y lobi y tu allan i'r Siambr ddeddfwriaethol fel arfer. Mae lobïo yn rhan gyfreithlon a hanfodol o ddemocratiaeth iach. Gall lobïo fod yn brif ffordd o sicrhau eiriolaeth. Mae'n helpu i lywio ein hymdrechion i ddarparu atebion deddfwriaethol i'r problemau sy'n wynebu Cymru. Mae'n ein helpu i ddatblygu polisïau newydd ac yn ein galluogi i graffu ar rai presennol. Mae gan bob democratiaeth iach elfen o weithgaredd lobïo.
Fodd bynnag, gall lobïo fod yn berygl i ddemocratiaeth hefyd, drwy ganiatáu i ddrewdod llygredd dreiddio i'n sefydliadau democrataidd. Mae hanes o ddylanwad gormodol wedi bod yn ein democratiaeth seneddol. Yn y 1920au, talodd cwmni olew swm mawr o arian i Winston Churchill er mwyn sicrhau mai dim ond y cwmni a gâi fynd i mewn i'r meysydd olew Persiaidd. Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, parhaodd dylanwad lobïwyr i gynyddu. Ond daeth pethau i'r pen yn y 1990au.
Yn ystod rhan gynnar y 1990au, gwelwyd sgandalau lobïo'n creu helynt yn Llywodraeth John Major. Cafodd Jonathan Aitken, y Gweinidog Caffael Amddiffyn yn 1992, ei garcharu yn 1999 am ei rôl yn y sgandal arfau i Irac. Roedd Aitken wedi bod yn gweithio i gontractwr amddiffyn cyn hynny. Yn 1994, adroddodd The Guardian fod y lobïwr seneddol, Ian Greer—[Torri ar draws.] Na, nid wyf wedi anghofio unrhyw beth. Yn 1994, adroddodd The Guardian fod y lobïwr seneddol, Ian Greer, hefyd wedi llwgrwobrwyo dau Aelod Seneddol Ceidwadol yn gyfnewid am ofyn cwestiynau seneddol a chyflawni tasgau eraill ar ran perchennog Harrods, yn yr hyn y daethpwyd i'w galw'n sgandal yr arian am gwestiynau.
Yn fuan ar ôl etholiad 1997, cyfarfu Bernie Ecclestone â Tony Blair i ofyn a fyddai rasys ceir Fformiwla 1 yn cael eu heithrio o waharddiad ar hysbysebu tybaco. Roedd Mr Ecclestone wedi rhoi mwy nag £1 filiwn i'r Blaid Lafur. Felly, dros y degawd nesaf, roedd sgandalau a oedd yn cynnwys gweithgaredd lobïo yn rhemp yn Llywodraeth Blair. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? A ydych am gael—
Na, na, gallwch barhau.
O'r gorau. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi eisiau ymyrryd, mae'n ddrwg gennyf.
Na, na, parhewch.
Erbyn 2008, credid bod y diwydiant lobïo proffesiynol yn werth bron i £2 biliwn. Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus Tŷ'r Cyffredin adroddiad o'r enw 'Lobbying: Access and Influence in Whitehall'. Tynnai'r adroddiad sylw at y drws troi sy'n bodoli rhwng Aelodau Seneddol a chwmnïau lobïo, ac argymhellodd y pwyllgor gofrestr statudol o weithgaredd lobïo er mwyn sicrhau mwy o dryloywder yn yr ymwneud rhwng y rhai a oedd yn gwneud penderfyniadau yn Whitehall a buddiannau allanol. Daeth i'r casgliad hefyd fod gwaith hunanreoleiddio'r diwydiant lobïo proffesiynol yn dameidiog ac yn ymddangos fel pe na bai'n cynnwys llawer iawn o reoleiddio o unrhyw sylwedd.
O ystyried y ffaith bod y Cabinet Llafur ar y pryd ar gael i'w llogi gan lobïwyr i bob pwrpas, nid yw'n syndod fod y Llywodraeth ar y pryd wedi gwrthod y cynigion. Byddai'n cymryd pum mlynedd arall a newid Llywodraeth cyn gallu cyflwyno Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014.
Pwynt o drefn.
Pwynt o drefn. Na, ni allwch ddweud hynny.
Na, ni ellir cael pwynt o drefn yn ystod dadl. Fe gyflwynaf eich pwynt o drefn wedyn.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Cyflwynodd y Ddeddf ofyniad am gofrestr o lobïwyr ymgynghorol yn Lloegr, a dilynodd yr Alban ei hesiampl yn fuan drwy gyflwyno Deddf Lobïo (yr Alban) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n lobïo wyneb yn wyneb ar ran Aelodau o Senedd yr Alban, Gweinidogion Llywodraeth yr Alban, cynghorwyr arbennig neu Ysgrifenyddion Parhaol i lofnodi'r gofrestr lobïo yn yr Alban.
Yng Nghymru, edrychodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo yng Nghymru yn ystod 2017 ac ystyriodd yr angen am gofrestr lobïo ar gyfer Cymru. Cynhyrchodd y pwyllgor ei adroddiad ym mis Ionawr 2018 ac mae'r pwyllgor yn nodi hyn:
'Rydym yn ansicr a fyddai'r wybodaeth a fyddai’n cael ei datgelu trwy Gofrestr wirfoddol yn ateb y cwestiynau sy'n bodoli o ran sut caiff polisïau eu datblygu na sut y dylanwedir arnynt'.
Ychwanegasant
'Ar hyn o bryd, rydym o’r farn efallai y bydd angen cymryd camau statudol er mwyn cyflwyno’r tryloywder sydd ei angen.'
Yn anffodus, er gwaethaf hyn, dewisodd y pwyllgor roi'r mater i'r naill ochr, gan ddweud y byddent yn aros i weld a oedd y dull gwirfoddol a awgrymwyd gan Materion Cyhoeddus Cymru yn cynyddu tryloywder yn ddigonol i negyddu'r angen am gofrestr statudol.
