Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Weinidog, mae'r teithwyr ar reilffordd Rhymni wedi cael addewidion ynghylch y trenau 769, a mwy o gapasiti, ers mis Mai 2018, ac maent yn dal i aros. Nawr, rwy’n derbyn eich pwynt ynglŷn â’r hyn rydych wedi'i ddweud wrth Hefin David—sef, pan fydd y trenau 769 yn cael eu cyflwyno, y bydd hynny’n arwain at gynnydd yn y capasiti. Ond dywedasoch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu mewn modd hyblyg o ran edrych ar gapasiti'r trenau newydd pan fyddant yn rhoi trenau ar waith yn lle’r trenau 769 yn 2023. A allwch gadarnhau mai dim ond capasiti uwch o gymharu â nawr yw’r capasiti uwch y byddwn yn ei weld yn 2023, ac nad yw'n gapasiti uwch—fel y mae pethau, ar ôl y trenau 769, bydd gostyngiad yn y capasiti yn 2023?