Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Credaf fod rhywun sy’n frwdfrydig a galluog iawn ym myd trenau wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig fod y data a ddefnyddiwyd yn gwbl gywir. A chyfarfûm heddiw, mewn gwirionedd, â Trafnidiaeth Cymru, i drafod yr union fater hwn eto, ac roeddem yn cytuno bod gwir angen nid yn unig cynyddu capasiti yn y tymor byr—yn y ddwy flynedd nesaf—ond cynnal y capasiti hwnnw wedyn, ac os oes angen, ei gynyddu ymhellach fyth, os yw’r teithwyr yn galw am hynny. Os bydd galw'r teithwyr yn cynyddu ymhellach, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu mewn modd hyblyg i ateb y galw gan etholwyr yn y rhan honno o Gymru.