Tybed a wnewch chi ildio.
Tybed a hoffech ailadrodd yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach, oherwydd roeddwn i'n credu fy mod wedi eich cam-glywed yn dweud rhywbeth tebyg i, 'Roedd Llywodraeth Lafur ar gael i lobïwyr ei llogi.' Efallai eich bod yn cyfeirio at y Llywodraeth roeddwn yn aelod ohoni ar y pryd. A wnewch chi gofnodi'n union beth rydych yn ei ddweud er mwyn i mi ddeall.
Mae wedi'i gofnodi, oherwydd mae popeth wedi'i gofnodi.
A wnewch chi ei ddweud eto?
Mae wedi'i gofnodi, oherwydd caiff popeth ei gofnodi. A oeddech chi yn y Cabinet?
A hoffech chi ailadrodd hynny y tu allan i'r Siambr?
A oeddech chi yn y Cabinet?
A hoffech chi ailadrodd hynny y tu allan i'r Siambr?
Mae'r cyfan wedi'i gofnodi.
Na, mae'n ddrwg gennyf, ni allwn gael dadl, a byddaf—. Parhewch, ac fe wnaf ymdrin â'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud wedyn.
Y byddent yn gweld a oedd y dull gwirfoddol a awgrymwyd gan Materion Cyhoeddus Cymru yn cynyddu tryloywder yn ddigonol i negyddu'r angen am gofrestr statudol. Eto i gyd, dyma ni, bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac nid ydym yn nes at lobïo cwbl agored a thryloyw yng Nghymru.
Yma, mae'r sector yn enghraifft wych o'r drws troi, gyda staff naill ai'n gweithio i gwmnïau lobïo neu'n rhedeg eu cwmnïau lobïo eu hunain. Felly, mae'r berthynas rhwng lobïwyr a gwleidyddion braidd yn afiach. Mae'n bwrw cysgod dros ein democratiaeth agored. Ac er mwyn inni osgoi'r llygredd sydd wedi llethu gwleidyddiaeth San Steffan a diogelu'r rôl hanfodol y mae lobïo yn ei chwarae yn ein democratiaeth, mae fy mhlaid yn credu'n gryf fod yn rhaid i ni reoleiddio gweithgaredd lobïo. Nid oes gennym ddim i'w gelu, felly gadewch inni fod yn agored am y gweithgaredd lobïo sy'n digwydd yn ein sefydliad. Ni fydd yn costio llawer, mae'r cynllun sy'n gweithredu yn Senedd y DU yn costio ychydig dros £120,000 y flwyddyn, ac rydym ar fin gwario mwy na dwbl y swm hwnnw yn newid ein henw. Ac fel y dywedant, ni allwch roi pris ar ddemocratiaeth.
Felly, rwyf am ailadrodd bod lobïo'n dda i ddemocratiaeth iach. Rwy'n cymryd rhan yn y sylfaen wybodaeth am feddyginiaethau lle mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain yn rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad a'u staff am faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant fferyllol. Mae hynny'n lobïo, ac mae wedi fy helpu i wybod sut y caiff meddyginiaethau eu datblygu a'u trwyddedu, sydd yn ei dro wedi fy helpu i graffu ar bolisi Llywodraeth Cymru, ac nid oes dim o'i le ar hyn. Pan fydd lobïo'n digwydd yn y dirgel, y tu ôl i ddrysau caeedig, dyna pryd y bydd pethau'n beryglus a heb fod yn dryloyw. Felly, rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig a gwrthod gwelliant y Torïaid. Nid oes gennym ddim i'w guddio, felly gadewch inni fod yn agored ac yn onest gyda'r bobl rydym yn gweithio iddynt, sef ein hetholwyr.
Diolch.
Clywais ddatganiad ysgubol wedi'i anelu at Lywodraeth mewn grym. Ni chlywais unrhyw enwau. Fodd bynnag, os yw'r Aelod—.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf o ddifrif yn gofyn am eich help a'ch cymorth yma, oherwydd dyna a glywais innau hefyd. Roedd yn ddatganiad ysgubol am Gabinet Llywodraeth Lafur a oedd ar gael i'w logi.
Nawr, gallwn ddeall pe bai erlyniadau boddhaol wedi bod, naill ai gan gomisiynydd safonau neu mewn llys barn, yn erbyn unigolion sy'n euog o lygredd neu anonestrwydd mewn swydd gyhoeddus, ond mae'r datganiad yn cyfeirio at nifer o bobl nad ydynt, hyd y gwn, erioed wedi wynebu unrhyw gyhuddiadau neu iot o gyhuddiad o ddim byd fel bod ym mhoced lobïwyr ac yn y blaen. A'r gofid gyda hyn, Ddirprwy Lywydd, yw fod hyn yn pardduo pob unigolyn.
Mae'r ddadl yn iawn, cyn belled ag y mae'n mynd, ond rwyf yn gofyn yn ddiffuant am eich cyngor yma o dan y Rheolau Sefydlog, oherwydd y pryder yma yw bod Aelodau'r Siambr hon, yn y Senedd hon, yn teimlo ei bod yn briodol defnyddio rhyw fath o fraint i wneud datganiadau carte blanche a fyddai, pe baent yn cael eu hailadrodd y tu allan, yn enllibus ac y byddai unigolion mewn llys barn yn mynd ar eu trywydd yn ôl pob tebyg. Ni all hynny fod yn iawn pan nad oes unrhyw dystiolaeth o gamwedd, na hyd yn oed unrhyw honiadau o gamwedd. Felly, gofynnaf am eich cymorth, Ddirprwy Lywydd, i weld a ddylai'r Aelod yn y Siambr hon, sydd â chod ymddygiad i gydymffurfio ag ef, dynnu'r datganiad cyffredinol ysgubol hwnnw yn ôl ac ymddiheuro.
A wnewch chi ildio?
Na, am eiliad, fe wnaf—. Diolch. Rwy'n derbyn y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Fe gyhoeddaf y ffaith imi glywed datganiad y mae'n amlwg fod rhai Aelodau wedi anghytuno ag ef ac yn anfodlon yn ei gylch. Mae braint yn fater y dylem i gyd fod yn ymwybodol ohono, a dylem ddefnyddio braint fel enghraifft eithriadol, ond nid fel datganiad cyffredinol. Felly, rwy'n credu fy mod yn deall eich safbwynt. Fodd bynnag, er mwyn symud ymlaen—fe edrychaf ar y cofnod, ac os credaf fod unrhyw beth yn y cofnod sy'n golygu nad ydym wedi ymateb i urddas a pharch, yna byddaf yn dychwelyd i'r Siambr. Ar hyn o bryd, rwy'n ddigon hapus i'r ddadl barhau, ac mae'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud wedi'u cofnodi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.
Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw ein rheolwr busnes, a fu mor hael â chyflwyno'r gwelliant hwn i'r cynnig yn enw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, ac felly mae'n bleser gennyf siarad amdano.
Fel aelod o'r pwyllgor safonau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—ar bwyntiau'n ymwneud â safonau, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad hwn ac Aelodau'r Cynulliad wrth gwrs—fod gan y cyhoedd ffydd a hyder fod pob gweithred wedi'i chyflawni gan ystyried lles pennaf pobl Cymru a democratiaeth. Prin fod angen dweud hynny. Ond fe wnaeth y pwyllgor safonau blaenorol, cyn i mi ymuno ag ef, edrych ar y mater penodol hwn a gwneud cyfres o argymhellion yn ôl ym mis Ionawr 2018 rwy'n credu. Mae'r Llywydd wedi ymateb i rai o'r argymhellion hynny. Ond fel y mae ein gwelliant yn ei nodi, rwy'n credu y byddai'n bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn awr ynglŷn â sut y mae'r Comisiwn yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu hyn. Oherwydd, yn y pen draw, fel Ceidwadwr, mwy na thebyg fy mod yn rhywun sydd bob amser yn orofalus wrth drafod deddfwriaeth ac mae'n well o lawer gennyf ymagwedd wirfoddol tuag at lawer o'r materion hyn. Ond os ydym yn gweld bod angen deddfwriaeth, ac rwy'n deall y bydd y pwyllgor safonau yn edrych ar hyn yn ei waith etifeddol, yna, yn amlwg, bydd y Cynulliad mewn sefyllfa i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.
Yn y 12 mlynedd y bûm yn Aelod o'r Cynulliad, gallaf ddweud yn ddiffuant nad wyf wedi dod ar draws unrhyw gamymddwyn yn ymwneud â lobïo. Rwy'n derbyn y bydd Aelodau eraill yn dod ar ei draws mewn gwahanol ffyrdd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yn gyffredinol, mewn 12 mlynedd o waith yn y Cynulliad hwn, mewn gwaith pwyllgor ac wrth sefyll fel AC, ac fel cyn arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, gallaf gredu a sefyll yma'n ddidwyll a dweud bod yr holl ryngweithio a gefais gyda lobïwyr, gydag etholwyr, bob amser wedi bod er lles pennaf yr hyn y mae'r unigolion a'r sefydliadau hynny'n ceisio'i hyrwyddo.
Yn wir, fel ACau, rydym yn hyrwyddo'r bobl y byddwn yn cyfarfod â hwy drwy ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein gweithgareddau, oherwydd mae o fudd inni hyrwyddo'r hyn a wnawn. Ac fel y nododd y sawl a agorodd y ddadl heddiw, yn y gyfres o ddigwyddiadau y cyfeiriodd atynt a oedd yn dangos bod angen cofrestr, mae'r holl wybodaeth honno ar gael beth bynnag. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn meddwl fy mod wedi cael unrhyw e-bost yn galw am gofrestr ar gyfer lobïwyr. Ni chefais unrhyw e-bost ar y mater yn y 12 mis diwethaf. Rwy'n sylweddoli bod yna ymgyrch beth amser yn ôl a oedd yn cyfeirio at gamau eraill mewn deddfwrfeydd eraill i greu'r gofrestr statudol hon, ac efallai fod y dystiolaeth y mae'r pwyllgor safonau yn ei chasglu yn ein pwyntio i'r cyfeiriad hwnnw. Ond rwy'n credu, ar hyn o bryd, gyda'r gwaith y mae'r pwyllgor safonau wedi'i wneud hyd yma—ac mae hwnnw'n bwyllgor trawsbleidiol a oedd yn argymell, yn amlwg, ein bod yn gadael i'r Comisiwn edrych ar hyn ac adrodd yn ôl a darparu'r dystiolaeth—mae'r gwaith a wnaed hyd yma yn gadarn, mae'n ennyn hyder y cyhoedd, ac mae honno'n ffordd synhwyrol o fynd i'r afael â'r agwedd arbennig hon, wrth feddwl am y gwaith sy'n rhaid inni ei wneud rhwng nawr a diddymu'r Cynulliad.
Ond mae'n hanfodol ein bod yn cynnal yr egwyddorion gorau posibl, ac mewn gwirionedd, nid oes gennyf broblem o gwbl gyda chyhoeddi'r holl gyfarfodydd rwy'n cymryd rhan ynddynt. Yn wir, rwy'n meddwl ei fod yn arwydd cadarnhaol i'r Aelodau wneud hynny, ac mae'n hyrwyddo'r gwaith rydym yn ei wneud fel y cyfryw. Rwy'n teimlo y byddai'n rhyfedd pe bai Aelodau am gadw rhai cyfarfodydd yn gyfrinachol neu beidio â datgelu'r cysylltiadau hynny.
Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i bleidleisio dros y gwelliant i'r cynnig heddiw, sy'n ceisio gweithio gyda'r Comisiwn wrth gwrs, adeiladu ar waith y pwyllgor safonau yn ôl ym mis Ionawr 2018, a symud yr eitem bwysig hon ar yr agenda yn ei blaen, yn y dystiolaeth a gyflwynir inni, yn hytrach na dim ond rhoi rhywbeth ar waith, er bod cynigydd y ddadl heddiw wedi dweud y gallai ddigwydd am gost isel iawn, a sylweddolaf y byddai model San Steffan yn fodel mwy o faint, ond rydych yn dal i ystyried rhoi £120,000 ar y bwrdd i ariannu'r math hwn o waith, ac fel y dywedais, ar hyn o bryd ni welaf alw mawr gan y cyhoedd am y fenter arbennig hon. Felly, buaswn yn gobeithio y bydd y Senedd y prynhawn yma yn hyrwyddo—ac edrychwch, Rhun, fe ddefnyddiais y gair 'Senedd' yn hytrach na 'Parliament' y tro hwnnw, felly gobeithio y byddaf yn ennill ychydig gydnabyddiaeth gan Blaid Cymru. Nid yn aml iawn y byddaf yn ei chael. Mae'n edrych arnaf mewn diflastod. [Torri ar draws.] Dyna beth rwy'n hoffi ei weld. [Chwerthin.] Ond rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad y prynhawn yma yn cael hyder yn ein gwelliant ac yn cefnogi'r gwelliant mewn gwirionedd, fel y gallwn symud ymlaen, drwy'r pwyllgor safonau, i hyrwyddo uniondeb y sefydliad hwn a gweithredoedd ein Haelodau Cynulliad.
Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn fyr gan fy mod yn credu bod fy nghyd-Aelod, Caroline Jones, wedi ymdrin â llawer iawn wrth agor y ddadl hon. Rwy'n codi heddiw i ddangos fy nghefnogaeth i gyflwyno cofrestr yng Nghymru. Gyda'r pwerau ychwanegol, mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, does bosibl nad yw'n bryd cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl.
Rwyf ychydig yn siomedig gyda gwelliant y Ceidwadwyr. Mae'n creu ychydig o anwadalu ac oedi ac mae'n teimlo fel ymgais i'w wthio i'r naill ochr, ond nid yw'r ddadl heddiw yn ymgais i gyhuddo, i feio na haeru bod unrhyw beth anghywir wedi'i wneud. Mae lobïo yn weithgaredd cyfreithlon a gwerthfawr. Mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach a byddai cofrestr yn rhoi mesurau rheoli ar waith er mwyn sicrhau nad yw ein democratiaeth ni yng Nghymru ar werth i unrhyw fuddiant breintiedig. Credaf fod ymddiriedaeth mewn democratiaeth ar hyn o bryd yn is nag erioed, ac rwy'n gobeithio'n fawr y caiff y cynnig hwn ei gefnogi heddiw, heb ei ddiwygio, fel y gall y Cynulliad hwn ddechrau gwneud gwaith i amddiffyn a diogelu democratiaeth dryloyw ac iach, a dechrau mewn ffordd fach ar y gwaith o adfer yr ymddiriedaeth honno.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw. Ymchwiliad i lobïo oedd y darn cyntaf o waith sylweddol i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y pumed Cynulliad. Fel pwyllgor, credwn fod angen i drafodaethau ar lobïo fod yn rhan o ddeialog barhaus mewn unrhyw ddemocratiaeth agored a chydgysylltiedig. At hynny, roedd y pwyllgor blaenorol wedi cytuno mewn adroddiad cynharach ei fod yn bwnc y dylid ei adolygu'n rheolaidd.
Fel pwyllgor, daethom i'r casgliad o'r dystiolaeth a gasglwyd nad oes ateb hawdd i'r cwestiynau ynglŷn â sut i ddiffinio neu rannu gwybodaeth am lobïo. Nid oedd unrhyw ddiffiniad clir na chyson o bwy oedd yn lobïwr na pha wybodaeth sydd angen ei chasglu. Clywsom lawer o bryderon am y drefn lobïo yn San Steffan, sydd ond yn canolbwyntio ar Weinidogion ac uwch weision sifil, a chlywsom bryderon hefyd ynglŷn â'r gofrestr a oedd yn cael ei chyflwyno yn yr Alban, a'r angen i ystyried gwerth y wybodaeth y byddai'n ei chasglu. Felly, fel pwyllgor, daethom i'r casgliad fod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn.
Mae canfyddiadau ein hadroddiad yn safbwynt dros dro. Teimlai'r pwyllgor ei bod yn hollbwysig inni ddysgu o brofiad a chasglu tystiolaeth bellach o arferion gorau. Ar adeg ein hadroddiad, roedd hi'n ddyddiau cynnar iawn ar ddeddfwriaeth yr Alban a bydd gennym ddiddordeb yn yr adolygiad o'i deddfwriaeth yn 2020.
Yn ystod ein hymchwiliad, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai dyddiaduron Gweinidogion yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, o fis Mawrth 2017. Croesawyd hyn yn eang gan y rhai y siaradasom â hwy fel rhan o'n hymchwiliad, ac fel pwyllgor cytunasom i ddychwelyd at hyn fel rhan o'n gwaith dilynol i ganiatáu amser ar gyfer cyhoeddi dyddiaduron gweinidogol i asesu pa mor ystyrlon a gwerthfawr ydynt o ran gwella tryloywder.
Roedd y pwyllgor yn awyddus i gymryd camau yn ystod y cyfnod interim hwn i gynyddu tryloywder ac mae'r datganiad ysgrifenedig gan y Llywydd heddiw yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar ein hargymhellion. Yn benodol, argymhellwyd gennym y dylid cynnal treial dethol i gyhoeddi dyddiaduron Aelodau'r Cynulliad, a derbyniwyd hynny gan y Comisiwn, ac mae swyddogion wedi gwneud gwaith paratoadol ar ffurf arfaethedig cynllun peilot.
Mae effaith yr argymhellion hyn yn faterion y byddwn yn sicr o'u hystyried fel pwyllgor pan ddychwelwn at y pwnc hwn. Ar ben hynny, rydym yn ystyried comisiynu ymchwil i'r modd y ceisir dylanwadu, a sut y dylanwadir ar wleidyddion. Yn ein hymchwiliad, roedd yn amlwg o'n gwaith nad oedd fawr iawn o waith ar y maes hwn. Bydd hyn yn helpu i lywio ein gwaith pellach, a chredwn y bydd yn gwella ein dealltwriaeth o sut y mae lobïwyr yn gweithredu yng Nghymru.
Ochr yn ochr â'r camau interim hyn, anogodd y pwyllgor y diwydiant lobïo i arwain yn ystod y cyfnod interim hwn a dangos sut y gallai cofrestr wirfoddol weithredu a sut y gallai ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol am ddylanwad ar Aelodau. Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at ddychwelyd at y pwnc tuag at ddiwedd y Cynulliad a chynnal y drafodaeth a'r ddeialog hon.
Dwi'n falch iawn i ddilyn Jayne Bryant, a dweud y gwir, ac a gaf i ei llongyfarch hi ar ei chyfraniad ac am ei harweiniad yn hyn o beth? Felly, diolch am y geiriau doeth yna, Jayne.
Nawr, mae'r cynnig gerbron yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru—wel, hynny yw y Senedd, ers tua awr yn ôl—yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y Deyrnas Unedig sydd heb gofrestr lobïwyr. Nawr, ym Mhlaid Cymru, dŷn ni'n cytuno efo'r angen am gofrestr lobïwyr. Dwi'n cymryd y pwynt ynglŷn â sut mae diffinio hynny a beth sydd angen i fod ynddo fe, ac mae angen rhedeg pethau ymlaen llaw i weld sut mae'n gweithio ac ati, ond, yn sylfaenol, bu inni gadarnhau fel grŵp Plaid Cymru, rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl, fod angen cael cofrestr lobïwyr. Felly, byddwn yn pleidleisio heddiw o blaid cael cofrestr lobïwyr. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch fy mod wedi ymwneud â mater lobïo, oherwydd pe na bawn wedi gwneud hynny, mwy na thebyg y buaswn yn dal i fod yn AC Plaid Cymru.
Rwy'n edmygu Alexandria Ocasio-Cortez yn yr Unol Daleithiau yn fawr, oherwydd ei bod yn cael ei hariannu gan y bobl ac nid gan lobïwyr. Rwy'n cofio Carwyn Jones yn dweud nad oedd gan lobïwyr fynediad at Weinidogion. Nawr, mae gan Carwyn berthynas ryfedd gyda'r gwirionedd, ond yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw berthynas o gwbl—[Torri ar draws.]—dim perthynas o gwbl, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod fod gan lobïwyr fynediad at—
Na. Rwyf wedi diffodd eich meic. A gaf fi ddweud wrthych, ni chewch wneud cyhuddiadau fel hynny am Aelod o'r Cynulliad hwn? Felly, os gwnewch chi gadw at fater cofrestr lobïwyr, ni chawn unrhyw broblemau. Gallwch barhau.
[Anghlywadwy.]—trin mewn modd gwahaniaethol iawn yn y Siambr hon. Rhaid imi ddatgan hynny ar gyfer y cofnod.
Mae arnom angen rheoleiddio cryf ac mae arnom angen cofrestr. Nawr, roedd y cwmni lobïo Deryn mor bryderus ynglŷn â'r cwestiynau roeddwn yn eu gofyn amdanynt fel eu bod wedi cysylltu â Phlaid Cymru hyd yn oed, a dweud wrth yr arweinwyr am gadw trefn arnaf. A chadarnhawyd hynny'n ysgrifenedig gyda'r cwynion a welais wedi'u cyflwyno i'r blaid. Cofiaf gael fy ngalw gan Leanne Wood i'w swyddfa un tro a gofynnodd i mi pam fy mod yn gofyn cwestiynau am Deryn. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio i Leanne. Os gwelwch yn dda.
Na, ewch yn eich blaen. Na, ewch yn eich blaen.
Ddirprwy Lywydd, rwyf newydd gael fy nghyhuddo o ddweud celwydd. Beth y bwriadwch ei wneud am hynny?
A gaf fi ddweud—[Torri ar draws.] A gaf fi ddweud, mater i mi—[Torri ar draws.] Nawr, rhywun arall. A gaf fi ddweud, fi sydd i benderfynu pwy sy'n derbyn ymyriad ai peidio, felly nid wyf wedi dweud eich bod chi'n mynd i gymryd ymyriad, ac awgrymaf eich bod yn parhau? Ond rhaid i chi fod yn ofalus ynglŷn â chynnwys eich araith.
Fe ailadroddaf, fe'm gwysiwyd i swyddfa'r arweinydd, yn y dyddiau hynny, a dywedwyd wrthyf yn blwmp ac yn blaen nad oedd croeso i'r ffaith fy mod yn dilyn yr agenda roeddwn yn ei dilyn. Mae'r prif chwip newydd fy ngalw'n gelwyddgi, a dweud y gwir, ac ni ddywedwyd dim am hynny, Ddirprwy Lywydd, a dyna'r prif chwip a'm ffoniodd pan oeddwn ar fy ngwyliau. Fe ffoniodd fi i ofyn beth oeddwn yn ei wneud yn gofyn cwestiynau am Deryn a'u perthynas gydag Associated Community Training ar y pryd. Fe ddilynoch chi hynny eto gyda galwad i mi pan oeddwn yn Belfast, yn ymgyrchu dros yr etholiad gyda Sinn Féin allan yno, a dweud wrthyf am roi'r gorau iddi. A ydych chi'n cofio hynny? Rwy'n dweud celwydd; rwy'n dweud celwydd, ydw i? A yw'r iaith honno'n dderbyniol, Ddirprwy Lywydd? Fe'm galwodd yn gelwyddgi.
Rwy'n gwrando ar eich araith. Rwy'n gwrando ar eich araith.
Mae hi wedi fy ngalw'n gelwyddgi.
Rwy'n gwrando ar eich araith. Rwy'n caniatáu i chi siarad yn y ddadl hon. Awgrymaf eich bod yn siarad, ac rwyf wedi eich rhybuddio unwaith am gynnwys eich araith. Nid wyf eisiau gorfod dweud wrthych o hyd, felly parhewch â'ch araith a byddaf yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a yw'n gywir neu'n anghywir.
Ar achlysur arall, dywedodd fy uwch gynghorydd wrthyf fod Adam Price wedi dweud y byddai canlyniadau pe baem yn parhau i fynd ar ôl Deryn. Nawr, codais hyn gydag Adam a gwadodd iddo ddweud hynny. Yr hyn sy'n ddiddorol, serch hynny, yw—[Torri ar draws.] Gwn pwy rwy'n ei gredu a bod yn onest, ond yr hyn sy'n ddiddorol yw, 11 diwrnod ar ôl i mi wneud sgandal Ofcom gyda'r cwmni lobïo hwnnw'n gyhoeddus—dim ond 11 diwrnod yn ddiweddarach—cefais fy atal o grŵp Plaid Cymru am y tro cyntaf.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £17 biliwn, ac rwy'n barod iawn i ildio os oes unrhyw Aelod yn dymuno ymyrryd yma, oherwydd rwy'n mynd i ofyn cwestiwn gan fod bargen wedi'i tharo rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn 2012 a 2013, sef £20 miliwn ar gyfer prentisiaethau. Nawr, roedd dirprwy gadeirydd Plaid Cymru ar y pryd yn gyfarwyddwr cwmni lobïo. Mae gennyf gwestiwn, mewn gwirionedd: a wnaeth eu cleientiaid elwa o gwbl o'r fargen a wnaethoch, Leanne Wood? [Torri ar draws.] Mae'r diwydiant hwn—. Cwestiwn ydyw; atebwch ef os mynnwch. [Torri ar draws.] Rwy'n fwli, rwy'n gelwyddgi, rwy'n dweud celwydd.
Edrychwch, rwy'n disgwyl i chi orffen eich araith o fewn yr amser, ac rwy'n disgwyl ichi gael rhywfaint o urddas a pharch, fel y dylai pawb yn y Siambr hon ei gael. Ac os gwelwch yn dda peidiwch â dal ati i enwi pobl, ond cadwch at ffeithiau go iawn am gofrestr lobïo.
Rwy'n esbonio pŵer lobïwyr, sut y maent yn dylanwadu ar y broses wleidyddol, sut y pwyswyd ar Aelodau Cynulliad fel fi—sut y pwyswyd arnom—mewn ymgais i gael eu bwlio buaswn yn dweud gan fwlis o'r math salaf. [Torri ar draws.] Alun Davies, fe wyddoch yn iawn ble mae'r gwter, gan eich bod newydd sôn am y gwter.
Na, na.
Fe wnaf ailadrodd—ie, bwlis o'r math salaf. Rydych chi'n ceisio bod yn fawr ac yn galed, ond nid ydych, mewn gwirionedd.
Beth bynnag, Ddirprwy Lywydd, credaf fy mod wedi gwneud fy mhwynt. Torrwyd ar fy nhraws. Gall pobl Cymru weld fy mod wedi cael fy ngalw'n gelwyddgi, dywedwyd wrthyf fy mod wedi dweud celwydd, cefais fy ngalw'n fwli, a dim o hyn—. Nid ydych wedi ymyrryd mewn unrhyw fodd i wneud unrhyw beth am yr iaith warthus honno. Buaswn yn dweud 'diolch', ond nid wyf yn meddwl bod y Siambr hon yn haeddu diolch yr eiliad hon.
A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt?
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. A gaf fi ddweud ar y dechrau fod y gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn un a gefnogwn, o ystyried ei fod yn cyd-fynd â'n barn mai mater i Gomisiwn y Cynulliad a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad fwrw ymlaen ag ef yw hwn yn bennaf ar hyn o bryd, a diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad adeiladol yn y ddadl bwysig hon.
Os edrychwn ar ran 1 y cynnig, mae'n bwysig ein bod yn ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad trawsbleidiol ar lobïo, a ddaeth i'r casgliad, fel y dywedodd Jayne Bryant, fod yna ddiffyg eglurder ar draws y systemau a sefydlwyd yn Lloegr a'r Alban. Fel y dywedodd Jayne, mae'r ffaith fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi ymrwymo i adolygu ei argymhellion y flwyddyn nesaf, ac mae hwn, fel y dywedais—ac yn wir, fel a welir yng ngwelliant y Ceidwadwyr—yn fater i Gomisiwn y Cynulliad ei ystyried yn y lle cyntaf—. Ond a gaf fi ddweud i ateb yr hyn a ddywedodd Dai Lloyd, fod yn rhaid inni ddiolch i Jayne Bryant, a etholwyd gennych ar draws y Siambr fel Cadeirydd y pwyllgor safonau, am y ffordd ragorol y mae'n cadeirio'r pwyllgor hwnnw, a chydnabod ei bod o ddifrif ynglŷn â hyn ac yn bwrw ymlaen ag ef, gan ystyried y pwyntiau a godwyd?
Os edrychwn ar bwynt 2, mae Gweinidogion eisoes wedi ymrwymo i ddarparu tryloywder ynglŷn â'u hymrwymiadau a'u digwyddiadau. Fe'u cyhoeddir bob chwarter ar llyw.cymru. Unwaith eto, nodaf adroddiad y pwyllgor safonau sy'n awgrymu, fel y clywsom, y dylai Aelodau Cynulliad hefyd ystyried cyhoeddi eu cyfarfodydd. Mae cynllun peilot yn cael ei gynnal gan y pwyllgor ar hyn o bryd, ac mae'n galw ar bob un ohonom i ystyried goblygiadau hynny. Felly, rwy'n credu y bydd canlyniadau'r cynllun peilot yn llywio'r camau nesaf ar gyfer Aelodau'r Siambr hon, ac rydym yn croesawu'r gwaith ac yn edrych ymlaen at y canlyniad.
O ran pwynt 3 y cynnig a'r cynnig i ymgynghori, wrth gwrs, fel mater o egwyddor, ni chredwn y dylai'r Llywodraeth gychwyn deddfwriaeth yn y maes hwn, ond nid yw'n ein hatal rhag deddfu ar gais y ddeddfwrfa, yn dilyn cyfnod o ystyriaeth drawsbleidiol, a byddai'r Llywodraeth yn croesawu cydweithio o'r fath. Felly, mae'n amlwg nad yw'n ei ddiystyru'n llwyr o ran ein rôl ni i fwrw ymlaen â hyn. Mae'n bwysig ac yn glir y dylai Comisiwn y Cynulliad chwarae'r rhan bwysig honno yng ngweithrediad unrhyw system gofrestru, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Mae'n hanfodol fod rôl y ddeddfwrfa yn cael ei defnyddio'n llawn mewn trafodaeth o'r fath.
Felly, rwy'n falch o nodi mai argymhelliad olaf y pwyllgor safonau oedd y dylai un o bwyllgorau'r Cynulliad ystyried yr adrannau sy'n berthnasol i Gymru yn Neddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014. A chan fod Deddf Cymru 2017 wedi'i rhoi mewn grym bellach, byddai'n ymddangos yn amserol i un o bwyllgorau'r Cynulliad ystyried bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, gan ymgynghori â'r cyhoedd yn ôl yr angen wrth gwrs.
Nawr, rydym yn cydnabod y gall y sector materion cyhoeddus yng Nghymru chwarae rôl ddilys yn cynyddu dealltwriaeth o wleidyddiaeth a llywodraeth ddatganoledig, a'i fod eisoes yn gwneud hynny, ac mae llawer o gwmnïau materion cyhoeddus yn cynrychioli elusennau, sefydliadau trydydd sector, ac yn trefnu digwyddiadau ar eu rhan—digwyddiadau rydym i gyd yn hapus i'w mynychu, rwy'n gwybod, ynghyd ag Aelodau ar draws y Siambr hon, er mwyn dysgu mwy am y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ledled Cymru ac i dynnu sylw ato.
Rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, eich bod wedi clywed y pwynt o drefn yn gynharach gan Huw Irranca-Davies, a hoffwn atgoffa plaid Brexit fod David Rowlands, cyn aelod o UKIP, fel llawer ohonoch, yn aelod o'r pwyllgor safonau yn ystod ei drafodaethau ynglŷn â lobïo a chytunodd ar ei adroddiad ar y pryd. Felly, mae'n bwysig. Gwn eich bod yn gweld eich rôl yn y gwaith o fwrw ymlaen â hyn. Ond yn anffodus, rwy'n gorffen ar y pwynt a godwyd gan Huw Irranca-Davies—fel Aelod o Lafur Cymru ac o'r Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur Cymru dros 19 mlynedd ddiwethaf ein 20 mlynedd o ddatganoli—a'n bod wedi cael y sylw hwnnw a wnaed gan yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol. Rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o'r Llywodraeth honno ac yn falch o fod yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac edrychaf ymlaen at eich ystyriaeth o'r pwynt hwn. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mark Reckless i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl? A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth i'n cynnig heddiw, a rhannu fy siom fod y Ceidwadwyr a Llafur yn dod at ei gilydd heno i ymwrthod â thryloywder cofrestr lobïo?
Cyflwynodd Caroline—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, â phleser, Andrew.
Nid ydym yn dod at ein gilydd i ymwrthod â'r gofrestr. Yr hyn a ddywedwn yw y dylid caniatáu y gwaith roedd eich Aelod—a gafodd ei ddyfynnu wrth i'r Gweinidog grynhoi—David Rowlands, yn rhan ohono yn y pwyllgor hwnnw, fel ein bod yn cael y canlyniad gorau posibl ac nad ydym yn rhoi rhywbeth ar waith nad yw'n addas i'r diben. Does bosibl na allwch gefnogi hynny, a dyna'r ffordd y dylem symud y pwynt hwn yn ei flaen.
Mewn egwyddor, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg, Andrew. Fodd bynnag, roedd cyfeiriad, fe gredaf, yng nghyfraniad Dai, at y ffaith bod hyn wedi cael ei ystyried am y tro cyntaf ddwy flynedd a hanner yn ôl, a chroesawaf yr hyn a ddywedoch chi yn eich araith, ond fe'i cefais yn anghyson mewn un rhan pan ddywedoch eich bod am adael hyn yn nwylo'r Comisiwn ac yna, ar ddiwedd eich araith, fe ddywedoch chi mai'r pwyllgor safonau a ddylai symud pethau yn eu blaenau. Ac mae'n rhoi rhywfaint o hyder i mi eich bod yn aelod o'r pwyllgor safonau, ac mae gennyf ffydd yng ngwaith David ar hynny, ac ategaf yr hyn a ddywedodd Jane Hutt am Jayne Bryant a pha mor dda y mae'n cadeirio'r pwyllgor hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen ag ef yn gyflym ac yn sicrhau canlyniad ac nad ydym yn mynd i eistedd, gan ddisgyn rhwng dwy stôl o ran p'un ai'r pwyllgor safonau neu'r Comisiwn sy'n ei wneud.
O ran hanes Caroline o rywfaint o'r lobïo a'r sgandalau a welsom, o leiaf ar lefel y DU, a rhai o'r newidiadau a ddeilliodd o hynny, cefais fy synnu braidd gan y pwynt o drefn oherwydd clywais gyfeiriad clir iawn at enghraifft benodol gan Caroline, sef enghraifft Bernie Ecclestone. A chredaf fod hanes hyn yn cael ei dderbyn—fod y Cabinet, yn fuan ar ôl ethol y Llywodraeth Lafur yn 1997, wedi penderfynu eithrio Fformiwla 1 o waharddiad ar hysbysebu tybaco ac yn fuan ar ôl hynny, daeth allan fod y Blaid Lafur wedi derbyn £1 filiwn ychydig cyn hynny gan Bernie Ecclestone. Felly, nid wyf yn credu ei bod hi'n gywir dweud nad oes unrhyw honiad o gamwedd nac unrhyw dystiolaeth o unrhyw beth. Rwy'n credu bod y Blaid Lafur yn iawn i roi'r £1 filiwn yn ôl, ac i fod yn garedig, efallai mai rhywfaint o naïfrwydd ydoedd ar ran Prif Weinidog newydd plaid a oedd wedi bod allan o bŵer ers cyhyd. Ac rwy'n falch ein bod wedi gweld rhai o'r newidiadau ar lefel y DU a welsom ers y pwynt hwnnw.
A gaf fi ddiolch i Mandy am ei haraith gryno pan ddywedodd na ddylai democratiaeth fod ar werth? Credaf fod Jayne wedi rhyw lun o groesawu'r ddadl hon, a diolch ichi am hynny, ac rwy'n cydnabod eich bod chi a'ch pwyllgor wedi bod yn gweithio ar hyn. Gobeithio y byddwch yn parhau i weithio arno ac yn ei yrru ymlaen i sicrhau canlyniad. Soniais am Dai eisoes, a diolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth.
Yna, cawsom ein goleuo gan Neil McEvoy a rhywfaint o'i hanes penodol ynglŷn â'r materion lobïo a'i ymwneud â Phlaid Cymru, er bod anghytundeb yn eu cylch. Efallai y dylent fabwysiadu dull Andrew o nodi pob cyfarfod a allai fod yn lobïo perthnasol a chyhoeddi'r canlyniadau. Ac nid yn unig ei fod yn dangos bod Andrew R.T. yn gwneud ei waith, ond mae'n dangos pa sefydliadau sy'n dod i mewn i lobïo gwleidyddion, sef eu gwaith. Felly, rwy'n credu bod sicrhau tryloywder yn y trafodion hynny yn beth da iawn. Diolch i Jane Hutt am ei hymateb i'r ddadl ac rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth am Jayne Bryant a'i phwyllgor.
Mae ambell bwynt o sylwedd yr hoffwn eu gwneud cyn gorffen. Mynegwyd rhywfaint o bryder ynglŷn â chost cofrestr lobïwyr, nid heno, ond cofiaf yn gynharach fod Mike Hedges wedi sôn am y gost, ac yn dweud, rwy'n credu, y gallai'r lobïwyr a fyddai'n llofnodi'r gofrestr ei thalu. Ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Caroline Jones, ni ddylem roi pris ar ddemocratiaeth. Mae rhai wedi dadlau mai nifer cymharol fach o achosion o dorri rheolau lobïo a fu yng Nghymru yn y gorffennol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt, heb gofrestr lobïwyr, sut y gallwn fesur graddau a natur lobïo yng Nghymru?
Yn fy marn i, mae'n gyfeiliornus i ddweud os nad ydym wedi cael llawer o sgandalau lobïo cyhoeddus yng Nghymru, fod hynny'n golygu na ddylem gael cofrestr. Ni ymosodwyd ar yr adeilad hwn hyd y gwn, ond a ddylem gael gwared ar fesurau ddiogelwch? Wrth gwrs na ddylem. Pe na bai gennym swyddogion diogelwch yn archwilio bagiau, sut fyddai maes awyr yn darganfod eitemau gwaharddedig? Er mwyn dod o hyd i achosion o dorri rheolau, mae angen i chi chwilio amdanynt. Yn sicr, mae angen ichi fod yn ymwybodol o ble y gallent ddod, pwy a reoleiddir, ac ar gyfer beth.
Nododd Jayne bwyntiau diffiniol priodol, ond buaswn yn dweud bod pobl yn y Siambr hon yn dadlau dros fwy o bwerau i'r Cynulliad ac wrth inni gael y pwerau hynny, gallwn ddisgwyl gweld mwy o lobïo. Mae angen inni fod ar y blaen ac nid ar ei hôl hi, a gwneud yn siŵr bod rheolau'n glir i gyrff sy'n chwilio am ddeialog gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion. Y Gweinidogion hynny ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru y cred fy mhlaid ei bod yn allweddol eu hystyried a chofrestru'r gweithgareddau hynny.
Nid pardduo lobïwyr neu ragdybio euogrwydd yw hyn. Rydym yn derbyn bod lobïo yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach, ond mae'n rhaid ei reoleiddio. Nid ydym am fyw dan gysgod lle rhagdybir dylanwad gormodol. Rhaid inni wneud yn siŵr y cyfyngir ar ddylanwad gormodol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod gan Materion Cyhoeddus Cymru eu cod ymddygiad a bod cyrff lobïo am sefydlu arferion da. Byddai cofrestr statudol yn atgyfnerthu hynny, ac o'r herwydd, rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi ein cynnig heno.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y bleidlais gyntaf. Na, iawn. Diolch.